Neidio i'r prif gynnwys

Mae Gŵyl Foodies yn dod i Barc Bute Caerdydd

30 Mawrth 2023


 

Mae GŴYL FOODIES – cyfres fwyaf y DU o wyliau bwyd a cherddoriaeth gyda’r enwogion – yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed gyda dathliad sy’n addas i Frenin!

Bydd Foodies yn ymweld â Chaerdydd rhwng 6 ac 8 Mai, ac yn cyflwyno casgliad o gogyddion enwog a sêr y byd cerddoriaeth sydd ar frig y siartiau, gan gynnwys Scouting For Girls, Toploader, Craig Charles Funk and Soul Club a’r canwr-gyfansoddwr o’r Alban sy’n magu enw da i’w hun yn gyflym, Callum Beattie.

Mae’r ŵyl yn cael ei hadnabod fel y Gastro-Glastonbury, a bydd yn cael ei chynnal ym Mharc hyfryd Bute, Caerdydd yn ystod penwythnos cyfan Gŵyl Banc y Coroni.  Bydd y digwyddiad tri diwrnod yn cynnwys arddangosiadau coginio byw gan gogyddion blaenaf o dras MasterChef, y Great British Bake Off a’r Great British Menu, yn ogystal â chogyddion sydd wedi ennill sêr Michelin a gwobrau eraill.

Mae enwau’r sêr cyntaf sydd wedi’u cyhoeddi i ymddangos yn y theatrau coginio byw yn cynnwys: Enillydd Great British Bake Off 2022, Syabira Yusoff, enillwyr Bake Off: The Professionals 2021, Andrew Minto a Michael Coggan, tad a merch y Great British Menu, James a Georgia Sommerin, o Home ym Mhenarth sydd wedi ennill seren Michelin a 3 gwobr AA, ac enillydd rhanbarthol y Great British Menu a’r cogydd â seren Michelin, Hywel Griffith, o Beach House yn Oxwich sydd wedi ennill 3 rhosglwm AA.

Hefyd yn arddangos eu sgiliau coginio fydd Owen Morgan, cogydd BBC Saturday Kitchen a Channel 4 Sunday Brunch, a pherchennog grŵp o fwytai sydd wedi’u cymeradwyo gan Michelin, Grupo 44, sy’n cynnwys Bar 44 ac Asador 44 yng Nghaerdydd, a Tommy Heaney, o Heaneys yng Nghaerdydd.

Dywedodd Syabira Yusoff: “Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy angerdd a choginio o flaen cynulleidfa fyw ar daith Gŵyl Foodies. Mi fydda i’n pobi rhai o fy hoff gacennau, yn rhannu syniadau ryseitiau ac yn siarad am fy mhrofiad anhygoel ar Bake Off”

Dywedodd Hywel Griffith: “Ar ôl coginio yng Ngŵyl Foodies Bryste y llynedd, rhoddais adborth i’r tîm i ddod â’r ŵyl i Gymru…. a dyma hi yng Nghaerdydd eleni! Pa ffordd well o dreulio’r penwythnos, na cherdded o gwmpas wrth fwyta bwyd blasus, gwylio rhai o’ch hoff gogyddion yn coginio yn y theatrau byw a gwrando ar gerddoriaeth wych”

Mae’r wledd gerddorol yr un mor ysblennydd gyda ffefrynnau’r gwyliau sy’n gwerthu platinwm Scouting For Girls, band hoff y dorf o’r 90au, Toploader, a’r canwr-gyfansoddwr o’r Alban sy’n magu enw da i’w hun yn gyflym, Callum Beattie. I ddechrau’r penwythnos yn iawn, bydd DJ radio y BBC, actor Coronation Street a funkster go iawn, Craig Charles Funk and Soul Club yn dod ag awyrgylch y parti i’r parc.

Dywedodd Scouting For Girls: “Ry’n ni wastad yn edrych ymlaen at Foodies a fyddai hi jyst ddim yn haf hebddi! Mae naws wych i’r gwyliau ac ry’n ni’n aml yn dod â’n teulu a’n ffrindiau draw i fwynhau’r hwyl. Ry’n ni i gyd yn hoffi’r Bao Buns Japaneaidd a’r Jamaican Jerk Chicken, felly byddwn ni’n edrych ymlaen at lowcio hynny hefyd!” “Welai chi cyn hir Caerdydd.”

Gan arddangos y gorau o goginio Cymru, bydd llawer o’r cogyddion Michelin gorau sydd wedi ennill gwobrau lu yn ymddangos hefyd, gan gynnwys: Anand George, pen-cogydd Purple Poppadom yng Nghaerdydd sydd ag argymhelliad Michelin, seren MasterChef: The Professionals, Dave Killick, pen-cogydd Heathcock yn Llandaf sydd ag argymhelliad Michelin, Antonio Simone, cogydd-noddwr o fwyty Aliwm uchel ei barch yn y Barri, Antonio Cersosimo o Casanova yng Nghaerdydd sydd ag argymhelliad Michelin, a’r cogydd-noddwr enwog Lee Skeet o Cora yng Nghaerdydd.

Drwy gydol y penwythnos 3 diwrnod, bydd ymwelwyr yn mwynhau amserlen ar thema frenhinol o bencampwyr sioeau coginio teledu a chogyddion arobryn yn y theatrau byw rhyngweithiol. Yn Theatr y Cogyddion, bydd enwogion yn creu eu prydau enwog ac yn rhannu awgrymiadau a thriciau newydd, ac yn y Theatr Cacennau a Phobi bydd sêr pobi yn creu campweithiau ac yn cynnig danteithion melys i’ch temtio.

Yn yr ysgol goginio i blant, mae uwch-gogyddion Foodies yn cael hwyl wrth goginio, gan helpu gwesteion iau i baratoi bwyd blasus y gallan nhw ei fwynhau wrth adael.

Ymhlith y dosbarthiadau meistr yn y Theatr Diodydd mae cyfle i flasu Champagne, Cwrw, Seidr, Coctels a Gwin – bydd cyflwynwyr yn cynnwys arbenigwr diodydd y BBC, Joe Wadsack, Distyllfa Caerdydd a Bang On Brewery.

Gall ymwelwyr bori trwy’r ffasiynau bwyd diweddaraf yn y Pentref Siopa, cwrdd â chynhyrchwyr lleol yn y Farchnad Artisan a blasu prydau newydd egsotig ac anarferol yn y Babell Wledda – sy’n cynnwys ystod o fwyd stryd i dynnu dŵr i’r dannedd a danteithion o bob cwr o’r byd. Mae atyniadau eraill yn cynnwys ffair, gweithgareddau i blant, ac ardaloedd addas i deuluoedd.

Nodweddion ychwanegol gan Foodies ar gyfer 2023

Her y Cogydd Gorau o’r Teledu: Bydd brwydr y goreuon yn gweld enillwyr a rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol MasterChef yn cystadlu gydag enillwyr Bake Off a’r Great British Menu wrth iddynt gamu i’r llwyfan byw, mewn cystadleuaeth goginio hynod gystadleuol i greu’r pryd mwyaf trawiadol.

Dewch i gwrdd â’r awduron a darganfod ryseitiau newydd yn y Cookbook Shop – gyda sesiynau llofnodi llyfrau gan yr enwogion, cyfleoedd am luniau a’r cogyddion blaenaf yn arddangos eu llyfrau coginio diweddaraf.

Bydd Pencampwr bwyta Tsilli y byd, Shahina Waseem, yn herio’r rhai hynny sy’n ddigon dewr i gystadlu. Bydd cystadlaethau’n cael eu darlledu i gynulleidfaoedd ‘League of Fire’ ledled y byd.

Bysedd Gwyrdd: dewch i gwrdd â’r arbenigwyr sy’n cynnal sesiynau ar dyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun, darganfod rhai newydd, syniadau ryseitiau a manteision iechyd.

Cake-aoke: Cyfle i’r gynulleidfa gyd-ganu a chyd-bobi â chyflwynwyr amryddawn Foodies.

Gall Plant Goginio!: Bydd darpar MasterChefs iau yn mynd ati’n greadigol yn yr Ysgol Goginio i Blant, a gynhelir gan Uwch-Gogyddion Foodies.

Bydd prif lwyfan Musicians Against Homelessness yn cynnwys dros 25 o artistiaid gwych. Gan gynnwys y prif berfformwyr, y gorau o’r bandiau lleol a chyflwyniad i artistiaid newydd cyffrous o bob cwr o’r DU.

Dywedodd y cyfarwyddwr Sue Hitchen: “Rydyn ni wrth ein boddau yn dod â’n dathliad o fwyd, diod ac adloniant anhygoel i Gaerdydd, ac yn falch o gefnogi cynhyrchwyr a bwytai crefft lleol.

“Mae wedi bod yn anodd i bob un dros y blynyddoedd diwethaf, felly i helpu i gadw pethau’n fforddiadwy mae prisiau’r gwyliau wedi’u rhewi am y drydedd flwyddyn yn olynol – er bod ein sêr a’n nodweddion yn mynd yn gwella bob blwyddyn. Rydyn ni’n cynnig diwrnod allan o werth gwych i deuluoedd a ffrindiau.”

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae’r ŵyl yn cefnogi Musicians Against Homelessness (MAH) a bydd tocynnau yn codi arian ar gyfer elusen digartrefedd y DU, Crisis.

Dywedodd sylfaenydd MAH, Emma Rule: “Ry’n ni wrth ein boddau am fod yn ôl yn Foodies gyda’n llwyfan cerddoriaeth a’n rhaglen wych o artistiaid, gan godi arian y mae mawr ei angen yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Dyddiadau a thocynnau

Parc Bute, Heol y Gogledd, Caerdydd, CF10 3ER

6 Mai – 8 Mai 2023 – Penwythnos Gŵyl Banc Coroni’r Brenin

Tocynnau diwrnod o £3 (plentyn) a £19 (oedolyn)

Tocynnau penwythnos o £38 (3 diwrnod)

Gŵyl Foodies • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd

*Mae mynediad i’r holl theatrau wedi’i gynnwys ym mhris y tocyn