Neidio i'r prif gynnwys

Rhybudd ymlaen llaw o waith Gwella Rheilffordd Twnnel Hafren Mehefin 2023

24 Ebrill 2023


 

Roeddem am roi rhybudd ymlaen llaw i chi am waith gwella Network Rail a gynhelir yr haf hwn yn Nhwnnel Hafren rhwng De Cymru a Lloegr.

Ar ddydd Gwener 9 Mehefin, dydd Llun 12 i ddydd Sul 18 Mehefin, a dydd Sul 25 Mehefin, bydd ein gwasanaethau rhwng De Cymru a Llundain Paddington yn rhedeg ar lwybr gwyro rhwng Swindon a Chasnewydd, heb stopio yn Bristol Parkway, ac ychwanegu tua awr i amseroedd teithio.

Rydym yn argymell bod cwsmeriaid sydd am deithio rhwng de Cymru a Bryste yn teithio drwy Gaerloyw/Cheltenham Spa gan ddefnyddio Trafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau CrossCountry. Rydyn ni’n bwriadu cael gwasanaeth bws newydd yn ei le rhwng Bristol Parkway a Chasnewydd fodd bynnag mae’r prinder cenedlaethol o yrwyr bysiau yn golygu y gallai fod gennym nifer llai o wasanaethau newydd nag y byddem yn ei obeithio.

Ar ddydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Mehefin, mae’r llwybr gwyro rhwng De Cymru a Swindon hefyd ar gau, a bydd bysiau yn cymryd lle trenau rhwng Bristol Parkway a Chaerdydd Canolog. Ni fydd unrhyw drenau’n stopio yng Nghasnewydd, Patchway, Pilning na Chyffordd Twnnel Hafren.

Bydd ein gwasanaethau trên rhwng Caerdydd ac Abertawe, Caerfyrddin a Doc Penfro yn parhau i weithredu, ac rydym yn parhau i weithredu ein gwasanaethau Caerfyrddin ychwanegol a’n gwasanaeth haf Doc Penfro yn ôl y bwriad.

Mae cynllunwyr teithiau ar-lein wedi’u diweddaru a byddwn hefyd yn gwneud cwsmeriaid yn ymwybodol drwodd yn yr orsaf ac ar gyhoeddiadau’r bwrdd, posteri gorsafoedd, a chyfryngau traddodiadol a chymdeithasol. Ceir mwy o wybodaeth ar www.gwr.com/SevernTunnel hefyd.