Neidio i'r prif gynnwys

10 PETH I'W GWELD A’U GWNEUD YNG NGHAERDYDD YN YSTOD HANNER TYMOR

1 May 2023


 

Mae’r ysgolion wedi cau ar gyfer Hanner Tymor felly  mae Croeso Caerdydd wedi llunio canllaw o 10 peth cyffrous i’w gwneud a’u mwynhau fel teulu.   Rholiwch i lawr i weld atyniadau a digwyddiadau â thocynnau, gweithgareddau llawn hwyl am ddim y gallwch benderfynu yn y fan a’r lle i’w mynychu, dolen i westyau sy’n addas i deuluoedd rhag ofn y byddwch am aros ychydig yn hirach a rhywfaint o gyngor ymarferol y gallai fod angen i chi ei wybod.

Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r atyniadau a’r digwyddiadau niferus yn y ddinas yw hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalennau Gweld a Gwneud a Digwyddiadau am fwy.

1. SEIBIANT MOETHUS YNG NGWESTY’R PARKGATE

Paciwch eich bagiau ac ewch i galon y ddinas i gael seibiant mawr ei angen fel cwpl neu fel teulu, neu fwynhau pryd o fwyd blasus gyda’ch anwyliaid yn ein bwyty a restrir yn y Canllaw MICHELIN, The Sorting Room.

Gyda llawer o bethau cyffrous yn digwydd yng Nghaerdydd dros y gwyliau, mae lleoliad canolog Gwesty’r Parkgate yn lle perffaith i fod ynddo! Archebwch eich arhosiad dros nos yma.

  1. EWCH I WELD ‘SCHOOL OF ROCK’ YN Y THEATR NEWYDD

Roc a rôl a’r ysgol…Pa gyfuniad gwell! Mae Orbit Theatre, cwmni amatur mwyaf blaenllaw Cymru’n cyflwyno School of Rock yn ystod hanner tymor 2023.

Mae’r stori’n dilyn Dewey Finn, sydd wedi methu gwireddu ei freuddwyd o fod yn seren roc hyd yn hyn, ac sy’n penderfynu ennill ychydig o arian parod drwy gogio bod yn athro cyflenwi dros dro mewn ysgol fonedd.  Yno, mae’n troi dosbarth o ddisgyblion academaidd lwyddiannus yn fand roc gwyllt.  Ond all e drefnu iddyn nhw gystadlu ym Mrwydr y Bandiau heb i’w rhieni a phennaeth yr ysgol wybod?

Mae School of Rock, gyda’i fand roc byw gwych o blant a phobl ifanc, yn deyrnged i bŵer trawsnewidol cerddoriaeth. Archebwch ar-lein yma.

  1. HWYL HANNER TYMOR YNG NGHASTELL CAERDYDD

Diddanwch y teulu a mwynhewch atyniad ‘Hanesion y Tŵr Du’ sy’n dod â chyfnod cythryblus o hanes Cymru’n fyw, lle byddwch yn darganfod hanes brwydr ganoloesol yr arwr Cymreig lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg.

Gellir prynu Hanesion y Tŵr Du yn y Swyddfa Docynnau gyda thocyn Mynediad Cyffredinol.  Mwy o wybodaeth yma.

  1. PROFWCH LEDRITH A THRYBLITH YNG NGHASTELL FFWL-Y-MWN

Mae Penwythnos ‘Magic & Mayhem’ 2023 o 27 Mai – 29 Mai. Cewch eich syfrdanu gan Deyrnas y Dewin yn y digwyddiad ‘Magic and May-Hem’.

Teithiwch gyda’ch rhai bach i ddod o hyd i’r tri Dewin a’u Cynorthwywyr sydd wedi’u gwasgaru ar draws ein hystâd.  Gwyliwch yr Hud a Lledrith, Ewch ar Gyrch i ddatrys y Pos a darganfyddwch y gair cudd.  Gyda Dewin ar y safle i swyno’ch rhai bach – cwblhewch y Pos Geiriau ac ennill anrheg o losin!

Fe gewch hyn i gyd a mynediad i’r holl ystâd gan gynnwys Jwrasig Cymru a’r Fferm Ganoloesol. Dysgwch fwy yma.

  1. GWEITHIO FEL TÎM YN ESCAPE ROOMS CAERDYDD

Dewch i weld drosoch eich hun pam fod Escape Rooms Caerdydd yn gymaint o hwyl!

Dewiswch eich tîm o 2-6 chwaraewr (fesul ystafell). Dewiswch eich thema o’n 6 ystafell gêm profiad cyflawn. Byddwch yn derbyn nod benodol a bydd gofyn i chi ddod o hyd i wrthrychau, codau a chliwiau yn yr ystafelloedd. Gyda 60 munud ar y cloc, bydd angen i chi feddwl yn gyflym, meddwl yn ddoeth a gweithio fel tîm os ydych am ddod allan mewn pryd. A oes chwant bwyd arnoch wedi’r holl waith caled hwnnw? Cofiwch y cewch 25% oddi ar y bil yn Zizzi Italian gyda’ch cadarnhad o’r archeb. Dysgwch fwy yma.

  1. YMUNWCH Â TECHNIQUEST: DYMA HI’N CODI!

Mae pobl wedi bod yn teithio i’r gofod ers dros 60 mlynedd bellach, ac erbyn hyn mae rhaglen ofod Techniquest ei hun yn edrych i gymryd y cam cyntaf hwnnw i archwilio’r gofod.

Ymunwch â Techniquest wrth i Technispace archwilio’r problemau a’r peryglon posibl y gallem eu hwynebu wrth i ni geisio dilyn yn ôl troed y gofodwyr mawr sydd ger ein bron.

Mae’n amser tanio! Dysgwch fwy yma.

  1. PLYMIWCH I MEWN I’R HWYL I’R TEULU YNG NGHANOLFAN RED DRAGON

Ymunwch â’r hwyl i’r teulu yng Nghanolfan Red Dragon ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc 29ain Mai.

I ddathlu rhyddhau “The Little Mermaid” Disney byddwn yn gwneud ein sbloet ein hunain y tu mewn i’r Ganolfan gyda’n gweithgareddau galw heibio ecogyfeillgar am ddim. Rhwng 12-4pm, gall y rhai bach gyfrannu at greu cerflun o Fôr-forwyn wedi’i uwchgylchu, gwneud cwch o gelf a chrefft i fynd adref gyda nhw, a chwrdd â’r tîm o’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i ddysgu mwy am sut y gallwn gadw ein moroedd yn ddiogel rhag llygredd.

Yn gwylio ffilm yn yr ODEON hefyd? Ewch i www.odeon.co.uk i archebu a chael y  wybodaeth ddiweddaraf am amserau’r ffilmiau.  Dysgwch fwy yma.

  1. EWCH AR GYRCH YNG NGHAERDYDD

Mae Go Quest Adventures yn troi strydoedd Caerdydd yn Faes Chwarae Antur!  Mae Cardiff Quest yn ffordd hwyliog a diddorol o archwilio canol y ddinas o safbwynt hollol wahanol. Meddyliwch am daith gerdded, helfa drysor ac ystafell ddianc yn un!

Yn ystod eich Cyrch, datglowch lwybr cudd a gynlluniwyd yn ofalus trwy ddod o hyd i gliwiau, datrys posau a chwblhau heriau tîm, gan ennill pwyntiau ar hyd y ffordd i gyd wedi’ch hunan-dywys drwy’r app Go Quest Adventures ar eich dyfais symudol. Cewch gyfle i weld y gorau o’r ddinas, darganfod ei gemau cudd a dysgu ffeithiau hwyliog a gwahanol ar hyd y ffordd. Rydym yn eich sicrhau y bydd hyd yn oed pobl leol yn sylwi ar rywbeth newydd neu’n dysgu amdano! Dysgwch fwy yma.

  1. TAITH O AMGYLCH STIWDIOS Y BBC

 

Chwilio am rywbeth i’w wneud dros hanner tymor?

Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios mwyaf newydd a mwyaf datblygedig y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.  Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar am daith unigryw y tu ôl i’r llenni o’r stiwdios teledu a radio o’r radd flaenaf.

Mae BBC Cymru Wales wedi derbyn gwobr aur wych gan Croeso Cymru am ansawdd ei theithiau.  Archebwch eich tocynnau nawr!

  1. EWCH I AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer.  Mae gan yr amgueddfa hon le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru gan mai amgueddfa’r bobl yw hi, lle gallwch archwilio hanes gyda’ch gilydd drwy fywydau bob dydd pobl.

Cewch weld sut bu pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn hamddena. Mae’r adeiladau sydd wedi’u hail-godi yn cynnwys ffermdai, rhes o fythynnod gweithwyr haearn, eglwys ganoloesol, ysgol Fictoraidd, capel a Sefydliad y Gweithwyr hyfryd y gallwch fynd i mewn iddynt i fforio. Dysgwch fwy yma.


FFANSI CAEL BRÊC YN Y DDINAS?

Ewch i’n tudalen aros i weld llety sy’n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb. Eisiau gwybod mwy am drafnidiaeth, neu angen lawrlwytho map? Edrychwch ar ein tudalen gwybodaeth i ymwelwyr.

Rhowch wybod i ni beth wnaethoch chi yn ystod Hanner Tymor, byddem wrth ein bodd yn gweld eich lluniau!  Defnyddiwch #CroesoCaerdydd.