Neidio i'r prif gynnwys

Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar Fehefin 17

13 Gorff 2023 · Cyngor Caerdydd


 

Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi’i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar Fehefin 17 a Mehefin 18.

Bydd yr orymdaith ar 17 Mehefin a bydd ffyrdd ar gau i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Stryd y Castell am 11am gan symud ymlaen i’r Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, yn ôl i’r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin gan orffen ar Stryd y Castell.

I hwyluso’r digwyddiad, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol ar 17 Mehefin.

Bydd Stryd y Castell o’r gyffordd â Heol y Porth, Heol y Dug a Ffordd y Brenin i’r gyffordd â Heol y Gogledd ar gau rhwng 6am a 10.30pm (caniateir mynediad i fysiau sy’n gadael Heol y Brodyr Llwydion)

O 8am tan 2.30pm bydd y ffyrdd canlynol ar gau: Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’w chyffordd  â Heol y Gadeirlan, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott, Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin, Yr Ais, Heol Eglwys Ioan, Heol y Frenhines, Plas y Parc, Heol y Brodyr Llwydion (o’i chyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin).