Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Nadolig Caerdydd yn Dychwelyd yn 2023

28 June 2023 · Cardiff Christmas Festival


 

MAE’R SIOE NADOLIGAIDD, A LANSIWYD Y LLYNEDD, YN DYCHWELYD Y GAEAF HWN – GAN SYMUD I SAFLE MWY YNG NGERDDI SOPHIA

 

  • Mae’r sioeau yn cynnwys Santa’s Wish, Castellana a Welsh of the West End
  • Yn rhedeg o 1 – 24 Rhagfyr 2023
  • Mae’r tocynnau ar werth nawr! thecastle.wales

Mae cynhyrchwyr Gŵyl Nadolig Caerdydd (Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd gynt), sy’n cael ei llwyfannu y tu mewn i Spiegeltent hyfryd wedi’i gynhesu â 550 sedd, yn cadarnhau bod y digwyddiad poblogaidd yn dychwelyd y Nadolig hwn – gan symud i safle gŵyl theatr mwy sefydledig Gerddi Sophia.

Wedi’i chynhyrchu gan y cwmni trefnu digwyddiadau byw o Gaerdydd, Live Under the Stars, mae Gŵyl Nadolig Caerdydd yn cyflwyno tair sioe anhygoel sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Bydd y sioeau yn cael eu llwyfannu yn y Fortuna Spiegeltent addurnedig ac agos-atoch chi sydd â 550 o seddi, ar diroedd prydferth Gerddi Sophia, ac yn addo cludo cynulleidfaoedd i fyd hiraethus a hudolus.

 

Mae’r ŵyl eleni yn cynnwys:

 

Santa’s Wish – mae’r sioe boblogaidd yn ôl yn dilyn première buddugoliaethus y llynedd gyda’r galw yn fwy na’r cyflenwad yn dilyn clod gan feirniaid a chynulleidfaoedd.  Ysgrifennwyd yr antur gerddorol Nadoligaidd hudolus hon, y bydd y teulu cyfan yn dwlu arni, gan y tîm sy’n ŵr-a-wraig, Matthew a Laura Brind.

Castellana – Mae cynhyrchiad newydd o Castellana, sy’n gyfuniad o gabaret, syrcas, bwrlesg a chomedi o’r radd flaenaf ac a fydd yn peri i chi agor eich ceg yn llydan mewn syndod, yn dychwelyd i’ch herio, eich pryfocio a’ch hudo.  Ar ei ymddangosiad cyntaf y llynedd, fe’i disgrifiwyd gan feirniaid fel y ‘sioe fwyaf unigryw yn y dref’ a’r ‘profiad Nadoligaidd mwyaf cofiadwy’.

Welsh of the West End – bydd y tymor hwn hefyd yn croesawu’r grŵp theatr gerdd a ledodd drwy’r rhyngrwyd byd-eang ac a berfformiodd ar Britain’s Got Talent, i amgylchedd agos-atoch y Spiegeltent, ar gyfer yr hyn sy’n addo i fod yn gyfle unigryw i weld a chlywed y grŵp mewn awyrgylch clyd am un noson yn unig ar ddydd Sul 17 Rhagfyr.

Mae Gŵyl Nadolig Caerdydd wedi’i chreu a’i chynhyrchu gan Richard Perry a John Manders, cyd-gyfarwyddwyr Live under the Stars, y mae eu gwaith  yn cynnwys Cyngerdd Dathlu Jiwbilî Castell Caerdydd 2022, a chyfres cyngherddau Live Under the Stars. 

 

Dywedodd Richard Perry, cyd-gynhyrchydd y digwyddiad:  “Ar ôl adborth a chefnogaeth mor aruthrol yn 2022, rydym yn falch iawn o gyhoeddi manylion Gŵyl Nadolig Caerdydd eleni.  Adborth unfrydol y gynulleidfa o’r llynedd oedd bod Santa’s Wish a Castellana ymhlith y profiadau byw gorau yr oeddent wedi’u gweld ac, ar gyfer premieres dwy sioe newydd, roedd hynny’n ddigon i ni benderfynu peidio â thrwsio’r hyn nad oedd yn amlwg wedi’i dorri.

 

“Felly, mae Santa’s Wish yn dod yn ôl a bydd Castellana yn cynnwys stori newydd, gyda llawer o berfformwyr blaenllaw y llynedd ac ambell un newydd hefyd i syfrdanu a chadw pobl ar ymyl eu seddi.  Fe wnaethon ni hefyd wrando ar adborth bod gwell hygyrchedd yn bwysig i lawer, a chredwn fod y safle hwn yng Ngerddi Sophia – gyda’i barcio ceir cyfagos – yn ei wneud yn fwy cyfleus.”

 

TOCYNNAU

Mae tocynnau ar gael nawr o Seetickets.com ac yn dechrau am £15* ar gyfer Santa’s Wish a £25* ar gyfer Castellana. Bydd cynllun gofalwyr HYNT hefyd ar gael i gwsmeriaid ar gyfer pob perfformiad ac ar gael i’w prynu ar-lein.

*Mae ffioedd archebu’n daladwy

 

Dylai archebion parti/grŵp ffonio 02921 520052 yn ystod oriau swyddfa arferol neu e-bostio info@thecastle.wales

Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Anfonwch neges i’r tîm gydag unrhyw ofynion penodol.

 

Am wybodaeth, gan gynnwys tocynnau, ewch i www.thecastle.wales