Neidio i'r prif gynnwys

Brand Newydd yn 'Gwreiddio' yng Nghanolfan y Ddraig Goch

11 Gorff 2023


 

Mae prif gyrchfan adloniant Bae Caerdydd, Canolfan y Ddraig Goch, wedi croesawu ei brand mwyaf newydd yr wythnos hon gyda lansiad Roots, caffi arloesol wedi’i anelu at rieni a theuluoedd.

Crëwyd Roots gan Kat Cotterrall, bydwraig gymwysedig a sylfaenydd Pathway to Parenthood, canolfan famolaeth sy’n cynnig addysg ar feichiogrwydd, genedigaeth ac ôl-eni pwrpasol i bawb.

Yn ogystal â stiwdio ioga cyn geni ac ôl-enedigol wedi’i theilwra, mae Roots yn cynnig gofod caffi sy’n addas i blant, a fydd yn gweini bwyd lleol, wedi’i wneud yn ffres, drwy’r dydd. Bydd y fwydlen, a grëwyd gan bartner busnes Kat, y cogydd proffesiynol, Jack Jones, yn darparu ar gyfer y rhai sydd â gofynion dietegol penodol yn ogystal â phlant o bob oed.

Gan ddefnyddio arbenigedd coginio Jack yn llawn, bydd Roots hefyd yn cynnig blychau tanysgrifio bwyd ôl-enedigol er mwyn helpu mamau i wella ar ôl y cyfnod geni.

Meddai Kat: “Rydyn ni mor gyffrous i lansio Roots i’r cyhoedd yn swyddogol.  Yn wreiddiol roeddem yn chwilio am rywle i gynnal canolfan ioga ond cyn gynted ag y gwelais yr uned hon, roeddwn i’n gwybod y gallwn feddwl ar raddfa fwy a ganwyd y syniad ar gyfer y caffi addas i blant.

“Os ydych chi am greu rhywbeth i rieni babanod a phlant ifanc, mae angen i chi ei wneud mor hygyrch a deniadol â phosibl ac roedd hyn yn ticio’r blychau i gyd.  Yn ogystal â pharcio am ddim a lle croesawgar, mae yna denantiaid eraill yng Nghanolfan y Ddraig Goch sy’n ategu ein cynnig ni.”

Meddai Emma Constantinou, Rheolwr Marchnata Canolfan y Ddraig Goch, “Dyma’r busnes cyntaf o’i fath i agor yn y Ganolfan a chredwn y bydd yn gweithio’n dda iawn gyda’n brandiau presennol, gan roi lle diogel i rieni plant iau ymlacio ac ail-lenwi’r tanc.

“Rydyn ni’n llawn cyffro wrth groesawu Kat, Jack a’r tîm Roots cyfan ac yn gobeithio y bydd eu busnes yn ffynnu yma.”

Canolfan y Ddraig Goch, a ddathlodd ei Ben-blwydd yn 25 yn 2022, yw prif leoliad adloniant Bae Caerdydd ac mae’n gartref i lu o leoliadau bwyd a diod, rhyngweithiol a ffordd o fyw, gan gynnwys Sinema’r Odeon, cartref unig sgrin IMAX Cymru, yr Hollywood Bowl, Grosvenor Casino, Simply Gym, Five Guys, Spice Route, Volcano, a Zaika.