Beth wyt ti'n edrych am?
Morglawdd a Ffyrdd ar gau ar gyfer cyngherddau Cyfres y Bae
Dydd Mercher 30 Awst 2023
Bydd y Chemical Brothers, Scooter, The Streets, ac N-Dubz i gyd yn perfformio yn Alexandra Head ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf, yn rhan o Gyfres y Bae.
Er mwyn hwyluso’r digwyddiadau hyn gyda thocyn a rheoli’r torfeydd yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau a bydd safle’r Morglawdd ei hun ar gau i bobl heb docyn, ar:
- Dydd Mercher 6 Medi 16:00 – 01:00
- Dydd Iau 7 Medi 15:00 – 01:00
- Dydd Gwener 8 Medi 15:00 – 01:00
- Dydd Sadwrn 9 Medi 12.00-01.00
Am yr amseroedd hyn, bydd ffyrdd ar gau yn:
- Ochr Penarth y Morglawdd – dim mynediad i gerbydau a cherddwyr at y Morglawdd.
- Cyffordd Cei Britannia / Pierhead Street
- Cyffordd Porth Teigr / Mynedfa’r Doc
Bydd cerddwyr a beicwyr yn cael eu hailgyfeirio i lwybrau eraill a bydd arwyddion ar waith i helpu.
Bydd modd mynd i mewn ac allan i barcio oddi ar y ffordd o dan reolaeth marsialiaid traffig, ond dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Dylai deiliaid tocynnau nodi mai ger cylchfan Porth Teigr y bydd y fynedfa a’r allanfa ar gyfer y digwyddiadau (lle mae llwybr y Morglawdd yn dechrau o ochr y Bae).