Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Teithio ar Gyfer y Gêm Rhwng Cymru a De Affrica ar 19 Awst yng Nghaerdydd

Dydd Llun, 14 Awst 2023 · Cyngor Caerdydd


 

Bydd Cymru yn herio De Affrica ddydd Sadwrn 19 Awst yn Stadiwm Principality.

Gyda’r gic gyntaf am 3:15pm – bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11:15am tan 7:15pm neu hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel eu hail-agor, i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i’r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a’r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn – cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd. Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar Wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar X/Twitter a Facebook.

Bydd y gatiau’n agor am 1pm, cynghorir y rhai sy’n mynychu’r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

CAU FFYRDD

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefn cau ffyrdd llawn canol y ddinas o 11.15am tan 7.15pm.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf er diogelwch i deithwyr trên gyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Bydd hynny’n effeithio ar y ffyrdd hyn: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

TRENAU

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwaith uwchraddio seilwaith ar rwydwaith Craidd Rheilffyrdd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, felly bydd bysus yn lle gwasanaethau rheilffordd drwy’r dydd rhwng Pontypridd a Threherbert ddydd Sadwrn 19 Awst.

Bydd TC yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael y ddinas ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau’n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad am wasanaethau’r brif lein ar y Sgwâr Canolog a chiwiau am wasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 16:45, heblaw am deithiau uniongyrchol i Fae Caerdydd.

Ewch iwww.trc.cymruneu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â’r swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi Gêm Ryngwladol yr Haf Cymru – De Affrica. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain; gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm a bydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt yn www.gwr.com/check.

 

CYFLEUSTERAU PARCIO A THEITHIO

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Maes parcio Eversheds.)

Bydd cost o £12 yn daladwy ar y diwrnod.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8:45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas  am 7pm gyda’r safle yn cau am 7:30pm.

 

PARCIO AR DDIWRNOD Y DIGWYDDIAD

Nghanol y Ddinas (Ceir a Bysus)

I gyrraedd: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 fesul car a £30 fesul bws – yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Gerddi Sophia (Ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

I gyrraedd: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i fysus yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

BWS

Bysus Lleol

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Bydd holl wasanaethau Bws Caerdydd yn mynd i’r safleoedd bws lloeren o 11.15am tan 9.30pm. Gallwch chi weld yr holl newidiadau i safleoedd bws ar ôl 12 hanner dydd  yma: Digwyddiadau Stadiwm Principality – Bws Caerdydd

I ddarllen am wasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Neu i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Adventure Travel, ewch i: Home | Adventure Travel

Coach Services

Bydd bysus National Express yn mynd i Erddi Sophia fel yr arfer.   Rhwng 3p ac 8pm, Heol y Gadeirlan fydd man casglu Gwasanaethau National Express.

 

ALLWCH CHI FEICIO NEU GERDDED?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo roi cynnig arno.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

PARCIO I SIOPWYR

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

 

PARCIO I BOBL ANABL

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

TACSIS

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11:15am ac yn ailagor am 7:15pm.