Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Teithio ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar 5 Awst yng Nghaerdydd

Dydd Llun 1 Awst 2023


 

Bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sadwrn 5 Awst yn Stadiwm Principality.

Gyda’r gic gyntaf am 5.30pm – bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 1.30pm tan 9.30pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i’r stadiwm yn ddiogel.

Bydd Stryd y Castell yn parhau ar gau tan hanner nos fel bod modd i’r rhai sy’n gadael cyngerdd Tom Jones yng Nghastell Caerdydd adael yn ddiogel.

Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a’r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn – cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar Wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar X (Twitter) a Facebook.

Bydd y gatiau’n agor am 3.15om, cynghorir y rhai sy’n mynychu’r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

CAU FFYRDD

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefn cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 1.30pm.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf er diogelwch i deithwyr trên gyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Bydd hynny’n effeithio ar y ffyrdd hyn: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

TRENAU

Trafnidiaeth Cymru (TrC)

Dylai cwsmeriaid sy’n teithio i mewn ac allan o Gaerdydd ar 5 Awst ddisgwyl i wasanaethau fod yn brysur iawn o ganlyniad i weithredu diwydiannol ymhlith cwmnïau trenau eraill a gêm rygbi Cymru v Lloegr yn Stadiwm Principality.

Er bod gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn parhau yn ôl yr arfer, dylai cwsmeriaid wirio cyn teithio a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau.

 

Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi Gêm Rhyngwladol Cymru-Lloegr.

Fodd bynnag, atgoffir cwsmeriaid i wirio cyn teithio gan y gallai gweithredu diwydiannol, sydd gam yn llai na streic, gan undeb Aslef achosi newidiadau neu ganslo ar fyr rybudd.

Mae trenau ychwanegol wedi’u cynllunio o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon; gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

Mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth wedi’r digwyddiad ac fe fydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt, ac amser eu trên olaf adref ynwww.gwr.com/check.

 

CYFLEUSTERAU PARCIO A THEITHIO

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Maes parcio Eversheds.)

Bydd cost o £12 yn daladwy ar y diwrnod.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas  am 9pm gyda’r safle yn cau am 9.30pm.

 

PARCIO YNG NGHANOL Y DDINAS AR DDIWRNOD Y DIGWYDDIAD (CEIR A BYSUS)

I gyrraedd: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 fesul car a £30 fesul bws  –  yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

PARCIO AR DDIWRNOD Y DIGWYDDIAD YNG NGERDDI SOPHIA

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

I gyrraedd: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i fysus yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

BWS

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Bydd holl wasanaethau Bws Caerdydd yn mynd i’r safleoedd bws lloeren o 11.15am tan 9.30pm. Gallwch chi weld yr holl newidiadau i safleoedd bws ar ôl 12 hanner dydd yma – Digwyddiadau Stadiwm Principality – Bws Caerdydd

I ddarllen am wasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Neu i gael rhagor o wybodaeth am Adventure Travel, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

Bydd bysus National Express yn mynd i Erddi Sophia fel yr arfer.   Rhwng 3p ac 8pm, Heol y Gadeirlan fydd man casglu Gwasanaethau National Express.

 

ALLWCH CHI FEICIO NEU GERDDED?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo roi cynnig arno.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

PARCIO I SIOPWYR

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.  Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

 

PARCIO I BOBL ANABL

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

TACSIS

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 1.30pm ac yn ailagor am 9.30pm.