Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am gau Ffyrdd a Chyngor Teithio ar gyfer y Speedway Grand Prix ddydd Sadwrn, Medi 2

Dydd Llun 28 Awst 2023


 

Bydd un o ddigwyddiadau chwaraeon moduro dan do mwyaf poblogaidd Prydain yn rhuo’n ôl i Gaerdydd ddydd Sadwrn, Medi 2, pan fydd FM British Speedway Grand Prix yn dod â rhai o feicwyr gorau’r byd i Stadiwm Principality.

 

CAU FFYRDD

Bydd Heol y Porth a Stryd Wood, sy’n ffinio â’r stadiwm, ar gau yn eu cyfanrwydd rhwng 2.30pm a 9.30pm gyda’r ffyrdd canlynol hefyd ar gau yn llwyr:

  • Stryd y Cei
  • Plas y Neuadd
  • Y Gwter
  • Gerddi Despenser
  • Sgwâr Canolog
  • Heol Scott
  • Stryd Havelock
  • Heol y Parc
  • Stryd Wood o Arglawdd Fitzhammon drwodd i gyffordd Heol Eglwys Fair â Lôn y Felin (bar Walkabout)
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare

Yn ogystal, bydd y Ganolfan Ddinesig yng Nghaerdydd ar gau o 5am ddydd Sadwrn gyda mynediad yn cael ei ganiatáu ar gyfer parcio diwrnod yn unig, a bydd parcio i gymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat yn gyfyngedig. Mae’r ffyrdd sydd wedi’u heffeithio’n cynnwys:

  • Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

TARFU AR DRENAU

Mae’r undeb rheilffyrdd mwyaf, yr RMT, wedi cyhoeddi streiciau a fydd yn effeithio ar wasanaethau rheilffordd ddydd Sadwrn, 2 Medi, ac mae Aslef wedi cyhoeddi streic ar gyfer dydd Gwener, 1 Medi.

Ar ddiwrnodau streic, bydd amserlen lai a diwygiedig, yn gweithredu ar draws sawl gweithredwr trenau, gan gynnwys GWR. Bydd llawer o rannau o rwydwaith GWR heb wasanaeth o gwbl. Dim ond am gyfnod cyfyngedig y bydd y gwasanaethau ar waith, gan ddechrau’n hwyrach yn y bore a gorffen yn gynt o lawer gyda’r nos.

Dylai’r rhai sy’n teithio i ac o Gaerdydd nodi na fydd gwasanaethau dychwelyd GWR nos Sadwrn a dylai cwsmeriaid geisio dulliau teithio amgen. Ewch i GWR.com/strike am fwy o fanylion.

Nid oes unrhyw wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TC) drwy’r dydd rhwng Treherbert a Phontypridd oherwydd gwaith peirianyddol ar gyfer Metro De Cymru. Bydd gweddill amserlen TC yn gweithredu fel arfer ond mae disgwyl i drenau rhwng Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe fod yn brysurach nag arfer o ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol gan weithredwyr eraill.

Mae TC yn cynghori pobl i deithio ar y rheilffordd dim ond os yw eu taith yn hanfodol ar brif reilffordd De Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd a rhwng Caerdydd a Lydney. Cynlluniwch o flaen llaw a gwiriwch yr amseroedd llawn ar wefan TC a chynllunwyr teithiau ar-lein cyn i chi deithio. Lle mae gwasanaethau ar gael, gallant fod yn destun newidiadau byr-rybudd.

 

PARCIO AR DDIWRNOD DIGWYDDIADAU YN Y GANOLFAN DDINESIG

I ddod o hyd i’r Ganolfan Ddinesig, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 32 ac ewch i’r de ar yr A470 tuag at ganol y ddinas a dilynwch yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig. Y gost yw £15 sy’n daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn nawr ar gael hefyd. Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

PARCIO AR DDIWRNOD Y DIGWYDDIAD YN Y GANOLFAN DDINESIG (BYSUS)

Mae’r gost o £30 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig). Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

CYFLEUSTERAU PARCIO A THEITHIO

Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn ym maes parcio Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd, gyda’r man casglu a gollwng ar Sgwâr Callaghan. Mae’r cyfleuster yn hawdd i’w gyrraedd o’r M4, drwy adael wrth gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232).

Bydd bysus yn rhedeg i ganol y ddinas ac oddi yno bob 10 munud. Cost: £12 yn daladwy ar y diwrnod – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Mae’r maes parcio’n agor am 9am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 10pm a bydd y maes parcio’n cau am 10.30pm.

 

PARCIO AR DDIWRNOD Y DIGWYDDIAD YNG NGERDDI SOPHIA

Gerddi Sophia (ceir). Mae hon yn daith gerdded 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2. I ddod o hyd i Gerddi Sophia, defnyddiwch gyffordd 32 oddi ar yr M4 ac ewch i’r de, gan ddilyn yr arwyddion. Y gost yw £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn nawr ar gael. Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Nodwch: Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

BWS

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau. Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Ar gyfer gwasanaethau Adventure Travel, ewch i: Home | Adventure Travel

Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

ALLWCH CHI FEICIO NEU GERDDED?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arno.Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

PARCIO I SIOPWYR

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

PARCIO I BOBL ANABL

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

TACSIS

Ni fydd y digwyddiadau hyn yn effeithio ar safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i siop House of Fraser).