Neidio i'r prif gynnwys

The Ivy Asia mewn partneriaeth â Perrier-Jouët ar gyfer Wythnos Te Prynhawn

 Yn ystod Wythnos Genedlaethol Te Prynhawn eleni (7-13 Awst), mae The Ivy Asia yng Nghaerdydd yn lansio Te Prynhawn Sakura newydd.

 

I ddathlu, mae’r bwyty Asiaidd wedi ymuno â’r brand siampên blaenllaw, Perrier-Jouët am yr wythnos.

 

Yn null The Ivy Asia, mae’r Te Prynhawn Sakura newydd ychydig yn wahanol, wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliant Asiaidd gyda danteithion fel rholiau maki Eog, caws hufennog a chiwcymbr, byns bao gyda llysiau wedi’u stemio, toesenni granadila cynnes a chnau coco a crème brulee fanila a sesame.

 

Yn ystod Wythnos Te Prynhawn, bydd unrhyw un sy’n archebu Te Prynhawn Siampên yn y bwyty am £38.95 y pen yn cael eu siampên wedi’i uwchraddio i Perrier-Jouët.

 

Gellir mwynhau Te Prynhawn hefyd yn ei chwaer-fwyty The Ivy, lle mae bwydlen Te Prynhawn Perffaith ar gael rhwng 3pm a 4.45pm. Gall gwesteion fwynhau te prynhawn traddodiadol gydag amrywiaeth hudolus o frechdanau, sgons a danteithion melys eraill.

 

Mae Te Prynhawn ar gael yn The Ivy a The Ivy Asia Caerdydd rhwng 3pm a 4.45pm saith diwrnod yr wythnos.

 

I archebu bwrdd, ewch i www.theivyasia.com neu www.ivycollection.com.