Neidio i'r prif gynnwys

Cynllun Pasbort Gwin Caerdydd Ar Y Rhestr Fer Ar Gyfer Gwobr Twristiaeth Ryngwladol

Dydd Mercher 13 Medi 2023 · Caerdydd AM BYTH


 

Mae prosiect twristiaeth sydd â’r nod o ddenu mwy o bobl i Gaerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr twristiaeth ryngwladol bwysig.

Mae’r British Guild of Travel Writers (BGTW) wedi rhoi Pasbort Gwin Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Prosiect Twristiaeth Gorau’r DU ac Iwerddon yng Ngwobrau Twristiaeth Rhyngwladol 2023 y BGTW.

Mewn partneriaeth â Sri Lanka Tourism, mae’r gwobrau mawreddog hyn yn cydnabod rhagoriaeth mewn prosiectau twristiaeth yn y DU ac ar draws y byd; mae aelodau o’r BGTW yn rhoi ar y rhestr fer y prosiectau y maent wedi’u profi, ac y maent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth ehangach. Yn ystod mis Awst 2023, pleidleisiodd aelodau o’r BGTW ar bob un o’r prosiectau twristiaeth a enwebwyd.

Mae Pasbort Gwin Caerdydd yn fenter unigryw sydd â’r nod o hyrwyddo busnesau lletygarwch annibynnol yng nghanol Caerdydd. Ers ei lansio ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae wedi llwyddo i gynhyrchu mwy na £34,000 mewn refeniw ar gyfer bwytai a bariau lleol ac annibynnol yng nghanol dinas Caerdydd.

Wedi’i ddatblygu gan yr ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus lleol Jane Cook sy’n frwdfrydig dros win, mae Pasbort Gwin Caerdydd yn galluogi cefnogwyr i samplu sîn coginio bywiog Caerdydd; maent yn prynu pasbort ar-lein, yna’n cyfnewid stampiau pasbort am wydraid o win mewn detholiad wedi’i guradu o fusnesau lleol – mae opsiwn hefyd i ychwanegu bwyd wrth ddefnyddio’r stampiau. Drwy annog trigolion Caerdydd ac ymwelwyr i archwilio’r gemau lleol hyn, mae Pasbort Gwin Caerdydd wedi dod yn gatalydd ar gyfer mwy o ymwelwyr a refeniw ar gyfer lleoliadau sy’n cymryd rhan.

Cafodd Pasbort Gwin Caerdydd ei enwebu’n annibynnol gan yr awdur teithio a’r aelod o BGTW, Ross Clarke, sy’n hanu o Gasnewydd ac sydd bellach yn byw yn Llundain.

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd: “Fel awdur bwyd, gwin a theithio, rwyf bob amser yn chwilio am fentrau arloesol i arddangos cyrchfan a chefnogi busnesau lleol. Mae Pasbort Gwin Caerdydd yn ddathliad llawen o fusnesau bach, menter, twristiaeth gynaliadwy – a gwin eithriadol! Rwy’n falch iawn ei fod wedi cael ei gydnabod gan aelodau’r BGTW fel enghraifft ragorol o brosiect twristiaeth gwreiddiol.”

Dywedodd Stuart Render, cyd-gadeirydd y BGTW, a chyfarwyddwr gwobrau’r sefydliad: “Bob blwyddyn mae ein haelodau yn enwebu prosiectau a mentrau twristiaeth y maent wedi ymweld â nhw ac yn teimlo eu bod yn haeddu sylw ehangach. Mae cyrraedd y rhestr fer nid yn unig yn gamp ynddo’i hun ond hefyd yn gydnabyddiaeth o’r rôl bwysig y mae’r prosiect twristiaeth yn ei chwarae wrth ddenu ymwelwyr a rhoi hwb i’r economi ymwelwyr.”

Dywedodd sylfaenydd Pasbort Gwin Caerdydd, Jane, “Mae Pasbort Gwin Caerdydd yn brawf o dair o’m hoff bethau – dangos fy ninas enedigol, cefnogi busnesau annibynnol gwych, a dod o hyd i esgusodion da i fynd am wydraid gwych o win. Mae dod â’r rheiny ynghyd a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr twristiaeth fawr yn eithaf swreal. Rwyf wrth fy modd.”

Caiff enillwyr Gwobrau Twristiaeth Rhyngwladol y BGTW eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni yng Ngwobrau Gala Blynyddol y BGTW, a gynhelir yng nghanol Llundain ar 5 Tachwedd.

I ddechrau helpodd Caerdydd AM BYTH i lansio Pasbort Gwin Caerdydd  fel cynllun peilot gyda grant o’i Gronfa Uchelgais y Ddinas.