Beth wyt ti'n edrych am?
Dadlapio’r Nadolig yng Nghaerdydd... 100 diwrnod yn gynnar
Thursday 14 September 2023
Efallai y bydd Siôn Corn yn ein rhoi ni ar ei restr ddrwg, ond gyda dim ond 100 diwrnod i fynd tan y diwrnod mawr, allwn ni ddim peidio â dadlapio rhai o’r anrhegion hudolus fydd ar gael dros y Nadolig yng Nghaerdydd eleni.
Llawr Sglefrio mewn Castell
Castell hanesyddol Caerdydd yw’r lleoliad perffaith i sglefrio gyda’r machlud (mor rhamantus), neu am ddiwrnod o hwyl i’r teulu na all hyd yn oed y tywydd ei ddifetha. Mae Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd o 16 Tachwedd 2023 tan 2 Ionawr 2024, ynghyd â’i haid ei hun o bengwin-gynorthwywyr ar gyfer gwesteion llai. Tocynnau yn dod yn fuan.
Gŵyl y Gaeaf
Allwch chi ddim cael gormod o rywbeth da adeg y Nadolig, felly cadwch hwyl yr ŵyl i fynd gydag ymweliad ag ail safle Gŵyl y Gaeaf. Bydd Lawnt Neuadd y Ddinas Caerdydd yn croesawu detholiad o reidiau a gemau ffair, bar apres-ski Sur La Piste, ynghyd â rhestr lawn o adloniant am ddim i’r teulu. Y ffordd ddelfrydol o dreulio noson Nadoligaidd. Mynediad am ddim: 16 Tachwedd 2023 i 2 Ionawr 2024.
Bar Barrug
Mae’r tymereddau rhewllyd yn y Bar Barrug yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd ar Lawnt Neuadd y Ddinas yn golygu mai hwn yw’r lle mwyaf cŵl i ymlacio’r Nadolig hwn. Mae wedi ei wneud yn gyfan gwbl allan o iâ, felly gwisgwch yn gynnes i fwynhau diod gyda’ch ffrindiau! Cadwch lygad am fanylion, sy’n dod yn fuan, ar sut i fachu tocyn oeraf y ddinas.
Llwybr goleuadau enfawr
Mae llwybr goleuadau hudolus Y Nadolig ym Mharc Bute yn dathlu ei drydedd flwyddyn gyda llu o brofiadau ymdrochol ac Instagramadwy newydd, ynghyd â llwybr newydd sydd 50% yn hirach nag o’r blaen. Mae tocynnau ar gyfer y llwybr clodwiw, sy’n rhedeg o 24 Tachwedd 2023 tan 1 Ionawr 2024, ar werth nawr.
Yr anrheg berffaith
P’un a ydych chi’n chwilio am emwaith pwrpasol, gwaith celf gwreiddiol, gwaith gwydr hardd, eitemau ceramig wedi’u taflu â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, neu fwyd a diod tymhorol, Marchnad Nadolig Caerdydd yw’r lle perffaith i ddod o hyd i’r anrheg grefftus berffaith. Yn rhan annatod o Nadolig Caerdydd, bydd y cabanau traddodiadol, y gwneuthurwyr talentog, ac awyrgylch Nadoligaidd unigryw’r Farchnad yn dychwelyd i ganol y ddinas rhwng 9 Tachwedd 2023 a 23 Rhagfyr 2023.
A Spiegeltent
Mae gan Spiegeltents hanes hir o deithio o le i le, yn cario cerddoriaeth ac adloniant gyda nhw ac, ar ôl ei ymddangosiad cyntaf llwyddiannus yng Nghaerdydd y llynedd, mae’r Spiegeltent Ewropeaidd 500-sedd yn dychwelyd mewn lleoliad newydd ar gyfer 2023. Wedi’i adeiladu o bren, drychau wedi’u torri, cynfas a gwydr plwm, ac wedi’i addurno â brocêd melfed, gall ymwelwyr â’r pafiliwn hudol a chlyd yng Ngerddi Sophia fwynhau sioe cabaret burlesque syfrdanol ‘Castellana’, ‘Santa’s Wish’, sy’n sŵr o godi gwên, y swynol ‘Welsh of the West End’, noson barti anhygoel ar thema Abba, a noson gomedi unigryw o’r enw The Christmas Cracker rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 24 Rhagfyr 2023. Mae tocynnau ar werth nawr.
Cerdded trwy hanes
Roedd pobl Oes Fictoria yn deall y Nadolig i’r dim, ac mae Arcedau Fictoraidd Caerdydd yn driw i’r traddodiad. Wedi’u haddurno’n ar gyfer yr ŵyl, mae ‘na hud syml i grwydro drwy’r ddrysfa o arcedau, a stopio am goffi neu damaid o fwyd yn un o’r nifer o gaffis a bwytai annibynnol y byddwch yn eu darganfod rhwng y siopau bwtîc.
Brandiau dylunwyr, llawer o ffefrynnau’r stryd fawr… a mwy
O frandiau dylunwyr i ffefrynnau’r stryd fawr, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i’r anrheg berffaith (neu efallai rywbeth i sbwylio’ch hun) yng Nghanolfan Dewi Sant. Gyda thros 160 o siopau, caffis a bwytai i’w darganfod, cyrchfan fanwerthu flaenllaw Cymru yw’r lle delfrydol am ddiwrnod allan – p’un ai a ydych yn bwriadu diddanu’r teulu gyda Treetop Golf a Cineworld, tretio’ch hun i ginio neu swper gyda ffrindiau, neu ddod o hyd i’r wisg berffaith ar gyfer parti Nadolig.
Caban clyd
Angen seibiant o brynu anrhegion i’ch ffrindiau a’ch teulu? Dewch i gwtsio lan yng nghabanau Maes yr Ŵyl y Nadolig hwn. Yn hafan Fafaraidd atmosfferig, Maes yr Ŵyl ar Stryd Working yw’r lle perffaith i ymlacio gyda chwrw a bratwurst a chael ail wynt cyn y rownd nesaf o siopa Nadolig. Yn agor ym mis Tachwedd.
Goleuadau’r Nadolig
Mae pawb yn gwybod na fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb oleuadau. Eleni bydd goleuadau Nadolig hyfryd Caerdydd yn cynnau’n araf wrth iddi nosi ar 16 Tachwedd, wrth i Nadolig Caerdydd ddechrau.
Groto Nadolig
Boed dda neu ddrwg, bydd ymweliad â Groto Nadolig Siôn Corn ar restr ddymuniadau llawer o blant y Nadolig hwn. I helpu i wireddu eu dymuniadau, bydd Siôn Corn a’i gorachod yn ymgartrefu dros dro yng Nghastell Caerdydd, Heol y Frenhines a Stadiwm Principality. Digwyddiadau tocyn, dyddiadau amrywiol Tachwedd a Rhagfyr 2023.
Gwledd Nadolig
Gwledd Nadoligaidd yn Is-grofft Castell Caerdydd, sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif, yw’r ffordd berffaith o gofleidio ysbryd y Nadolig. Gydag adloniant Cymreig traddodiadol, cyfle i flasu medd wrth gyrraedd a Meistr Seremoni i’ch tywys drwy’r noson, byddwch ar eich traed yn ymuno yn yr hwyl mewn dim o dro! Mae angen archebu ymlaen llaw, dyddiadau o fis Tachwedd drwy gydol mis Rhagfyr.
Treulio amser gyda ffrindiau a theulu
Mae ffrindiau a theulu wrth galon popeth sydd orau am y Nadolig, felly does dim ffordd well o ddathlu na gyda phryd o fwyd blasus! Mae Caerdydd yn hafan i’r rheini sy’n frwd dros fwyd – ac mae tudalennau Bwyta ac Yfed Croeso Caerdydd yn llawn llefydd i wledda dros y Nadolig. Cofleidiwch draddodiad gyda’r holl drimins yn y Pontcanna Inn, neu rhowch gynnig ar brydau gwych Daffodil, sy’n hyrwyddo cynnyrch Cymreig, efallai gyda gwydraid o win o’u rhestr gynhwysfawr – mae’n Nadolig wedi’r cyfan.
Aros dros nos
Mae gormod i’w wneud mewn dim ond un diwrnod yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, felly beth am wneud noson ohoni a mwynhau un o westai’r brifddinas? O rywle modern, ffasiynol yng nghanol dinas brysur i foethusrwydd hamddenol gwesty sba neu noson yn ardal hanesyddol Bae Caerdydd, rydych chi’n siŵr o ddeffro’n barod am fwy o hwyl yr ŵyl!
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae Nadolig Caerdydd bob amser yn arbennig a gyda 100 diwrnod i fynd, mae’r rhaglen eleni o ddigwyddiadau Nadoligaidd yn barod i ddenu pobl i’r ddinas a chreu llawer mwy o atgofion hudol.”
Gyda 100 diwrnod i fynd, rydym yn dal i lunio rhestr Nadolig Caerdydd, felly am fwy o wybodaeth a’r holl fanylion diweddaraf wrth i’r Nadolig nesáu, ewch i: www.croesocaerdydd.com/nadolig