Neidio i'r prif gynnwys

Siôn Corn yn Dychwelyd i Groto 'Credu' Newydd Sbon yng Nghanolfan Dewi Santm Caerdydd

Dydd Gwener, 20 Hydref 2023 · Dewi Sant Caerdydd


 

Disgwylir i Ganolfan Dewi Sant, Caerdydd ddadorchuddio profiad Siôn Corn newydd sbon y Nadolig hwn.

Gan agor ar 1 Rhagfyr, bydd Credu yng nghyrchfan siopa’r ddinas, yn cael gweddnewidiad hudol ar gyfer 2023 gyda stori, thema a gweithgareddau teuluol newydd ond, yn bwysicaf oll, bydd plant yn dal i gael cwrdd â Siôn Corn!

Ar ôl cyrraedd, bydd gwesteion Credu yn darganfod ystafell bost swynol Siôn Corn lle gallant ymgolli yn y dathliadau a’r hwyl gyda’r coblynnod direidus wrth iddynt ddidoli llythyrau Siôn Corn gan blant ledled y byd yn barod ar gyfer y diwrnod mawr.  Bydd plant yn gallu addurno eu danteithion sinsir Nadolig blasus eu hunain* a rhoi hwyl yr ŵyl ar gof a chadw yn y pwynt postio Hun-lun Coblyn, cyn cael eu gwahodd i gwrdd â’r dyn mawr ei hun.  Bydd teuluoedd yn cael croeso personol gan Siôn Corn yn ei ystafell gynnes, glyd lle gallant rannu eu gobeithion a’u breuddwydion Nadolig, cael ffotograff proffesiynol wedi’i dynnu yn ogystal â derbyn anrheg arbennig i fynd adref gyda nhw.

Bydd Credu yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd yn agor i westeion ddydd Gwener 1 Rhagfyr hyd at Noswyl Nadolig. Bydd y groto ar lefel isaf yr Arcêd Fawr, wrth ymyl siop LEGO a gyferbyn â Menkind.

Bydd tocynnau ar gyfer Credu 2023 ar werth ymlaen llaw i bobl sydd wedi’u cofrestru’n unig ar ddydd Mawrth, 19 Medi cyn mynd ar werth i bawb arall ar ddydd Iau, 21 Medi.

Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, Caerdydd:  “Dyma’r drydedd flwyddyn i ni gynnal Credu yng Nghanolfan Dewi Sant, ac rydym yn awyddus iawn i groesawu Siôn Corn yn ôl eto!  Eleni, mae’r groto wedi’i drawsnewid i gynnig profiad cyffrous newydd sbon i westeion lle gall plant archwilio ystafell bost Siôn Corn gyda’i goblynnod llon cyn addurno bisgedi ac yn olaf cwrdd â Siôn Corn ei hun. Ynghyd â’n haddurniadau Nadolig trawiadol newydd ar draws Canolfan Dewi Sant, bydd gwledd go iawn yn aros gwesteion dros yr ŵyl hon.”

Cynghorir gwesteion i archebu tocynnau’n gynnar ar gyfer Credu er mwyn osgoi cael eu siomi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd dros Nadolig 2023 yng Nghaerdydd.