Beth wyt ti'n edrych am?
Parcio a Theithio’r Nadolig
Dydd Gwener, 17 Tachwedd 2023 · Caerdydd AM BYTH a Bws Caerdydd
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio i siopwyr Nadolig yn rhedeg o Neuadd y Sir bob dydd Sadwrn gan ddechrau o 18 Tachwedd a gorffen ar 23 Rhagfyr.
- Bydd bysus yn rhedeg o Neuadd y Sir i Stryd y Gamlas ar hyd Rhodfa Lloyd George bob 20 munud
- Mae’r bws cyntaf o Neuadd y Sir i Stryd y Gamlas yn gadael am 09:00
- Mae’r bws olaf o Stryd y Gamlas i Neuadd y Sir yn gadael am 19:30
- Cliciwch yma i weld yr amserlen
- £4 y car (neu £3.50 y car i ddeiliaid cerdyn gostyngiad neu ap Caerdydd AM BYTH)
- Cod post Neuadd y Sir ar gyfer llywiwr lloeren yw: CF10 4UW
Ewch ar y bws! Mae’n well i’r amgylchedd gan ei fod yn lleihau nifer y ceir sy’n achosi tagfeydd yng nghanol y ddinas tua adeg brysur y Nadolig.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan Bws Caerdydd, mewn partneriaeth â Caerdydd AM BYTH.