Neidio i'r prif gynnwys

Celebrate This Place yn Dychwelyd i Gaerdydd yn 2024 yn Dilyn Blwyddyn Lle Gwerthwyd Pob Tocyn yn 2023

Dydd Mercher, 14 Chwefror 2024


 

Mae Celebrate This Place yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer ei hail ymddangosiad yn 2024.

Fe’i cynhelir ar 25 a 26 Mai, dros benwythnos Gŵyl y Banc, yn dilyn digwyddiad lle gwerthwyd bob tocyn yn 2023. Cynhelir yr ŵyl ddeuddydd yn Tramshed Caerdydd, lleoliad sydd â lle i 1,000 yng nghanol y ddinas.

Prif berfformiwr diwrnod cyntaf yr ŵyl fydd yr artist rap enigmatig â mwgwd, CASISDEAD, sydd ar hyn o bryd wedi’i enwebu ar gyfer gwobr BRIT am y perfformiwr hip-hop/grime/rap gorau, a chyrhaeddodd ei albwm gyntaf, ‘Famous Last Words’, a ryddhawyd yn 2023 ac y bu disgwyl mawr amdano, rif 7 yn Siartiau Albwm Swyddogol y DU.

Prif berfformiwr ail ddiwrnod yr ŵyl fydd Warmduscher, band sy’n gwybod sut i ddechrau parti gyda’u hoffter am ganeuon dawns pync-ffync a geiriau ffraeth ac anweddus. Mae’r band, sydd o Lundain, wedi gweithio gydag artistiaid fel Iggy Pop a Soulwax, ac fe’u hanogwyd gan DJ BBC 6 Music, Marc Riley, fel y “band gorau ar y blaned.”

Cyflwynir Celebrate This Place gan y tîm yng Nghlwb Ifor Bach, sydd hefyd yn trefnu gŵyl arddangos aml-leoliad flynyddol y ddinas ‘Sŵn’.

“Rydyn ni’n edrych mlaen at ddod â Celebrate This Place yn ôl am ei hail flwyddyn yn Tramshed, y tro hwn gyda 2 berfformiwr enfawr. Bydd Casisdead yn perfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ddydd Sadwrn, wrth bod Warmduscher yn gwneud eu hymddangosiad hirddisgwyliedig am yr eildro ddydd Sul, gyda’u perfformiad mwyaf yng Nghymru hyd yma. Mwy i ddod yn fuan.” – Adam Williams, Pennaeth Cerdd (Clwb Ifor Bach, Celebrate This Place)

Hon fydd ail flwyddyn yr ŵyl, yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd a gynhaliwyd yng Nghlwb Ifor Bach a Tramshed Caerdydd, lle gwerthwyd pob tocyn.

Roedd gŵyl 2023 yn cynnwys enwau rhyngwladol fel band roc seicedelig o Awstralia, Psychedelic Porn Crumpets, a band ôl-bync o Ganada, COLA, yn ogystal â chynnwys artistiaid o Gymru, Islet, Slate, a Plastic Estate.