Neidio i'r prif gynnwys

MAE THE HUNDRED YN DYCHWELYD I GAERDYDD AR GYFER 2024 AR ÔL BLWYDDYN HEB EI HAIL

Dydd Mercher, 24 Ionawr 2024


 

  • Mae The Hundred yn ôl ddydd Mawrth 23 Gorffennaf gyda Chaerdydd yn cynnal sawl gêm drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst
  • Mae timau dynion a merched Tân Cymreig yn cychwyn yng Ngerddi Sophia ddydd Sul 28 Gorffennaf
  • Bydd Gornest Derfynol The Hundred yn cael ei chynnal ddydd Sul 18 Awst ym maes criced Lord’s.
  • Mae partneriaeth y gystadleuaeth gyda BBC Music Introducing yn dychwelyd, gan ddod â cherddoriaeth fyw; mae pob diwrnod gêm hefyd yn cynnwys DJ byw
  • Mae tocynnau tymor ar gael o heddiw ymlaen i’r rhai a brynodd docyn yn 2023 neu i ddeiliaid tocyn tymor blaenorol.
  • I gael mwy o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer mynediad â thocyn blaenoriaeth, ewch i thehundred.com

 

Ar ôl blwyddyn heb ei hail yn 2023, bydd The Hundred yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2024, gan gynnig mis o griced o’r radd flaenaf ac adloniant gwych i’r teulu cyfan.

Bydd Caerdydd yn cynnal ei gêm gyntaf ddydd Sul 28 Gorffennaf, gyda thimau dynion a merched y Tân yn cychwyn eu cystadleuaeth yn erbyn Oval Invincibles.

Yna bydd y Tân yn ôl gartref ar gyfer y cyntaf o dair gornest ddwbl arall ddydd Llun 5 Awst, gan wynebu Southern Brave, cyn eu dau ddiwrnod gêm olaf, ddydd Iau 8 Awst yn erbyn Northern Superchargers a dydd Sadwrn 10 Awst yn erbyn Birmingham Phoenix.

Bydd y gystadleuaeth ei hun yn dechrau ddydd Mawrth 23 Gorffennaf, gyda Birmingham Phoenix yn mynd i Dde Llundain i chwarae’n erbyn Oval Invincibles yn y cyntaf o 34 diwrnod gêm dros 26 diwrnod o chwaraeon cymhellol yn anterth yr haf.

Mynychodd y nifer uchaf erioed o gefnogwyr, sef 580,000, The Hundred ar draws pob lleoliad yn 2023, gan gynnwys dros 300,000 yn gwylio cystadleuaeth y merched. Oherwydd cyfuniad The Hundred o chwaraeon ac adloniant o ansawdd uchel, gwerthwyd 41% o’r holl docynnau i deuluoedd, 23% i bobl iau a 30% i ferched.

Yn ogystal â chriced o safon ryngwladol, diolch i bartneriaeth barhaus The Hundred â BBC Music Introducing, roedd cefnogwyr yn gallu mwynhau perfformiadau cerddoriaeth cofiadwy gan restr amrywiol o artistiaid a DJs gan gynnwys y prif berfformwyr Rudimental, The Lottery Winners, DYLAN a Prima Queen.

Bydd cefnogwyr sydd wedi bod yn ddeiliaid tocyn tymor yn unrhyw un o dair blynedd The Hundred neu a brynodd docyn yn 2023 yn gallu prynu tocyn tymor o heddiw ymlaen. Rhwng 13 a 27 Mawrth bydd cyfnod unigryw i gefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau i The Hundred o’r blaen. Mae’r cyfnod gwerthu â blaenoriaeth rhwng 9 a 23 Ebrill ac mae ar agor i’r holl gefnogwyr sy’n cofrestru ymlaen llaw yn thehundred.com. Mae’r cyfnod gwerthu cyffredinol yn dechrau o 25 Ebrill.

Mae’r tocynnau’n werth gwych unwaith eto, gyda phrisiau’n £5 i blant 3-15 oed (am ddim i rai dan 3 oed) ac yn dechrau o £11 i oedolion.

Mae The Hundred Eliminator, lle mae timau sy’n dod yn ail ac yn drydydd yn cystadlu am le yng Ngornest Derfynol The Hundred, wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 17 Awst yn y Kia Oval. Bydd Gornest Derfynol The Hundred yn cael ei chynnal ddydd Sul 18 Awst ym maes criced Lord’s.

Dywedodd capten Tân Cymreig a batiwr Merched Lloegr, Tammy Beaumont: “Cawsom bencampwriaeth wych y llynedd, gan gyrraedd The Eliminator, ac rydym yn llawn cymhelliant i geisio ennill y gystadleuaeth yr haf hwn. Allwn ni ddim aros i fod o flaen ein cefnogwyr Tân Cymreig eto yng Ngerddi Sophia yn 2024. Y llynedd oedd dechrau rhywbeth i’r grŵp hwn a bydd yn golygu llawer i ni a’n cefnogwyr os gallwn fynd ymhellach byth.”

Dywedodd capten dynion Tân Cymreig, Tom Abell: “Fe wnes i fwynhau The Hundred yn 2023 gyda Thân Cymreig, rwy’n teimlo ei fod yn dymor cadarnhaol iawn. Mae bob amser yn wych gweld cymaint o deuluoedd a phlant mewn gemau ac roedd y gefnogaeth a gawsom ganddynt yng Nghaerdydd yn wych. Ar y cae, roedd yn wych i ni fod yn fwy cystadleuol ac rwy’n edrych ymlaen at fwy o gemau gwych yng Ngerddi Sophia yn 2024.”

Bydd The Hundred Draft, sy’n cael ei bweru gan Sage, yn ôl ar draws cystadlaethau’r dynion a’r merched cyn haf 2024 wrth i’r 16 tîm – gan gynnwys tîm dynion Northern Superchargers Andrew Flintoff – baratoi eu ceisiadau ar gyfer teitl The Hundred.

Am y tro cyntaf, bydd y dethol yng nghystadleuaeth y merched nawr yn digwydd yn gyfan gwbl drwy gadw, The Hundred Draft a’r Vitality Wildcard Draft. Mae’r cyflogau yng nghystadleuaeth y merched wedi cynyddu £100,000 y tîm, gyda’r braced cyflog uchaf bellach yn £50,000.

Bydd pob gêm yn fyw eto ar Sky Sports a sianeli darlledu’r BBC a digidol drwy gydol y gystadleuaeth.

I gael y newyddion diweddaraf, prynu tocynnau neu gofrestru i gael mynediad â blaenoriaeth, ewch i thehundred.com.

Gallwch hefyd ddilyn The Hundred, a’r wyth tîm, ar Instagram, TikTok a YouTube.