Neidio i'r prif gynnwys

The Ivy Asia, Caerdydd yn lansio Bwydlen Unigryw Drwy’r Dydd am £19.17 i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Llun, 04 Mawrth 2024


 

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae The Ivy Asia, Caerdydd yn llawn cyffro i ddatgelu ei gynnig diweddaraf: Bwydlen Dau Gwrs Drwy’r Dydd am £19.17. Ar gael bob dydd ac eithrio dydd Sadwrn a 10 Mawrth 2024, bydd y fwydlen arbennig hon ar gael am  gyfnod cyfyngedig, rhwng 1 a 31 Mawrth 2024.

I ddechrau, bydd gan y gwesteion bedwar dewis cywrain posibl. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys Rholiau Maki Corgimwch Tempwra, gydag afocado a saws sbeislyd, yn ogystal â Sgiwers Cyw Iar â Thaeniad Szechuan, gyda mouli wedi’i bicio a sifys.

Mae’r prif gwrs yn arddangos y gorau o fwyd wedi’i ysbrydoli gan Asia, gyda dewis o Hanner Cyw Iar wedi’i grilio wrth ymyl y tân, wedi’i drwytho â thaeniad pysgnau sbeislyd, a Reis Hwyaden Bersawrus wedi’i ffrio, wedi’i weini â sinsir, tsili sambal sbeislyd a shibwns. Yn ogystal, gall gwesteion ddewis un o ddau opsiwn cyri blasus: Corgimwch a Tamarind neu Ffacbys Pot Clai a Phupur Coch.

I orffen y profiad ar nodyn melys, mae gan westeion yr opsiwn i fwynhau pwdin blasus am £5 ychwanegol. Mae’r dewisiadau’n cynnwys Hufen Iâ meddal, moethus gyda saws mango neu’r Toesenni Granadila a Chnau Coco cynnes, wedi’u gweini â saws trochi iogwrt adfywiol.

Gan dalu gwrogaeth i flwyddyn ei sefydlu, pris y fwydlen yw £19.17, sy’n coffáu 1917, pan agorodd The Ivy ei ddrysau am y tro cyntaf yn West End eiconig Llundain.

I archebu bwrdd, ewch i https://theivyasia.com/book-a-table/

Ynglŷn â The Ivy Asia

Mae The Ivy Asia yn tywys gwesteion ar daith o’r synhwyrau gyda stori fwyta ac yfed wedi’i hysbrydoli gan ddylanwad Asiaidd. Mae’r bwytai yn cynnig lleoliad moethus a theatrig o ran dyluniad a dodrefn. Mae’r ymdeimlad hwn o odidogrwydd ac egni yn bresennol yr eiliad y bydd gwesteion yn cerdded i mewn. Mae The Ivy Asia wedi’i leoli yn St Paul’s, Chelsea a Mayfair yn Llundain, yn ogystal â Manceinion, Leeds, Guildford, Brighton a Chaerdydd.

Bwyd a Diod

Mae’r Pen-cogydd Gweithredol, Simon Gregory, wedi dewis bwydlen sy’n dathlu bwyd Asiaidd,yn arddangos cyfuniad o brydau traddodiadol a chyfoes. Gall gwesteion ymgolli yn yr awyrgylch ysblennydd, wedi’i ategu gan gelfyddyd cymysgwyr mewnol sy’n creu coctels unigryw.

Mae The Ivy Asia yn credu mewn darparu gwasanaeth heb ei ail, p’un ai’n ddathliad arbennig neu yn ginio personol, mae’r tîm wedi ymrwymo i wneud pob eiliad yn gofiadwy.