Neidio i'r prif gynnwys

Hunanbortread Van Gogh yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd

14th o Mawrth 2024

_______________________________________________________________________

Mae’r gwaith celf yn rhan o arddangosfa newydd sbon Drych ar yr Hunlun yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ai’r hunanbortread oedd yr hunlun cyntaf? Mae arddangosfa newydd gyffrous Amgueddfa CymruDrych ar yr Hunlun, yn archwilio ac yn gofyn y cwestiwn hwn.

Mae’r arddangosfa, fydd i’w gweld rhwng 16 Mawrth 2024 a 26 Ionawr 2025, yn cynnwys Portread o’r Artist (1887) gan Van Gogh, meistr yr hunanbortread. Bydd y paentiad yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf, fel rhan o fenthyciad dwyochrog gyda’r Musée D’Orsay, Paris.

Yn cadw cwmni i Van Gogh bydd detholiad o artistiaid yng nghasgliad cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Rembrandt, Brenda Chamberlain, Francis Bacon, Bedwyr Williams ac Anya Paintsil.

Gyda’i gilydd, maen nhw’n arddangos amrywiaeth eang o wahanol ddulliau artistig o greu hunanbortreadau.

Drwy hanes, mae llawer o artistiaid wedi defnyddio hunanbortreadau fel ffyrdd o archwilio a mynegi eu hunaniaeth. Paentiodd Van Gogh (1853-1890) 35 o hunanbortreadau, a gellir dadlau ei fod yn un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd yng nghelf y Gorllewin.

⁠Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu hunanbortread Van Gogh i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr â’r Amgueddfa yn mwynhau gweld y gwaith hwn gan un o baentwyr enwocaf y byd, ochr yn ochr â phaentiadau gan artistiaid yn ein casgliad yma yng Nghymru.”

Mae’r detholiad o hunanbortreadau yn dangos y gwahanol ffyrdd y mae artistiaid wedi mynd ati i fynegi eu hunain, fel y byddwn ni’n cyflwyno ac yn rhannu lluniau o’n hunain heddiw.

Ychwanegodd Dr Kath Davies, “Mae hunanbortreadau a hunluniau yn ddau beth gwahanol, ond maen nhw’n rhannu’r un nod – mae’r ddau yn cael eu defnyddio i ddangos pwy ydych chi fel person. Rydyn ni am i’r arddangosfa ysbrydoli ymwelwyr i fynd ati i greu eu hunanbortreadau eu hunain mewn pob math o ffyrdd creadigol.”

Ar gyfer arddangosfa Drych ar yr Hunlun, mae Amgueddfa Cymru yn annog ymwelwyr i dalu beth allan nhw ar gyfer tocynnau.

Mae Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, yn esbonio:

“Eiddo pobl Cymru yw’r casgliad cenedlaethol. Rydyn ni’n gofalu amdano, gwneud gwaith cadwraeth ac, yn bwysicaf oll, yn ei rannu ar eich rhan chi.

Drwy dalu cyn lleied â £1, byddwch chi’n ein helpu i greu ffyrdd newydd i bobl weld, mwynhau a chael eu hysbrydoli gan y casgliad cenedlaethol ac artistiaid mwya’r byd.”

I archebu tocynnau ar gyfer arddangosfa Drych ar yr Hunlun (16 Mawrth 2024 – 26 Ionawr 2025), ewch i www.amgueddfa.cymru/hunlun

Dyma’r tro cyntaf i’r hunanbortread hwn gan Van Gogh ddod i Gymru. Yn gyfnewid am y gwaith celf hwn, mae un o’r paentiadau enwocaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, La Parisienne gan Renoir (sef y Fenyw Las), wedi teithio dros y Sianel. Bydd La Parisienne gan Renoir ar gael i’w weld yn y Musée D’Orsay o 26 Mawrth yn rhan o arddangosfa Paris 1874: Inventing Impressionism.

Mae’r benthyciad yn cau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, sydd wedi creu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ym meysydd masnach, diwylliant a chwaraeon.