Beth wyt ti'n edrych am?
SUL Y TADAU YNG NGHAERDYDD
21 May 2024
Mae Sul y Tadau ar 18 Mehefin 2023 – ar ddod. Mae Croeso Caerdydd wedi llunio rhestr o 10 syniad o roddion a phrofiadau i wneud ei ddiwrnod yn un arbennig.
Sgroliwch i weld syniadau cinio dydd Sul blasus, gweithgareddau i’r teulu, arosiadau mewn gwesty a mwy!

GANOLFAN Y DDRAIG GOCH

Trawsnewidiwch ddiwrnod eich tad ar Ddiwrnod y Tadau gydag ymweliad epig â Chanolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd.
I ddathlu rhyddhau Transformers: Rise of the Beasts, bydd hoff awtofot melyn pawb Bumblebee yn rholio i mewn i’r Ganolfan i ddiddanu ymwelwyr a thynnu lluniau gyda chefnogwyr ddydd Sul 18 Mehefin. Bydd y Transformer enfawr yn gwneud ymddangosiadau arbennig am hanner dydd, 1pm, 2pm a 3pm.
Gyda’r ffilm hefyd yn dangos ar y sgrin fawr a’r llefydd blasus i Dad fwyta i gyd o dan yr un to, mae’r diwrnod arbennig yma’n addo bod yn well nag unrhyw beth arall yn y byd! Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
PARK PLAZA

Dal i chwilio am yr anrheg berffaith ar gyfer Sul y Tadau? Beth am fwynhau penwythnos llawn chwerthin, bwyd gwych ac atgofion oes gyda ni. Dangoswch pa mor arbennig yw Dad gyda chinio 3 chwrs gwych ddydd Sul 18 Mehefin.
Mae Gwledd Cig LKB arbennig y Cogydd ar gael ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul yn ein Bwyty a Bar Laguna. Mae ein Gwledd Cig yn cynnwys Stêc Syrlwyn wedi’i Olosgi, Bol Porc Crisbin a Phwdin Du, Golwyth Cig Oen, Soch mewn Sach, Sgiwer Cyw iâr mewn Marinad, Tomato Eirin wedi’i Grilio, Madarch Portobello, Cylchoedd Winwns, Saws Grawn Pupur a Sglodion Trwchus.
Mae Te Prynhawn Bonheddwr ar gael drwy’r penwythnos gan gynnwys peint am ddim o Madrí i Dad. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu, cliciwch yma
Neu beth am ei sbwylio gyda phrofiad sy’n cyd-fynd yn berffaith â’i amserlen, mae gennym ni ystod o dalebau rhodd sy’n cael eu danfon yn syth i’ch e-byst. Dewiswch o brofiad bwyta, triniaeth sba, arhosiad dros nos neu gadewch iddo ddewis ei brofiad ei hun gyda thaleb ariannol. I weld ein talebau a’u prynu, cliciwch click yma.
DISTYLLFA CASTELL HENSOL

Mae Distyllfa Castell Hensol, sy’n swatio yng Nghastell Hensol hudol, yng nghanol Cymru, yn hafan i selogion rym sy’n chwilio am brofiad unigryw a chyffrous. Rhowch brofiad unigryw i Dad yn rhodd, lle, ynghyd â’n distyllwyr crefftus medrus, bydd yn trwytho ei rym yn fedrus gyda chymysgedd cain o sbeisys a blasau i greu ei gampwaith ei hun.
GOLFF TREETOP

Dewch i gymryd rhan mewn antur golff mini ar un o’n dau gwrs 18 twll, yn ogystal â chael dewis o goffi, coctels a bwyd blasus.
Chwilio am anrheg epig i Sul y Tadau? Rhowch gynnig ar e-daleb rhodd ar gyfer Treetop. Gellir ei defnyddio ar gyfer teithiau golff bach, pizza cartref, coctels trofannol, cwrw lleol a mwy. Prynwch ar-lein yma.
COLEG BRENHINOL CELF A DRAMA CYMRU

Cyfres Biano Rhyngwladol Steinway: Federico Colli
18 Mehefin 2023 11am, Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, £10-£22.
“Mae’n bianydd gwych, hollol anhygoel!” Pan gipiodd Federico Colli y gwobrau yng Nghystadleuaeth Piano Leeds 2012, roedd y beirniaid yn gegrwth. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae’n un o’r pianyddion mwyaf cymhellol ar y sin ryngwladol, a heddiw mae’n dod â’i ffresni a’i egni nodedig i ryfeddod Mozart, ffyrnigrwydd Schubert, a hwyl digywilydd Prokofiev.
- Mozart Fantasia in C minor, K396
- Mozart Minuet in D, K355
- Mozart Adagio for Glass Harmonica, K356
- Schubert Fantasy in F minor (trefniant M Grinberg)
- Prokofiev Visions fugitives, Op 22
- Prokofiev Peter and the Wolf (wedi’i drawsgrifio ar gyfer unawd piano gan T
- Nikolayeva)
Mae tocynnau ar gael yma.
GWESTY CLAYTON CAERDYDD

Te Prynhawn Bonheddwr yng Ngwesty Clayton Caerdydd.
Dywedwch ‘diolch’ wrth y dyn arbennig yn eich bywyd, mwynhewch de prynhawn bonheddwr. Mae gennym ni rai o’r golygfeydd gorau o Ganol y Ddinas o’n Bar Gril a’n Bwyty, gallwch fwynhau hynny gydag amrywiaeth o ddanteithion gwrywaidd ynghyd â chwrw oer, yn union beth sydd ei angen ar bob Tad.
Archebwch eich Te Prynhawn Bonheddwr heddiw drwy ffonio 29 2066 8866 neu e-bostio events.cardiff@claytonhotels.com.
GWESTY’R VALE

Beth am sbwylio Dad, yr arbenigwr bwyd hunan-gyhoeddedig, i Ginio Sul 3 chwrs ar Sul y Tadau yng Ngwesty’r Vale! Gadewch i ni sbwylio ein tadau a dweud diolch am bopeth maen nhw’n ei wneud i ni! Tadau, ymlaciwch a mwynhewch ginio rhost blasus ar Sul y Tadau. Dim ond £31.95 am ginio blasus tri chwrs, pa ffordd well o’i sbwylio a threulio amser da gyda’ch gilydd eleni. Mae plant (3-12) yn bwyta am £15.95 ac mae plant dan 2 flwydd yn bwyta AM DDIM.
Archebwch ar-lein yma.
LAS IGUANAS

Gwnewch Papi yn hapus gyda Corona am ddim ar Sul y Tadau
Ewch â’r ffigwr sy’n dad i chi ar daith i America Ladin ddydd Sul 18 Mehefin! P’un a ydych chi’n dewis llond bwrdd o tapas i’w rhannu, neu brif gwrs blasus o burritos a byrgyrs i stêcs a saladau, byddwn ni’n rhoi peint am ddim o Corona i bob tad sy’n bwyta gyda ni.
Cadwch le ar-lein nawr.
THE IVY

Gwnewch Sul y Tadau yn anhygoel. Dangoswch eich gwerthfawrogiad wrth eu sbwylio gyda phrofiad bwyta eithriadol gyda’r fwydlen sefydlog wedi’i llunio’n arbennig. Gan arddangos cyfuniad perffaith o brydau clasurol a chyfoes, gan gynnwys ffefrynnau bythol fel Pastai Bugail The Ivy, gyda’i flas cyfoethog a chysurus, i Ffiled Merfog Môr y Canoldir.
Mwynhewch bryd o fwyd dau gwrs am £25.50 neu dri chwrs am £29.50 a
gwnewch Sul y Tadau yn wirioneddol arbennig.
Cadwch le ar-lein nawr.
VOCO ST DAVID’S CARDIFF

Dathlwch Sul y Tadau ddydd Sul 18 Mehefin 2023, gydag ymweliad i Tir a Môr yn Voco Dewi Sant, Caerdydd. Sbwyliwch Dad gyda phrif gwrs am ddim wrth archebu bwrdd i bedwar neu fwy. Dewiswch o’n bwydlen Cinio Sul, sy’n cynnwys prydau clasurol a chynnyrch tymhorol o Gymru; a mwynhewch olygfeydd panoramig syfrdanol o Fae Caerdydd – y gefnlen berffaith a fydd yn gwneud i Dad deimlo’n arbennig!
Bydd Dad yn mwynhau prif gwrs am ddim pan fydd tri neu fwy o westeion yn talu pris llawn (nid yw hyn yn berthnasol i gyrsiau cyntaf na phwdinau). Mae’r cynnig hwn ar gyfer byrddau i bedwar neu fwy, a dim ond un prif gwrs fydd am ddim.
Archebwch ar-lein yma.