Neidio i'r prif gynnwys

Yn galw 'Swifties': Dewi Sant i gynnal raffl pecyn breichledau cyfeillgarwch enfawr

Dydd Gwener, 24 Mai 2024


 

Mae Dewi Sant Caerdydd yn cynnal yr hyn y mae’n gobeithio bydd yn raffl pecyn breichledau cyfeillgarwch mwyaf y ddinas ar 8 Mehefin, cyn ymweliad Taylor Swift â’r brifddinas ar y 18fed.

Bydd dilynwyr Taylor Swift sy’n ymweld â’r gyrchfan siopa yn ystod y dydd yn cael un o 2,000 o becynnau gwneud breichledau cyfeillgarwch am ddim yn Raffl Breichledau Cyfeillgarwch Dewi Sant i ddathlu’r ffaith bod y Daith Eras yn dod i Gaerdydd.

Mae’r pecynnau breichledau wedi eu dylunio a’u comisiynu gan Dewi Sant ac maen nhw’n cynnwys teitlau caneuon Taylor Swift o’i 11 albwm stiwdio. Mae nifer dethol o’r pecynnau hefyd yn cynnwys teitlau caneuon wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, gan alluogi’r derbynwyr lwcus i greu breichled unigryw i Gymru.

Bydd dilynwyr Taylor Swift yn gallu casglu eu pecyn creu breichledau am ddim yn Raffl Breichledau Cyfeillgarwch Dewi Sant i’w gwisgo neu eu cyfnewid pan ddaw cyngerdd y Daith Eras i Gaerdydd.

Bydd y digwyddiad dathlu dilynwyr Taylor Swift yn cael ei gynnal yng nghanolfan Dewi Sant Caerdydd ddydd Sadwrn 8 Mehefin, ar Lefel Uchaf yr Arcêd Fawr wrth ymyl River Island, o 9.30am nes bydd y cyflenwadau yn para.

Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, Caerdydd:  “Rydym yn llawn cyffro bod y seren fyd-eang Taylor Swift yn dod i Gaerdydd ac i fod yn rhan o’r dathliadau gyda’n Raffl Pecyn Breichledau Cyfeillgarwch.

“Mae 2024 yn nodi haf o gerddoriaeth i Gaerdydd ac rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o brofiadau gwesteion p’un a ydyn nhw’n siopa ar gyfer y digwyddiad, yn bwyta allan, yn archwilio’r ddinas, neu’n dod i fwynhau’r awyrgylch.”

Bydd pob gwestai yn cael un pecyn gwneud breichledau yn unig yn y Raffl Breichledau Cyfeillgarwch ac mae 2,000 o becynnau ar gael. Bydd gofyn i westeion gofrestru ar gyfer rhestr bostio Dewi Sant, a rhaid i blant dan 13 oed fod yng nghwmni oedolyn.