Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Teithio ar gyfer Pink ar 11 Mehefin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd

Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024


 

Bydd Pink yn perfformio yn Stadiwm Principality ar 11 Mehefin. Bydd gatiau’r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o gwmpas y stadiwm o 3pm tan hanner nos am resymau diogelwch.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd hwn – felly cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleuster parcio a theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd – CF11 8AZ.

Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy’n mynd i’r cyngerdd yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i’r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 3pm tan hanner nos.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gyngerdd orffen ac am hyd at awr wedi diwedd y gyngerdd er diogelwch i deithwyr sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle bo modd i gyrraedd/adael Caerdydd ddydd Mawrth 11 Mehefin ond y disgwyl yw y bydd y trenau’n brysur iawn felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 21:30, heblaw am fynediad hygyrch a theithwyr sy’n dymuno teithio i Fae Caerdydd.

Bydd gwiriadau refeniw yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd drwy gydol y dydd. Ewch i trc.cymru neu i Ap newydd Trafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi’r cyngerdd.  Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon; gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngerdd ac fe fydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt, ac amser eu trên olaf adref yn www.gwr.com/check.

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Stadiwm Dinas Caerdydd Lecwydd, a gallwch chi gyrraedd hyn o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i’r safle.

Y man gollwng fydd Arglawdd Fitzhammon.

Mae’r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy’n daith o tua 10 i 15 munud.

Mae’r gost o £15 yn daladwy ar y diwrnod – arian parod yn unig.

Bydd y maes parcio yn agor am 8:45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf yn gadael Arglawdd Fitzhammon am hanner nos a bydd y safle parcio a theithio yn cau am 00:30am ar y bore wedyn.

 

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i fysus – mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r cyngerdd, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a sylw dyladwy.

Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

 

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Mae tacsis cerbydau Hacni (du a gwyn) a cherbydau hurio preifat yn gweithredu’n wahanol iawn o dan wahanol ddeddfwriaeth. Darllenwch fwy am hynny yma – https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/17047.html

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i dacsis cerbydau Hacni dderbyn archebion o safleoedd tacsis sy’n dechrau ac yn gorffen yn ffin y ddinas oni bai bod ganddynt esgus rhesymol (megis cario bwyd agored, bod yn feddw neu’n ymosodol) a rhaid iddynt hefyd ddefnyddio’r mesurydd tacsi wedi’i ffitio i gyfrifo’r pris. Mae gwrthod y prisiau hyn neu beidio â defnyddio’r mesurydd yn drosedd.

Os yw rhywun yn cael tacsi sy’n teithio tu allan i ffin Caerdydd – does dim rhaid defnyddio’r mesurydd, ac mae’r pris y cytunwyd arno yn cael ei drafod rhwng y gyrrwr a’r cwsmer fel cytundeb llafar. Trafodwch gyda’r gyrrwr tacsi.

Tra bydd rhai tacsis yn cymryd taliadau cardiau, mae’r mwyafrif yn cymryd arian parod yn unig, cofiwch hyn cyn cael tacsi o safle a gwiriwch gyda’r gyrrwr cyn i’ch taith adref ddechrau.

Os gwrthodir taith i chi, neu os cymerir mwy na’r ffi gan dacsi cerbyd hacni, nodwch rif y gyrrwr neu fanylion y rhif plât, yn ogystal â ble a phryd y digwyddodd ac e-bostiwch trwyddedu@caerdydd.gov.uk . Sylwch y bydd angen datganiad gan y cwsmer arnom i ymchwilio i’r drosedd honedig, ac efallai y gofynnir i’r cwsmer fynychu pwyllgor fel rhan o’r broses ddisgyblu.

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 3pm ac yn ailagor am hanner nos.