Neidio i'r prif gynnwys

Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Principality Caerdydd ar Hydref 6

Dydd Llun 23 Medi 2024


 

Gyda Hanner Marathon Principality Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd 6 Hydref, mae disgwyl i’r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

Ar ddydd Mercher 2Hydref bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn y Ganolfan Ddinesig i osod a datgymalu pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.

O 5am ar ddydd Mercher, 2 Hydref tan hanner nos ddydd Llun 7 Hydref  bydd Heol y Coleg ar gau o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Rhodfa’r Brenin Edward VII (bydd mynediad i gerbydau ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9am dydd Sadwrn, 5 Hydref).

O 5am ddydd Iau 3 Hydref tan ychydig cyn hanner nos ar ddydd Llun 7 Hydref – bydd Rhodfa’r Brenin Edward VII ar gau i’r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.

O 5am ymlaen ar ddydd Gwener 4 Hydref tan hanner nos ar ddydd Sadwrn 5 Hydref bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Rhodfa’r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o’r gyffordd â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
  • Rhodfa’r Amgueddfa o’r pen caeedig â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd
  • Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas y Parc i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa
  • Heol Neuadd y Ddinas o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Heol y Gogledd.

Caniateir mynediad ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9.00am Dydd Sadwrn 5 Hydref – Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu o Heol y Gogledd pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.

Rhwng 6.00am a 10.45am ddydd Sul 6 Hydref bydd y ffordd ganlynol ar gau: Ffordd y Gogledd o’r gyffordd â Colum Road i’r gyffordd â Boulevard de Nantes (ceir mynediad i Blackweir drwy Blas-y-Parc/Heol Corbett, tua’r gogledd ar Heol y Gogledd).

Rhwng 4am a 12 hanner dydd ar ddydd Sul, 6  Hydref bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin,
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

Rhwng 10am a 3.10pm ddydd Sul 6 Hydref bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Heol Colum
  • Plas y Parc o’r gyffordd â Maes St Andrew i’r gyffordd â Heol Colum.

Trefniadau mynediad tra bo’r mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad.

Ceir mynediad i Beatty Avenue o’r gyffordd â Heol Ogleddol y Llyn yn unig (gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)

Bydd mynediad i ac o Sgwâr y Frenhines Ann yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd / Heol Corbett.

Lady Mary Road o’r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn.

Ar ddydd Sul, 6 Hydref, bydd ffordd ar gau rhwng 8.30am a 3.10pm i hwyluso’r llwybr ar y ffyrdd canlynol:

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville
  • Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
  • Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas
  • Cei Britannia, Stryd Pen y Lanfa, Plas Bute, Rhodfa Lloyd George
  • Stryd Herbert, Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor
  • Stryd Adam, Plas Fitzalan yn mynd ar draws Heol Casnewydd
  • Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
  • Heol Marlborough, Heol Blenheim, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
  • Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn – bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy’r brif fynedfa.
  • Heol y Dderwen Deg, Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa.

Sylwer – Yn ystod amseroedd cau ffyrdd rhwng 8:30am a 3:10pm ar 6 Hydref, bydd mynediad yn cael ei gynnal ar gyfer preswylwyr a busnesau sy’n byw neu’n gweithio ar Rhodfa Lloyd George a Ffordd y Sgwner.

Bydd angen i drigolion a busnesau ar hyd Ffordd y Sgwner a Rhodfa Lloyd George ddilyn y cynllun gwyro a theithio drwy Rhodfa Celerity a Rhodfe Craiglee.

Yn ystod amseroedd cau ffyrdd, bydd staff ar y safle yn hwyluso’r traffig i symud, gyda cherbydau’n cael mynediad o Letton Way, Rhodfa Lloyd George i Heol Hemingway i’r gwrthwyneb.

Y tu allan i’r amseroedd cau ar gyfer y marathon, gall gyrwyr ddefnyddio llwybrau ar hyd Stryd Tyndall a Rhodfa Lloyd George.

Os caiff y llwybr ei gwblhau’n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.

Bydd y giât bysiau ar Heol y Porth yn cael ei atal dros dro drwy gydol y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar Ddydd Sul 6 Hydref.