Neidio i'r prif gynnwys

Hwyl yr Wyl i Bawb yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y Gaeaf hwn

Dydd Llun, 14 Hydref 2024


 

Gyda chymysgedd o berfformiadau cyfareddol, profiadau digidol ymdrochol a gweithdai creadigol, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn llawn hwyl yr ŵyl i bawb yn 2024.

O sioeau cerdd arobryn i hwyl yr ŵyl gyda pherfformiadau cabaret ysblennydd a marchnadoedd Nadolig gwych, Canolfan Mileniwm Cymru Caerdydd yw’r lle i fod y Nadolig hwn.  Mae tocynnau i bob digwyddiad (ac eithrio Drag Queen Story Hour UK) ar werth yma www.wmc.org.uk/festive-fun.

Mae sioe cabaret Nadolig flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru yn dychwelyd gyda thîm newydd wrth y llyw.  Mae NUTCRACKER (y cabaret amgen) yn stori serch cwiar ac mae’n rhoi cyfle i oedolion fwynhau flas gwahanol ar y stori Nadoligaidd glasurol ‘ma.  Yn seiliedig ar y stori dylwyth teg wreiddiol sef The Nutcracker a hefyd The Mouse King, bydd y profiad cabaret ymdrochol hwn yn gwyrdroi’r normau o’r hyn sy’n dda, yn ddrwg ac yn hardd yn y Byd Fodern. Wedi’i chyfarwyddo gan Juliette Manon, gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Sam Roberts a Heledd Watkins o HMS Morris, a pherfformiadau tywyll gan Len Blanco, Diomede, Cadbury Parfait, Rotten Peach a Daisy Williams.

Os ydych chi’n chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith, gallwch bori trwy ddewis arbennig o nwyddau wedi’u gwneud â llaw ac anrhegion unigryw gan ddylunwyr annibynnol a chrefftwyr yn y Farchnad Nadolig.  Y farchnad Nadoligaidd hon, a gynhelir gan indie.collectives gan Annie a Lolo, yw’r lle perffaith i ddod o hyd i drysorau unigryw tra’n cefnogi pobl greadigol leol. Ar agor bob penwythnos (ac eithrio 30 Tachwedd/1 Rhagfyr), 10am – 5pm.

Ymunwch ag Aida H Dee, sef The Storytime Drag Queen, wrth iddi fynd â chi ar daith hudol drwy fyd o gymeriadau lliwgar fydd yn rhoi gwên ar eich wyneb, hanesion mor ddwl fyddwch chi’n methu stopio chwerthin, a drag cwîn sy ddim yn gwybod ble mae wedi gadael ei wig sbâr! Mae Aida yn awdur plant cyhoeddedig, yr artist drag cyntaf yn y DU i adrodd straeon mewn llyfrgell, a sylfaenydd Drag Queen Story Hour UK.

I bobl sy’n caru cerddoriaeth, bydd All I Want for Christmas is Musicals yn siŵr o daro tant; noson wefreiddiol o adloniant gyda’r perfformwyr talentog o Welsh of the West End Siwan Henderson a Steffan Hughes, ochr yn ochr â Laura Dawkes, a fu’n chwarae’r brif rôl ‘Anna’ yn y West End’s Frozen, ac All I Want for Christmas is Family Musicals, gyda Mared Williams (Welsh of the West End),  Steffan Hughes a Laura Dawkes.  Bydd pawb yn mwynhau hwyl y Nadolig yn theatr y Cabaret yng nghwmni’r pianydd enwog David George Harrington—sydd wedi gweithio gyda sêr byd cerddoriaeth fel Katherine Jenkins a Kylie Minogue.

Yn Theatr Donald Gordon, peidiwch â cholli’r ffenomen fyd-eang Hamilton, y sioe gerdd arobryn sy’n dod â hanes yn fyw gydag elfen fwy modern, wrth iddi ddod i Gymru am y tro cyntaf erioed.  Gan gynnwys caneuon a pherfformiadau bythgofiadwy, dyma gynhyrchiad y mae’n rhaid ei weld a fydd yn mynd o fis Tachwedd hyd at y Flwyddyn Newydd.  Peidiwch colli allan, sicrhewch eich tocynnau nawr: https://www.wmc.org.uk/en/whats-on/2024/hamilton.

I’r rhai sydd am gamu i fyd rhith-realiti, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi partneru â StoryFutures i ddod â Xperience i Bocs, – ei leoliad pwrpasol ar gyfer adrodd straeon ymdrochol.   Mae Xperience yn cynnig sawl profiad Realiti Rhithwir difyr gyda themâu amrywiol megis cerddoriaeth, chwaraeon a newid yn yr hinsawdd ac mae’n amrywio o ffilmiau 360 wedi’u hanimeiddio’n hyfryd i brofiadau ymdrochol rhyngweithiol llawn.

Yn Stiwdio Weston, cewch chi fynd ar antur hwyliog dros y môr gyda grŵp theatr gymunedol Hijinx, Odyssey, wrth iddyn nhw gyflwyno Pirates of the Odyssey Inn, cynhyrchiad addas i’r teulu cyfan wedi’i ysbrydoli gan ‘Treasure Island’ gan Robert Louis Stevenson. Gyda chast mawr o berfformwyr anabl a heb anabledd, mae’r sioe deuluol galonogol hon yn llawn comedi, digon o gyffro a cherddoriaeth wreiddiol.

Os chi’n chwilio am rywbeth gwahanol i’r arfer yn ystod tymor y Nadolig, beth am rifyn pump o sioe House of Deviant a Vaguely Artistic ym mar Cabaret, am noson llawn twrw a gliter?  Gwisgwch eich dillad parti gorau a dewch yn barod i ddawnsio, oherwydd bod si ar led, bod gan gorachod Siôn Corn wobrau i bawb; boed nhw’n blant da neu drwg!

I’r rhai sy’n teimlo’n grefftus, bydd gweithdai hefyd ar gyfer dechreuwyr a chrefftwyr profiadol fel ei gilydd i crosio eu haddurniadau coeden Nadolig eu hunain a chreu darnau clai a chrochenwaith.  A bydd cwmni Ffwrnais yn gweini digon o ddanteithion Nadoligaidd drwy gydol y tymor.