Neidio i'r prif gynnwys

Hanner Marathon Caerdydd Principality 2024 i ddathlu ras i bawb

Wednesday 2 October 2024


 

Bydd Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn dychwelyd i brifddinas Cymru ddydd Sul 6 Hydref – a dyma fydd y ras fwyaf o’i math hyd yma.

 

Mae mwy na 29,000 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan ar draws yr hanner marathon a’r ras iau ar y dydd Sadwrn yn yr hyn a fydd y 21ain tro i’r digwyddiad gael ei gynnal – gyda’r nifer uchaf erioed o gyfranogwyr yn ymuno o dramor.

 

Mae’r digwyddiad yn dangos y gorau sydd gan y ddinas i’w gynnig, gan gynnwys tirnodau eiconig megis Castell Caerdydd, Stadiwm Principality a Bae Caerdydd.

 

Fodd bynnag, nid ei hanes cyfoethog a’i phensaernïaeth drawiadol yn unig sy’n gwneud Caerdydd yn wych – amrywiaeth ei phobl ydyw hefyd. Dyna pam mai’r thema ar gyfer y digwyddiad eleni yw ‘Ras i Bawb’.

 

Dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales, sy’n cynnal Hanner Marathon Caerdydd: “Mae’n bwysig iawn i ni sicrhau ein bod yn dathlu popeth sy’n gwneud Caerdydd yn ddinas mor unigryw a chroesawgar, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y bobl sy’n byw yma.

 

“Dyna pam mae’r digwyddiad eleni yn cymryd camau breision i sicrhau ei fod yn cynrychioli Cymru fel y mae heddiw – ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed i annog pobl o bob oed, cefndir a gallu rhedeg i gymryd rhan.

 

“Dyma ein blwyddyn fwyaf erioed gyda dros 29,000 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan dros y penwythnos gan amrywio o blant yn cymryd rhan yn eu digwyddiad cyntaf ac athletwyr elît a chlwb yn chwilio am amser cyflym i’r rhai sy’n cwblhau eu hanner marathon cyntaf wrth godi arian i elusen, neu fel rhan o’n Clwb 100 – menter a lansiwyd gennym i helpu i arallgyfeirio’r gamp a chwalu’r rhwystrau mewn digwyddiadau cyfranogiad torfol.”

 

Ymhlith y rhedwyr sy’n cymryd rhan eleni mae Zoe Barber, llawfeddyg y fron o’r Bont-faen. Bydd hi’n gwisgo fel Belle from Beauty and the Beast, mewn gwisg a wnaed gan ei chydweithiwr ac enillydd y Great British Sewing Bee, Asmaa Al-Allak, yn ei hymgais i dorri Record Byd Guinness i fod y fenyw gyflymaf i redeg hanner marathon wedi’i gwisgo fel cymeriad cartŵn.

 

Y record bresennol yw 1:53:26.

 

Dywedodd:  “Roeddwn i’n arfer bod yn rhedwr brwd iawn cyn i mi gael fy ngefeillesau a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2017. Y llynedd, roeddwn i wedi fy ysbrydoli’n fawr i gymryd rhan eto. Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i’n mynd i redeg mor gyflym ag yr oeddwn i o’r blaen, felly dechreuais edrych ar ffyrdd eraill o ysgogi fy hun. Dyna pryd y des i ar draws y record a meddwl ‘gallwn i wneud hynny’.

 

“Roeddwn i’n siarad â’r plant am y peth, sy’n dwlu ar dywysogesau a gwisgo lan, a dywedais wrthyn nhw, ‘Mae mam yn mynd i fod yn rhedeg ras. Ddylwn i fod yn dywysoges?’ Ond cefais sioc pan ddywedon nhw wrtha i, ‘Na Mam, dydy tywysogesau ddim yn rhedeg’. Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ei wneud e iddyn nhw. I ddangos iddyn nhw y gallwch chi fod yn dywysoges a gallwch chi redeg, a bod tywysogesau yn gallu gwneud unrhyw beth.”

Bydd Phil Powell, 71 oed o’r Rhosan-ar-Wy, hefyd yn rhoi cynnig ar y cwrs, gan redeg fel rhan o’r Clwb 100 eleni.

 

Cafodd Phil ddiagnosis o lymffoma MALT o’r ysgyfant chwith bum mlynedd yn ôl. Ar ôl cael traean o’i ysgyfant chwith wedi’i dynnu, dywedodd ei lawfeddyg wrtho na fyddai byth yn rhedeg eto. Er bod ganddo ddau diwmor anoperadwy yn ei ysgyfant de hefyd, nid yw Phil wedi gadael i hyn ei atal ac ers hynny mae wedi cwblhau 14 hanner marathon a ras 10K, gyda’i her nesaf yn debygol o fod yn Hanner Marathon Caerdydd.

 

Dywedodd y tad i ddau o blant a thaid i dri o blant sy’n llawn ysbrydoliaeth: “Mae rhedeg yn help mawr i mi ymdopi ac rwy’n mynd i barhau cyhyd ag y gallaf. Fy neges i eraill yw peidio â rhoi’r gorau iddi. Ceisiwch gyflawni eich potensial llawn a pheidiwch â gadael i unrhyw salwch neu ganser eich trechu. Mae cadw’n heini’n gallu eich helpu i wynebu beth bynnag sy’n digwydd i chi.”

 

Ymhlith y rhai mewn festiau clwb gwisg ffansi a rhedeg bydd cannoedd o redwyr yn eu crysau T elusennol yn codi arian ar gyfer achosion sy’n bwysig iddyn nhw, gan gynnwys timau mawr o’r NSPCC, Cymdeithas Alzheimer, Mind, Ymchwil Canser Cymru, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.

 

Bydd Georgia Edwards, mam i ddau o blant o Benarth, yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf i godi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon.

 

Fe wnaeth rheolydd calon achub bywyd ei gŵr Rhys ar ôl iddo fynd yn sâl bythefnos ar ôl eu priodas tra oedd ar drip busnes yn Efrog Newydd.

 

Dywedodd Georgia: “Roedd yn gyfnod brawychus iawn. Mae canran y bobl sy’n cael yr un profiad ag e yn fach iawn. Rydyn ni eisiau i bobl ddeall y dylen nhw weld y meddyg ar unwaith os ydyn nhw’n teimlo bod rhywbeth o’i le.

 

“Mae llinell gymorth Sefydliad Prydeinig y Galon wedi bod yn amhrisiadwy i ni, ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i roi yn ôl i’w holl gymorth ac ymchwil. Dyna pam wnes i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Dw i erioed wedi rhedeg – doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu rhedeg 1K ym mis Mawrth, ond dw i wedi bod yn hyfforddi’n dda a bydd gweithio tuag at y nod hwn yn fy helpu i drwodd.”

 

Yn y ras eleni bydd y nifer uchaf o gyfranogwyr rhyngwladol yn cymryd rhan, gyda rhedwyr o dramor yn cyfrif am 10% o’r cystadleuwyr – cynnydd o 5% yn 2023. Mae’r mwyafrif o ymgeiswyr rhyngwladol yn dod o Sbaen, yr Almaen, Portiwgal, yr Eidal, Denmarc, Ffrainc a’r Iseldiroedd gyda rhedwyr yn dod o wledydd mor bell ag UDA, Seland Newydd, Mecsico a bron 100 o Frasil.

 

Bydd rhedwyr elitaidd yn ymuno â nhw yn awyddus i gystadlu am le ar y podiwm. Mae’r cystadleuwyr eleni yn cynnwys athletwyr o Kenya, Ethiopia, Prydain Fawr a Gwlad Pwyl, gyda’r rhestr lawn y prif berfformwyr yn cael ei chyhoeddi cyn y penwythnos.

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cardiffhalfmarathon.co.uk/cy/