Neidio i'r prif gynnwys

Mae Castell Caerdydd i'w weld yn nrama'r BBC Wolf Hall: The Mirror and the Light

Dydd Iau, 7 Tachwedd 2024


 

Mae Drama boblogaidd gan y BBC ‘Wolf Hall: The Mirror and the Light’ yn cynnwys cast llawn sêr yn cynnwys Mark Rylance fel Thomas Cromwell, Damian Lewis fel Brenin Harri VIII, ac efallai y bydd gwylwyr â llygad barcud yn gweld Castell hanesyddol Caerdydd hefyd.

Mae’n dilyn pedair blynedd olaf bywyd Thomas Cromwell wrth iddo gwblhau ei daith o sefydlu ei hun fel dyn parchus i fod yn ofnus a dylanwadol ym myd gwleidyddiaeth, mae pennod olaf y gyfres ddrama arobryn hon wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd a threuliwyd peth o’r amser hwnnw yn ffilmio y tu mewn ac o amgylch y Castell Gorthwr Normanaidd.

Dywedodd Rheolwr y Castell, Nicola Burrows: “Rydyn ni’n cael llawer o ffilmio yn digwydd yn y Castell ond mae’n debyg mai hwn oedd yr un â’r proffil uchaf sydd wedi bod yn ddiweddar. Roedd yn gyffrous iawn i ni, ac i’n hymwelwyr, a oedd wrth eu bodd yn gallu gwylio’r ddrama’n datblygu o’u blaenau. Rydyn ni eisoes wedi gweld y Castell yn y clip marchnata ar gyfer y gyfres, ni’n methu aros i weld yr olygfa a ffilmiwyd yma yn llawn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:”Mae’r sector creadigol yn ffynnu yng Nghaerdydd a gyda 2,000 o flynyddoedd o hanes wedi’i ymgorffori yn ei waliau, mae Castell Caerdydd yn lleoliad gwych i gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu.

“Y tu hwnt i’r diddordeb a’r cyffro o fod yn rhan o’r cynyrchiadau hyn, mae ochr fwy difrifol – mae’r incwm a gynhyrchir yn helpu i ariannu gwaith i gynnal a diogelu’r ased treftadaeth anadferadwy hwn ar ran pobl Caerdydd.”