Beth wyt ti'n edrych am?
Sioe Moduron Cerbydau Trydan yn Dod i Gaerdydd
Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2024
- Bydd amrywiaeth o’r cerbydau trydan diweddaraf i’w gweld yn Techniquest
- Gwahoddir y cyhoedd i brofi’r cerbydau trydan diweddaraf
- Cyfle i ennill cerbyd trydan am wythnos yn y Raffl Wobr
Bydd ymwelwyr â Techniquest – canolfan darganfod gwyddoniaeth arloesol Caerdydd – yn cael cyfle i brofi’r cerbydau trydan diweddaraf sydd ar gael i’w prynu ar hyn o bryd.
Yn digwydd 12 Tachwedd, mae Sioe Moduron EVOLUTION, a drefnir gan GREENFLEET Events ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cyd-daro ag Wythnos Hinsawdd Cymru a COP29 i gynnig cyfle i’r cyhoedd brofi’r ceir trydan diweddaraf ac i ddangos yn union beth mae gyrru a bod yn berchen ar gerbyd trydan yn ei olygu.
Ar agor rhwng 10am a 3.30pm, gall y rheiny sy’n hoffi cerbydau trydan a’r rheiny sy’n sgeptig ohonynt bori drwy’r arddangosfa helaeth o gerbydau trydan a fydd o amgylch cyfadeilad Techniquest cyn mynychu gweithdy AM DDIM a fydd yn cynnwys yr archwilwyr cerbydau trydan Chris a Julie Ramsey, yr anturiaethwyr priod ac eiriolwyr cerbydau trydan a gwblhaodd yr Alldaith Pegwn i Begwn yn llwyddiannus; llwybr 17,000 milltir a wthiodd galluoedd cerbydau trydan i’r eithaf.
Bydd ymwelwyr hefyd yn cwrdd â deiliad record y byd Guinness, Kevin Booker, a gyflawnodd y teitl Record y Byd Guinness 2023 am y pellter hiraf erioed a yrrwyd mewn fan drydan ar un gwefr – 311.18 milltir (500.8 km).
Yn ogystal â hyn, bydd y gweithdy yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Cerbydau Trydan Cymru a thrafodaethau a arweinir gan uwch swyddogion y llywodraeth o Lywodraeth Cymru.
Mae’r gweithdy AM DDIM ar agor rhwng 11am a 12.30pm.
Bydd Sioe Moduron EVOLUTION yn cau gyda RAFFL WOBR ac felly bydd un ymwelydd lwcus yn gadael gyda £250 a’u cerbyd trydan arbennig eu hunain i yrru am wythnos, drwy garedigrwydd noddwr EVOLUTION Voltric.
Bydd Sioe Moduron EVOLUTION ar agor i bawb rhwng 10am a 3:30pm ar 12 Tachwedd. Cofrestrwch eich lle am ddim nawr yn https://evolutionshow.co.uk/
I gael gwybodaeth am y gweithdy ewch i https://evolutionshow.co.uk/workshops