Neidio i'r prif gynnwys

Un Mis O Gynllun ‘Refill Return Cup’ Arloesol Caerdydd Yn Dangos Cefnogaeth Gref I’r Cynllun Cynaliadwyedd

Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2024


 

Dim ond un mis ers ei lansiad, mae cynllun Refill Return Cup Caerdydd yn dathlu canlyniadau cryf, wrth i fwy na 2,500 o gwpanau gael eu benthyg gyda chyfradd dychwelyd o 97% gan hoffwyr coffi eco-ymwybodol ledled y ddinas.

Mae’r fenter gyntaf-o’i-math hon yng Nghymru, a lansiwyd ar 4 Hydref, eisoes wedi arbed amcangyfrif o 43kg o CO2 trwy leihau gwastraff cwpanau untro.

Mae cynllun Refill Return Cup Caerdydd – a lansiwyd ddechrau mis Hydref – yn galluogi cwsmeriaid i “fenthyg” cwpanau amldro o gaffis sy’n cymryd rhan o amgylch y ddinas. Gyda chefnogaeth Caerdydd AM BYTH a City to Sea, gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rhagamcenir y bydd y cynllun peilot yn atal hyd at 30,000 o gwpanau untro rhag mynd i ffrwd wastraff Caerdydd erbyn mis Mawrth 2025.

Cerrig milltir un mis cynllun Refill Return Cup Caerdydd:

  • 2,500+ o gwpanau amldro wedi’u benthyg, gan ddangos ymgysylltiad cryf â’r cyhoedd.
  • 2,200+ o gwpanau wedi’u dychwelyd ledled y ddinas, sef cyfradd dychwelyd o 97%, sy’n profi effeithiolrwydd y cysyniad.
  • Amcangyfrif o 43kg o CO2 wedi’i arbed, gan wneud effaith amgylcheddol go iawn ar ôl un mis yn unig.

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Gweithredol Caerdydd AM BYTH, “Mae gweld cynllun Refill Return Cup Caerdydd yn ennill momentwm mor fuan yn ysbrydoledig. Mae ymrwymiad busnesau, trigolion ac ymwelwyr Caerdydd fel ei gilydd yn helpu i adeiladu dinas fwy cynaliadwy un cwpan ar y tro.”

Mae’r busnesau sy’n cymryd rhan yn hanfodol i lwyddiant y cynllun, gan greu rhwydwaith o bwyntiau casglu a dychwelyd sy’n ei gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid fwynhau dewisiadau cynaliadwy ar draws Caerdydd. Gan sganio’r cod QR trwy’r app Refill, gall cwsmeriaid fenthyg a dychwelyd cwpanau yn rhwydd. Trwy groesawu model economi gylchol, mae busnesau Caerdydd yn helpu i lunio cymuned wyrddach, fwy cynaliadwy.

Mae Da Coffee yn y Sgwâr Canolog wedi’i leoli ychydig gamau i ffwrdd yn unig o Orsaf Caerdydd Canolog. Gyda thraffig troed uchel a chyfleustra i gymudwyr, mae Da Coffee wedi dod i’r amlwg fel lleoliad mwyaf poblogaidd y cynllun, gan ei gwneud hi’n hawdd i bobl gasglu cwpan ar y ffordd, a’i ddychwelyd yn ddiweddarach.

Rhannodd Gwenno Jones, Rheolwr Cymunedol Da Coffee, “Mae ein cwsmeriaid wedi bod yn frwdfrydig iawn dros y cynllun – mae’n swop mor syml, ac mae wir yn apelio i bobl sydd am wneud gwahaniaeth. Gan ein bod ni reit ar bwys yr Orsaf Ganolog, rydyn ni yn y lle perffaith i wneud Refill Return Cup yn ddewis cyfleus i gymudwyr, gweithwyr lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Y busnesau mwyaf poblogaidd* sy’n cymryd rhan (*yn ôl nifer y cwpanau a fenthycwyd ac a ddychwelwyd hyd yn hyn):

  1. Da Coffee, Sgwâr Canolog
  2. Coffee Mania, Techniquest
  3. Bae Coffi, Heol Dumballs
  4. Theatr y Sherman, Cathays
  5. Kin & Ilk, Brunel House

Dywedodd George Clark, Arweinydd Rhaglen gyda City to Sea, “Mae wedi bod yn bleser cefnogi Caerdydd AM BYTH a’u busnesau gwych i ddod â’r Refill Return Cup yn fyw yn y ddinas.

Pan beilotiodd City to Sea y prosiect ym Mryste yn 2023, cawsom syniad o heriau a chymhellion siopau coffi wrth fynd i’r afael â phroblem y cwpanau untro. Rydym yn falch iawn o weld bod gwneud y cynllun yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid gymryd rhan ynddo, gan godi ffi dim ond am gwpanau heb eu dychwelyd, yn annog ymgysylltiad uchel a chyfradd dychwelyd gwych.  Mae’r effaith a welwyd eisoes yn y mis cyntaf yn dangos pa mor frwdfrydig yw pobl a busnesau Caerdydd i fynd i’r afael â llygredd plastig!”

Effaith yn y Dyfodol

Ar hyn o bryd mae Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol Busnes Greenwich yn gwerthuso effaith y cynllun, gyda’r nod o greu glasbrint i ddinasoedd eraill yn y DU ei ddilyn; y gobaith yw y bydd llwyddiant y peilot yng Nghaerdydd yn adeiladu achos grymus dros greu cynlluniau pellach ar draws Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.forcardiff.com