Neidio i'r prif gynnwys

Romjul – Cyflwr meddwl 'Twixmas'

Dydd Gwener, 20 Rhag 2024


 

Beth ydych chi’n galw’r dyddiau hynny rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?

O ‘Twixmas’ i’r ‘dydd Sul hiraf’ mae enw’r cyfnod rhyfedd hwnnw rhwng Gŵyl San Steffan a Nos Galan wedi bod yn destun trafod mawr.

Yn aml caiff ei dreulio’n ymlacio, bwyta gormod, ac anghofio pa ddiwrnod ydyw, ac rydym ni, yn Croeso Caerdydd, yn awyddus i benderfynu’r ddadl.

Felly, ar ôl peth ymchwil, rydym ni wedi darganfod syniad gwych yn ddiweddar o Sgandinafia; yn benodol o’n ffrindiau da iawn yn Norwy (wyddech chi fod Caerdydd wedi gefeillio â Hordaland yn Norwy ers 1996?)

Mae’r Norwyaid yn galw’r cyfnod hwn o amser Romjul, ac mae’n gyflwr meddwl yn fwy na dim arall. Yn gyfnod o orffwys yn gorfforol ac yn feddyliol, mae Romjul yn ymwneud ag arafu bywyd i lawr, ymlacio ac ailgysylltu â ffrindiau a theulu i fyfyrio ar y flwyddyn y tu ôl, cyn croesawu’r un newydd. Nid oes straen, na dedleins, ac yn bendant dim drama! Yn syml, y pethau syml, hawdd a chysurus.

Nawr ein bod ni wedi’ch temtio gyda’r syniad, sut allwch chi fwynhau eich darn o Romjul eich hun yng Nghaerdydd eleni?

Gŵyl y Gaeaf – sglefrio iâ gyda’r teulu yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd, ac yna siocled poeth neu win cynnes mewn cornel glyd o far alpaidd Sur La Piste!

Gwestai Sba – Beth am drin eich hun ac ymlacio a dadflino yn un o westai sba Caerdydd, mae rhai bargeinion gwych o gwmpas yr adeg hon o’r flwyddyn.

Siopa – Mae therapi manwerthu yn golygu ymlacio i rai… siopa o amgylch canolfannau ac arcedau y ddinas a phrynu i chi’ch hun rywbeth yn y Romjulssalg (gwerthiannau Romjul), rydych chi’n ei haeddu.

Tanau Coed Clyd – Os nad ydych yn ddigon ffodus i gael tân coed gartref yna ewch i un o dafarndai Caerdydd sydd ag un yn lle, fel 33 Windsor Place, The Cricketers, The Deri Inn neu The Old Post House yn Sain Ffagan.

Parciau a Gerddi – Cliriwch ddryswch y Nadolig a chael gwared ar ben clwc y gwyliau gan fynd am dro hen ffasiwn da o amgylch un o barciau neu erddi Caerdydd. Rhowch gynnig ar Barc Bute, Parc y Rhath neu Erddi Alexandra.

Theatr – Mae Caerdydd yn cynnig llawer o sioeau Nadolig i’w mwynhau; mewn lleoliadau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Newydd a’r Spiegeltent yng Ngerddi Sophia.

Bae Caerdydd – Beth am daith gerdded aeafol ar draws Morglawdd Bae Caerdydd, gyda gorffwys haeddiannol yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ar gyfer cacen a diodydd poeth.

Gweld sioe Wyddoniaeth – Ewch ar daith iasol i’r lleoedd oeraf ar y Ddaear!  O fynyddoedd iâ i fyrgyrs iâ, pawennau pegynol i bengwiniaid, mae Techniquest eisiau gwneud yn siŵr bod gennym aeaf gwyn yng Nghaerdydd eleni.

Wyddech chi?

Cysylltiadau cryf Caerdydd â Norwy…

Wyddech chi fod Caerdydd wedi gefeillio â Hordaland yn Norwy ers 1996? Hordaland yw trydedd sir fwyaf Norwy ac mae hefyd yn cynnwys ail ddinas y wlad, Bergen. Bob blwyddyn, mae tua 20 o ddisgyblion chweched dosbarth yn teithio o Hordaland i astudio mewn ysgolion yng Nghaerdydd ac roedd y cyfnewid hwn yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2017.

Yn ôl yn y 19eg ganrif, roedd fflyd y masnachwyr Norwyaidd yn gweithredu’n drwm o ddociau Caerdydd gan arwain at adeiladu un o’n tirnodau modern enwog, sef yr Eglwys Norwyaidd. Am tua chanrif bu’r eglwys yn gwasanaethu anghenion morwyr ac alltudion yn y gymuned leol. Un o’r teuluoedd Norwyaidd alltud hynny oedd y Dahls, y cafodd ei fab Roald ei fedyddio yn yr eglwys a chafodd ei fagu i fod yn un o awduron plant enwocaf y byd.

Yn yr 1980au helpodd dyn o’r enw Terje Inderhaug, o Hordaland, i godi £90K o’r £250k a ddefnyddiwyd i achub ac adleoli’r eglwys i’w lleoliad presennol. Rhoddodd Hordaland hefyd goed o ansawdd uchel ar gyfer decin newydd trawiadol yr eglwys, yn ogystal ag anfon seiri coed meistr i’w osod.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.