Neidio i'r prif gynnwys

Mae Canolfan y Ddraig Goch yn cynnal dathliad i'w gofio

Dydd Mercher, 29 Ionawr 2025


 

Mae lleoliad adloniant eiconig Bae Caerdydd, Canolfan y Ddraig Goch, yn croesawu Blwyddyn Newydd y Lleuad gyda dathliad ar 2 Chwefror.

 

I ddathlu Blwyddyn y Neidr, bydd y Ganolfan unwaith eto yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Confucius Caerdydd i gynnal diwrnod difyr llawn gweithgareddau, gan gynnwys caligraffeg, torri papur, gwneud llusernau, ynghyd â cherddoriaeth a pherfformiadau dawns rhwng 12-5pm.

 

Gan ychwanegu at y dathliadau, bydd llew Tsieineaidd yn ymuno ac yn cwrdd ag ymwelwyr am 12.30pm, 2pm a 3.30pm.

 

Rhwng y dathliadau, gall ymwelwyr ddewis o blith yr amrywiaeth o fwytai y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, gan gynnwys y bwyty Tsieineaidd Everytime, y bwyty ‘bwyta cymaint ag y gallwch’ Japaneaidd Volcano, ac Yemek, a agorodd ei ddrysau yn y Ganolfan am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2024.

 

Dywedodd Emma Constantinou, Rheolwr Marchnata Canolfan y Ddraig Goch, “Rydyn ni mor gyffrous i fod yn bartner gyda Sefydliad Confucius Caerdydd unwaith eto. Roedd y llynedd yn llwyddiant ysgubol, ac ni allwn aros i groesawu’r cyhoedd yn ôl i’r ganolfan ar gyfer mwy o weithgareddau llawn hwyl, ynghyd â’n bwytai a’n lleoliadau adloniant poblogaidd, i gynnig y diwrnod perffaith i’r teulu.  Ni fyddai ein dathliadau yn gyflawn heb y Llew Tsieineaidd eiconig a fydd yn ein helpu i ddathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad mewn steil.

 

“Rydym yn hynod falch o fod yn cynnal digwyddiad lle gall unrhyw un o’r cyhoedd gymryd rhan mewn a dathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad am ddim.

 

Dywedodd Guoxiang Xia, Cyfarwyddwr Academaidd Sefydliad Confucius Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Ganolfan y Ddraig Goch ar gyfer rhaglen anhygoel arall o ddathliadau Gŵyl y Gwanwyn. Mae’n adeg mor fendigedig o’r flwyddyn, ac yn bleser gallu darparu diwrnod o hwyl am ddim i deuluoedd, gan ddod â hud yr ŵyl yn fyw a chreu atgofion am oes.”

 

Mae Canolfan y Ddraig Goch yn gartref i lu o leoliadau rhyngweithiol, ffordd o fyw a bwyd a diod, gan gynnwys sinema’r Odeon, cartref yr unig sgrin IMAX yng Nghymru, a Hollywood Bowl, sydd wedi bod yn atyniadau allweddol yn y Ganolfan ers y dechrau.

 

Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i amrywiaeth o frandiau eraill sy’n rhan gynhenid o’r profiad adloniant a bwyta, gan gynnwys Grosvenor Casino, Five Guys, Spice Route, Volcano, EasyThali, EveryTime, a Zaika.

 

Y Ganolfan hefyd yw safle stiwdio Capital FM De Cymru, a oedd arfer bod yn Red Dragon FM, yn ogystal â Heart FM. Heddiw, fe welwch bobl fel Josh a Kally yn darlledu eu rhaglen ddiwedd prynhawn ar Capital FM yn fyw yno bob diwrnod o’r wythnos.

 

DIWEDD

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Savannah Perry o Effective Communication yn sperry@effcom.co.uk