Beth wyt ti'n edrych am?
Mae'r Ivy yn lansio bwydlen coctel di-alcohol 'Sips Cymdeithasol' ar gyfer Ionawr Sych
Dydd Llun, 6 Ionawr 2025
Gyda bwydlen newydd o mocktails wedi’u crefftio’n ofalus a chwrw / gwin di-alcohol ac alcohol isel, sdim rhaid i Ionawr sych fod yn ddiflas.
Ym mis Ionawr, mae The Ivy Collection yn lansio bwydlen arloesol o mocktails gan ddefnyddio gwirodydd di-alcohol arbennig a blasau egnïol, ochr yn ochr â chwrw a gwin alcohol isel a dim alcohol. Y peth perffaith ar gyfer mwynhau gyda’r teulu a ffrindiau ar ôl cyfnod y Nadolig, mae’r opsiynau Sips Cymdeithasol yn rhoi rheswm gwych i fynd allan a chymdeithasu heb fynd yn groes i Ionawr Sych neu addunedau blwyddyn newydd.
Falle nad oes llawer / dim alcohol, ond dyw hwnna ddim yn golygu dim blas! Mae Geranium Collins yn gymysgedd o Tanqueray 0% gyda syrop Geranium a Ginger Ale, gyda mint a leim ar ei ben. Hyfryd! Os chi eisiau bach mwy o ffrwythau a blas mwy cryf wrth i chi glebran gyda’ch ffrindiau, beth am Orchard Lemonade: mae cynhesrwydd a sawr Seedlip Spice 94 yn cwrdd â cordial bricyll a blodau ysgaw, a bach o lwch Tajin wedi’i ysgeintio ar ei ben. Blasus!
A wedyn mae gyda ni rywbeth mwy siarp a ffres, sef y Lucky Shandy; mae hwn yn cynnwys Lucky Saint 0.5% a Cordial Ceisios Sur, Grawnwin Coch a Hibiscus, soda bricyll a grawnwin, a siwgr mafon wedi’i ysgeintio ar ei ben. Fel arall, mae cwrw Lucky Saint 0.5% hefyd ar gael i’r rhai sy’n awyddus i fwynhau diod llawn blas ond alcohol isel. Opsiwn arall i westeion i ddechrau 2025 yn dda yw gwin pefriol Wild Idol Di-alcohol, i fwynhau diod â swigod wrth ddal lan gyda’r mêts.
Yn llawn ffrwythau ac yn dwyn i gof blodau y mae’r Highball Rhiwbob a Rosehip. Mae’n cynnwys Tanqueray 0%, cordial Rhiwbob a Rosehip, blend sitrig egr a thonic Fever-Tree Light. A heb anghofio’r Stinging Collins wrth gwrs, diod sy’n rhoi Seedlip Garden 108 ochr yn ochr a blend sitrig, cordial Danadl Poethion a Fever-Tree Ginger Ale.
Meddai Laura Mills, Rheolwr Gyfarwyddwr The Ivy Collection: “Nid oes angen i Ionawr sych olygu aros adref nac ymatal rhag diodydd sy’n hwyl ac yn llawn blas, sef yr union beth sydd ar gael gyda’n bwydlen Llymeidiau Cymdeithasol newydd. Ar ôl tymor yr ŵyl mae’n naturiol bod chi eisiau torri’n ôl ar alcohol, ac mae llawer ohonon ni’n defnyddio hyn fel rheswm i beidio â mynd allan a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. Gyda lansiad ein bwydlen, rydyn ni’n gwahodd gwesteion i ymuno â ni am ddiod gyda theulu a ffrindiau heb gyfaddawdu ar Ionawr Sych ond gan ddal i fwynhau blasau cyffrous.”
Felly, p’un a yw mis Ionawr yn sych, yn wlyb, neu os yw ambell gawod yn bosib, mae diod at ddant pawb wrth weld perthnasau a ffrindiau ym mwyty The Ivy Collection.
Darganfod The Ivy ar Croeso Caerdydd