Beth wyt ti'n edrych am?
DYDD SANT FFOLANT YNG NGHAERDYDD
Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2025
Chwilio am ffordd unigryw i greu argraff ar eich cariad ar ddydd Sant Ffolant? Mae gyda ni gynigion, digwyddiadau a bwydlenni gwych isod…
Enghraifft bach yw hyn o’r llu o weithgareddau rhamantus i’w gwneud yng Nghaeryddd. Darllenwch ein Blog Cariadon yma.

Mwynhewch bob eiliad gyda’ch person arbennig y dydd Sant Ffolant hwn yn Mar a Chegin Laguna. Gallwch chi gael pryd tri chwrs blasus gyda phrydau wedi’u creu yn arbennig ar gyfer y diwrnod. Mae modd cadw lle o ddydd Mercher 14 Chwefror i ddydd Gwener 17 Chwefror, £40 y pen.
Archebwch botel o Rose Prosecco ymlaen llaw am £25.00 (£30.00 fyddai hi fel arfer). Cliciwch yma i weld y Fwydlen Dydd Sant Ffolant.

£35 y pen am sesiwn brynsh dwy awr ar 17 neu 18 Chwefror. Cewch chi awr wrth fwrdd dartiau i weld pwy fydd yn maeddu pwy mewn gêm o ddartiau. Yn yr ail awr wedyn, llwncdestun i’r enillydd haeddiannol wrth y bar ysblennydd.
Pa ffordd well i ddathlu cariad at eich ffrindiau y Palentines yma, na diodydd da, pizza da, a bach o gystadlu cyfeillgar? Cadwch fwrdd ar-lein yma.

Pecyn pâr i ymlacio dros nos gan gynnwys facemasks, te camomeil i dawelu’r meddwl a trît bach siocled! Dŵr, brecwast ac amser gadael hwyr. Cyfle i chi a’ch cariad glirio’r pen ac ail-wefru’ch batris.
Gallech chi hefyd ychwanegu “Noson Cyri’r Cariadon” i orffen gyda phryd o fwyd egnïol a phoeth o £19.95 y pen sy’n cynnwys eich prif gwrs a naill ai glasied o win neu botel o gwrw. Cadwch fwrdd ar-lein yma.

Mae’r Ffrancwyr yn gwybod peth neu ddau am gariad, ac mae hynny’n dechrau gyda phrydau sy’n tanio’r synhwyrau. Eleni, mae Côte yn gwneud noson i’r cariadon fwy blasus nag erioed gyda’u profiadau i’w rhannu.
Meddyliwch am Côte de Boeuf moethus i ddau, wedi’i sychu mewn Stafell Halltu Himaleiadd yn ein siop cigydd ni ein hunain. Neu’r proffiterols Ffrwythau Angerdd euraidd a Siocled Gwyn newydd – i’w rhannu ac wedi’u creu yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Byddan nhw hefyd yn gweini eu bwydlen à la carte, yn llawn prydau arbennig tymhorol a chlasuron Ffrengig. Cadwch fwrdd ar-lein yma.

Efallai mae’n amser i wneud rhywbeth gwahanol y dydd Sant Ffolant yma. Beth am noson i’w chofio gyda’ch cariad yng Nghanolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd? Os chi eisiau noson gyda’ch cariad, neu gyda’r merched/bois yn eich bywyd, bydd yna rywbeth i chi; sgwrs dros goffi, cwrw amser cinio, cyfle i chwerthin gyda’ch gilydd, sgwrs dros goctel (neu ddau!), bowlio deg yn Hollywood Bowl neu cwtsh yn y sinema.
Anghofiwch am yr hen bethau diflas y dydd Sant Ffolant yma. Yn lle hynny, beth am dêt hollol fythgofiadwy?! Cynlluniwch eich dêt yma.

I gael dathliad Dydd Sant Ffolant a fydd yn aros yn eich calonnau am byth ewch i’r Bwyty Graze lle maen nhw wedi dylunio bwydlen y byddwch chi’n cwympo mewn cariad â hi. Mwynhewch brydau fel Eog Mwg y Mynydd Du, Stêc Sirloin a Pwdin Toffe Gludiog cynnes.
Beth am neud hi’n fwy arbennig byth, drwy aros dros nos a chael gwyliau bach heb fynd ymhell? Cadwch fwrdd ar-lein yma.

Dathlwch dymor y cariadon gyda bwydlen tri chwrs dydd Sant Ffolant The Ivy am £75 y pen. Corgimychiaid i ddechrau gydag afocado, tomatos, a saws Marie Rose. Prif gwrs wedyn – mae dewis o sawl plât arbennig gan gynnwys ffilet o gig eidion, lobster linguine a chyri tatws melys a chnau coco. A rhwybeth melys i orffen gyda phwdin i rannu o’r enw ‘Love is in the Air’.
Cewch chi lasied o Della Vite Prosecco ar gyrraedd. Cadwch fwrdd ar-lein yma.

Gyda phwy bynnag y byddwch chi’n dathlu, bydd The Botanist yn gweini eu Bwydlen Dydd Sant Ffolant unigryw ddydd Mercher, 14 Chwefror. Dathlwch eich cariad gyda nhw a mwynhewch…
- Bwydlen set 3 chwrs blasus
- Coctel
- Cerddoriaeth fyw
- Awyrgylch hyfryd
- Coctels wedi’u crefftio â llaw
- Digon o gyfleoedd i gael hunlun
Dysgwch fwy yma.


Y dydd Sant Ffolant yma, beth am bryd o fwyd rhamantus gyda’r cariad yng Nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien? Bydd y caffi yn troi’n fwyty gyda’r nos ar ddydd Mercher 14 Chwefror, gydag awyrgylch rhamantus mewn lleoliad syfrdanol yn edrych dros y dŵr.
Caiff gwesteion ddewis o ddetholiad o brydau o fwydlen set tri chwrs hyfryd a llawn blasau. Dim ond £29.95 y pen. Cadwch fwrdd ar-lein yma.

Os ydych chi’n rhydd a heb unrhyw ymrwymiadau neu’n chwilio am anrheg blasus i’ch cariad, teithiau Bwyd Cymru Cariadus yw beth chi angen! Os ydych chi’n lleol neu’n ymweld, mae ein teithiau yn dod â darganfyddiadau newydd, cwmni gwych a chyfle i gysylltu’n wirion â bwyd, hanes a diwylliant Cymru.
Mae Profiad Bwyd Dinas yr Arcêdau yn eich gwahodd i archwilio sîn fwyd cosmopolitaidd arcêdau prydferth Caerdydd wrth fwynhau 7 cwrs bach mewn 7 lleoliad gwahanol gyda 2 gwydraid o win! Ymunwch â ni ar y Taith Bwyd Cymru ac mwynhewch darganfyddiad dwfn o fwyd a diod hyfryd o Gymru wrth ddod i adnabod Caerdydd.
Mae pob un o’n teithiau ar gael hefyd fel teithiau preifat. Ymunwch â ni am daith cyffrous – llawn o fwyd blasus, hanes a gwynebau cyfeillgar. Archebwch ar-lein yma.
Peidiwch â’i adael tan ddydd Sant Ffolant – dewch drwy gydol y flwyddyn! Ewch i’n tudalennau Gweld a Gwneud ac Yfed a Bwyta i weld mwy.