Yng nghanol y ddinas, mae The Ivy Caerdydd yn croesawu mwy 260 o westeion dros ddau lawr trawiadol, gan gynnig lle bwyta soffistigedig ond cyfeillgar mewn lleoliad prydferth.
Mae’r brasserie ar agor saith niwrnod yr wythnos o fore tan hwyr, gan gynnig lleoliad delfrydol beth bynnag fo’r achlysur. Yn ogystal â’r prif fwyty a’r bar canolog ar y llawr gwaelod, mae gan The Ivy Caerdydd far ardderchog ar y llawr cyntaf sy’n cynnwys addurn mewnol trawiadol a lliwgar, coctêls blasus, a man ciniawa preifat i hyd at 24 o westeion.
Mae bwydlenni arddull-brasserie The Ivy Caerdydd yn cwmpasu popeth, gan weini prydau Prydeinig clasurol, gan gynnwys brecwast, coffi, paned un-ar-ddeg, breciniawau penwythnos, cinio, te prynhawn, cinio hwyr a choctels. Yn ogystal â’r prydau a diodydd eclectig, gall ymwelwyr fwynhau ystafelloedd prydferth, gyda nodweddion nodedig gan gynnwys gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan hanes Cymru a Chaerdydd, y ddaearyddiaeth a’r dreftadaeth leol, printiau beiddgar a lliwgar a meinciau lledr cyfforddus a llenni a deunyddiau.
Ffôn
029 2233 8940
Cyfeiriad
69 / 70 St David's, CF10 1GA