Beth wyt ti'n edrych am?
Gwaddol hirhoedlog Caerdydd: 30 tymor Cwpan Pencampwyr Investec eleni
Dydd Gwener, 28 Chwefror 2025
- Mae Caerdydd yn barod i ddisgleirio unwaith eto wrth i benwythnos Rowndiau Terfynol EPCR ddychwelyd, dydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 Mai
- Bydd Prifddinas Cymru’n adeiladu ar dri degawd o waddol EPCR, fel dinas sy’n cynnal rhai o Rowndiau Terfynol mwyaf cofiadwy y 30 tymor diwethaf
- Disgwylir i’r Principality fod yn llawn dop wrth i gefnogwyr ymuno â’r parti, gyda thocynnau’n gwerthu’n gyflym
O gyffro rhyngwladol yn ystod y Chwe Gwlad i’r gystadleuaeth clybiau ryngwladol orau yn y byd, mae Caerdydd a Stadiwm y Principality yn adnabyddus am gynnal penwythnosau rygbi gwych – a bydd prifddinas Cymru unwaith eto yn ganolbwynt i’r gystadleuaeth ddydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 Mai wrth iddi groesawu’r penwythnos Rowndiau Terfynol EPCR hir ddisgwyliedig hwn.
Bydd Caerdydd yn croesawu’r Cwpan Pencampwyr Investec 2025 a Rowndiau Terfynol Cwpan Her EPCR, sydd nol yn y ddinas 11 mlynedd ar ôl i’r Rowndiau Terfynol diwethaf gael eu cynnal yma yn 2014, pan enillodd RC Toulon gyda Jonny Wilkinson yn codi’r tlws.
Bydd rowndiau terfynol eleni hefyd yn dathlu carreg filltir hanesyddol – Cwpan y Pencampwyr yn cael ei gynnal 30 o weithiau, gyda’r cyntaf ym 1995 pan fu i Gaerdydd gynnal y rownd derfynol gyntaf. Bydd y ddinas yn parhau â’i gwaddol, ar ôl cynnal saith rownd derfynol flaenorol gan gynnwys rhai o’r eiliadau mwyaf eiconig yn hanes y twrnamaint.
Wrth i Gaerdydd baratoi i ddisgleirio unwaith eto, rydym am fyfyrio ar rôl y ddinas yng Nghwpan y Pencampwyr dros y tri degawd diwethaf.
1996 – Cwpan y Pencampwyr yn dechrau yng Nghaerdydd
Wedi’i gyflwyno gyntaf i’r calendr rygbi yn nhymor 1995-96, doedd dim lle gwell i groesawu rownd derfynol gyntaf Cwpan y Pencampwyr na dinas llawn cariad at rygbi, sef Caerdydd ei hun.
Roedd yr hen Stadiwm Cenedlaethol yn gefndir perffaith i’r hyn a oedd yn addo i fod yn ddiwrnod cofiadwy, gyda Stade Toulousain a Rygbi Caerdydd ar y cae. A chafodd y gwylwyr ddiwrnod i gofio yn sicr wrth i Adrian Davies, un o dîm Caerdydd, gadw’r bêl i fynd i mewn i amser ychwanegol. Ond y Ffraincwyr a’i chipiodd hi 21-18 ar ôl dwy gic cosb funud olaf gan Christophe Deylaud
Y tîm cyntaf i ddal y tlws uchel ei barch hwnnw, roedd Stade Toulousain yn gosod y sylfeini i genedlaethau o ffans gwympo mewn cariad gyda’r gystadleuaeth. Erbyn hyn ma gan y dîm o Ffrainc chwe theitl Cwpan Pencampwyr, ac amser a ddengys a fyddan nhw’n ychwanegu tlws arall i’r silff ym mis Mai, ar ôl peidio â cholli gêm yn y gemau rhagbrofol y tymor hwn.
2006 – Gwyrthiau O’Gara yn helpu Munster i dorri drwodd
Ar ôl colli dwy Ffeinal a dau gyfle i gipio eu teitl cyntaf yng Nghwpan y Pencampwyr, daeth tîm rygbi Munster i Stadiwm y Mileniwm, neu Stadiwm Principality erbyn hyn, yn 2006 i dorri’n rhydd o’u hanlwc gan ddangos y daw llwyddiant ar ôl tri chynnig i Wyddel.
Gan guro Biarritz Olympique 23-19 ar y diwrnod, fe wnaeth 13 pwynt Prif Hyfforddwr presennol Stade Rochelais, Ronan O’Gara, helpu Munster i hawlio’r goron Ewropeaidd.
Yn dal i fod yn ddeiliad y record pwyntiau a sgoriwyd yn hanes y gystadleuaeth, mae O’Gara bellach yn wynebu ei hen ochr am y tro cyntaf wrth i Les Maritimes groesawu Munster yn Rownd 16 Cwpan Pencampwyr Investec ar Ebrill 5 eleni, pan fydd un ai’r rhif 10 chwedlonol neu’i gyn-dîm yn mynd gam yn nes at ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Mai – “ROG Derby” gwych i’w wylio.
2011 – Johnny Sexton yn serennu yn nychweliad gorau Leinster erioed
Bum mlynedd yn ddiweddarach, brwydrodd Leinster Rugby a Northampton Saints Iwerddon am ail goron yng Nghaerdydd, gêm na fyddai’n siomi.
Ar ei hôl hi o 6-22 ar yr egwyl, dangosodd Leinster yn union sut mae ei gwneud hi gydag un o’r haneri gorau mewn rygbi clwb erioed gan droi’r gêm sgôr gyfartal ar ei ben a churo’r Seintiau 33-22.
Diolch i’r 28 pwynt a’u rhoddodd ar y sgôr fwrdd – gyda dau gais, tri throsiad a phedair cic gosb – cafodd Johnny Sexton ei enwi’n Ddyn y Gêm yn gwbl haeddiannol yn ogystal â chyrraedd y penawdau.
Bu’r maswr chwedlonol Leinster yn gymaint o ysbrydoliaeth i’w dîm, enillon nhw 27 pwynt yn yr ail hanner heb ildio’r un pwynt, gan ennill Cwpan y Pencampwyr am yr ail dro mewn tair blynedd.
A chyda Leinster yn dal heb eu curo yng Nghwpan Pencampwyr Investec eleni – ac yn wir heb golli gêm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig hyd yma – a phenwythnos rowndiau terfynol nol yn Stadiwm Principality unwaith eto, mae’r tîm o Iwerddon yn sicr yn un o’r ffefrynnau i fynd i Gaerdydd y tymor hwn, ond bydd angen iddyn nhw guro Harlequins yn eu gêm yn Rownd 16 i symud gam yn nes at rownd derfynol hanesyddol arall.
2014 – Dosbarth meistr Jonny Wilkinson wrth i RC Toulon ennill dwywaith yn olynol
Chwaraeodd RC Toulon Ffrainc a Saracens Lloegr rownd derfynol fythgofiadwy arall yn Stadiwm y Mileniwm yn 2014, gêm a ddaeth i ben gyda sgôr 23-6 o blaid Toulon.
Gan hawlio’r ail o dri theitl Cwpan y Pencampwyr yn olynol yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw, roedd yn daith arbennig o gofiadwy i’r maswr chwedlonol Jonny Wilkinson.
Yn yr hyn oedd ei gêm olaf erioed ar dir Prydain, a diolch i’w berfformiad gwych gyda dau drosiad, dwy gic gosb ac un gôl gollwng, ffarweliwyd ag ef yn emosiynol ym mhrifddinas Cymru. Ar ôl cerdded i’r fainc i sŵn ei enw yn cael ei ganu o amgylch Stadiwm y Mileniwm a thlws Cwpan y Pencampwyr arall ar y ffordd, roedd yn benllanw perffaith i yrfa rygbi anhygoel.
Bydd ei gyn-dîm unwaith eto yn wynebu Saracens yn eu gêm Rownd 16 gartref.
Mae llai na 100 diwrnod i fynd nes i’r byd rygbi lanio yng Nghaerdydd unwaith eto i weld pen llanw pencampwriaeth orau rygbi clwb.
Gall cefnogwyr sydd eisiau bod yn rhan o benwythnos bythgofiadwy arall o gyffro rowndiau terfynol yng Nghaerdydd brynu tocynnau diwrnod a phenwythnos i Rowndiau Terfynol 2025. Mae pecynnau teithio penwythnos swyddogol hefyd ar gael gan gyfuno tocynnau gemau, gwestai arbennig, digwyddiadau unigryw a phrofiadau y tu ôl i’r llenni, gydag arbenigwyr teithio, Destination Champions Club.