Neidio i'r prif gynnwys

TIGER YARD YN DYCHWELYD: LLEOLIAD AWYR AGORED GORAU BAE CAERDYDD

O 4 Ebrill, bydd Tiger Yard yn ailagor ei ddrysau ar gyfer tymor 2025 o fwyd stryd, cerddoriaeth fyw, a digwyddiadau na ddylid eu colli. Ar ôl gwaith ailwampio cyffrous, mae’r lleoliad awyr agored eiconig hwn yn ôl gyda tho newydd sbon ôl-dynadwy, gan ddod ag adloniant ymhob tywydd i ganol Bae Caerdydd.

 

Ar ôl i ddifrod storm orfodi’r lleoliad glan y dŵr i gau ar gyfer gwaith atgyweirio ddiwedd y llynedd, mae gweddnewidiad Tiger Yard yn 2025 yn cynnwys to trydan mwy, cwbl ôl-dynadwy bellach, sy’n golygu bod naws yr haf yn gallu parhau – beth bynnag fo’r tywydd.

 

Ac nid y to yn unig sy’n newydd; mae cyrlio yn ôl! P’un a ydych chi’n chwaraewr profiadol neu’n rhoi cynnig am y tro cyntaf, heriwch eich ffrindiau i’r gêm boblogaidd hon yn y lleoliad dan do newydd sbon. Mae nifer cyfyngedig o lonydd ar gael felly argymhellir archebu yn gynnar.

 

BETH SY’ MLAEN Y TYMOR HWN YN TIGER YARD

 

Mae Tiger Yard wedi sefydlu ei hun yn gyrchfan ar gyfer bwyd stryd annibynnol a diodydd blasus ym Mae Caerdydd; mae dau far sy’n gweini cwrw, gwinoedd a choctels ynghyd â thair cegin bwyd stryd breswyl, Dirty Bird Fried Chicken, Meating Point UK a Fire & Flank.Trwy gydol mis Ebrill, bydd casgliad o fasnachwyr gwadd yn ymuno â’r rhain hefyd; Brascos Burgers, Lapantera Caerdydd a Holy Cheesus UK.

 

Mae ailagor Tiger Yard yn 2025 yn cyflwyno rhaglen gyffrous o gerddoriaeth fyw, nosweithiau thema, marchnadoedd bwyd stryd, a mwy hefyd. Dyma ychydig o flas o’r hyn sydd ar ddod:

 

Rhedeg i Ddawnsio – Dydd Sadwrn, 5 Ebrill

Mae taith redeg 5k o hwyl o amgylch y morglawdd yn gorffen gydag oriau o ddawnsio i’ch hoff glasuron dawns yn Tiger Yard, gyda swm o bob tocyn yn cael ei roi i Calon Hearts. I gael un o’r tocynnau olaf sy’n weddill, ewch i https://www.seetickets.com/tour/run-to-rave.

 

Stoc Gin – Dydd Sadwrn, 26 Ebrill

Paradwys i bawb sy’n dwlu ar gin! Llymwch y gin premiwm gorau, mwynhewch goctels wedi’u curadu, ac ymgollwch yn awyrgylch yr ŵyl gyda cherddoriaeth fyw a bwyd stryd o’r radd flaenaf. (18+)

 

Un Noson yn NhreTiger – Dydd Sadwrn, 14 Mehefin

Mae’r profiad gwlad a gwerin gorau yn ôl! Gallwch ddisgwyl noson yn llawn cerddoriaeth gwlad fyw, hetiau cowboi, a choctels thema – amdani!

 

Noson Funk & Soul Craig Charles – Dydd Sadwrn, 21 Mehefin

Mae’r chwedlonol Craig Charles yn dod â’i Glwb Funk & Soul eiconig i Tiger Yard, gan gyflwyno set egni uchel sy’n llawn anthemau clasur a cherddoriaeth llawn enaid. (18+)

 

Cyfres Haf Bingo Lingo – Bob Dydd Gwener ym mis Gorffennaf a mis Awst

Nid eich noson bingo arferol yw hon — meddyliwch am frwydrau dawnsio, cyflwynwyr campus, gwobrau gwyllt, a ffrwydradau conffeti. Mae’n hwyl ac anhrefn pur. (18+)

 

Anthemau’r 90au Jo Whiley – Dydd Gwener, 5 Medi

Gorlwyth o hiraeth! Ymunwch â’r eicon radio Jo Whiley am noson o Britpop bendigedig, clasuron clwb, a sesiynau canu o’r 90au. (18+)

 

Chwaraeon Byw ar y Sgrin Fawr

O’r Euros a Wimbledon i Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr, Tiger Yard yw’r lle i wylio’r holl chwaraeon mwyaf nodedig gyda thorf wefreiddiol, bwyd gwych, a diodydd oer.

 

Marchnadoedd Haf a Stondinau Untro

Stondinau bwyd crefft, ffeiriau’r oes a fu, a marchnadoedd crefftau – bydd Tiger Yard yn cynnal cyfres o farchnadoedd drwy gydol y tymor, gan arddangos gwneuthurwyr a masnachwyr annibynnol o bob cwr o Gymru.

 

Am docynnau i bob digwyddiad, i archebu lôn cyrlio ac i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, ewch i: www.tiger-yard.com] (https://tiger-yard.com/events.

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm Tiger Yard, dilynwch @TigerYardCardiff ar Instagram.