Neidio i'r prif gynnwys

Mae gwasanaeth top agored Skycar Bws Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer Haf 2025

Thursday, 24 April 2025


 

 

Mae gwasanaeth top agored Skycar Bws Caerdydd yn dychwelyd ddydd Sadwrn, 3 Mai 2025, gan gynnig llwybr golygfaol rhwng Canol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd…

🚌Trosolwg o’r Llwybr

Mae llwybr Skycar yn dechrau o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn teithio trwy Barc Cathays, i ganol y ddinas, gan fynd heibio tirnodau nodedig fel Castell Caerdydd a Stadiwm Principality, yna i lawr i Fae Caerdydd, gan stopio ger Canolfan Mileniwm Cymru drws nesaf i Roald Dahl Plass. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu fesul awr trwy gydol y dydd, gyda Bws y Bae hefyd yn rhedeg pob 30 munud yn cynnig teithiau ychwanegol a gwasanaeth gyda’r nos – i gyd wedi’i gynnwys ym mhris eich tocyn diwrnod Skycar!

Gan ddechrau o ddydd Sadwrn 3 Mai, bydd yn gweithredu o ddydd Iau hyd at ddydd Sul bob wythnos ac ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc ym mis Mai. O ganol mis Mehefin bydd yn gweithredu’n ddyddiol gyda mwy o deithiau hefyd. Cliciwch yma ar gyfer map Skycar

🎯 Pethau i’w gwneud ar hyd y llwybr · Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Archwiliwch gasgliad amrywiol o gelf, daeareg a hanes naturiol. · Castell Caerdydd: Darganfyddwch 2,000 mlynedd o hanes yng nghanol y ddinas. · Stadiwm Principality: Ymwelwch ag un o leoliadau chwaraeon mwyaf eiconig y byd. · Canolfan y Mileniwm: Mwynhewch berfformiadau o’r radd flaenaf mewn lleoliad pensaernïol syfrdanol. · Cei’r Fôr-forwyn: Mwynhewch fwyta a siopa ar lan y dŵr. · Yr Eglwys Norwyaidd: Dewch i edmygu’r eglwys hanesyddol hon a’i harwyddocâd diwylliannol. · Llwybr y Morglawdd: Ewch ati i gerdded neu feicio ar hyd llwybrau golygfaol a mwynhau’r bae. · Tiger Yard: Ymlaciwch mewn ardal fywiog sy’n cynnwys bwyd stryd a cherddoriaeth fyw.

💷Prisiau tocynnau

Gallwch brynu tocynnau Skycar ar y bws, drwy’r ap Bws Caerdydd, neu gan ddefnyddio’r system Tapio i mewn ac allan. Mae’r prisiau fel a ganlyn:

· Oedolion:

o Sengl: £4.00

o Sengl â Gostyngiad: £2.50 (i ddeiliaid tocynnau diwrnod, wythnos, mis neu flynyddol Bws Caerdydd dilys)

o Tocyn Dydd: £7.00 (yn ddilys ar unrhyw wasanaeth Bws Caerdydd hefyd)

· Plentyn neu ddeiliad Fy Ngherdyn Teithio:

o Sengl: £3.00

o Sengl â Gostyngiad: £2.50 (i ddeiliaid tocynnau diwrnod, wythnos, mis neu flynyddol Bws Caerdydd dilys)

o Tocyn Dydd: £5.00 (yn ddilys ar unrhyw wasanaeth Bws Caerdydd hefyd)

· Grŵp (hyd at 5 person): £19.00 (Yn berffaith i deuluoedd hefyd)

Sylwch fod angen yr arian cywir os ydych chi’n talu gydag arian parod ar y bws.

🎫Sut ydw i’n prynu tocyn?

Gallwch brynu tocynnau Skycar mewn tair ffordd, i’w wneud yn hollol rwydd:

· Prynwch ar ap Bws Caerdydd <https://www.cardiffbus.com/mobile-tickets>- Mae tocynnau diwrnod Skycar ar gael ar yr ap, ochr yn ochr â gwybodaeth am amserlen a thracio bysus yn fyw, felly mae’n siop un stop ar gyfer popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich taith! Mae tocynnau dydd Skycar yn ddilys ar unrhyw wasanaeth Bws Caerdydd, felly mae prynu ar yr ap yn cynnig y gwerth gorau am arian os hoffech chi deithio ar wasanaethau eraill yn gyntaf.

· Prynwch ar y Skycar – os byddwch yn gweld y bws ac yn awyddus i fynd am daith. Gallwch brynu’r holl docynnau ar y bws yn ddigyswllt neu gydag arian parod (ond ni allwn roi newid, felly ceisiwch gael yr arian cywir yn barod!). Nid yw gwasanaethau eraill yn gallu gwerthu tocynnau Skycar, felly os ydych chi’n bwriadu dal gwasanaeth arall yn gyntaf, lawrlwythwch ap Bws Caerdydd a phrynwch y tocyn yno i gael y gwerth gorau am arian. · Gan ddefnyddio Tapio i Mewn ac Allan – gallwch fanteisio ar y gwasanaeth tapio i mewn ac allan wrth i chi deithio gyda Bws Caerdydd, a byddwn yn cyfyngu’r pris bob dydd yn awtomatig i’r tocyn oedolyn gwerth gorau.

Yn cynllunio ymweliad ysgol neu’n teithio gyda grŵp o fwy na 15 o bobl? Cysylltwch â ni drwy talktous@cardiffbus.com <mailto:talktous@cardiffbus.com> a byddwn yn helpu i wneud y cynllunio mor rhwydd â phosibl. Cliciwch yma i lawrlwytho’r daflen isod