Neidio i'r prif gynnwys

Bwyty cyntaf y Banana Tree yng Nghymru yn agor ym mis Mehefin

Mae’r bwyty enwog o dde-ddwyrain Asia, y Banana Tree, yn dod â’i 30 mlynedd o dreftadaeth goginio i Gaerdydd yr haf hwn, gan fod lleoliad ei fwyty cyntaf erioed yng Nghymru ar fin agor yng nghanol y ddinas yng Nghanolfan Dewi Sant Caerdydd ar 2 Mehefin.

Yn adnabyddus am ei gyfuniad o flasau mawr, beiddgar ac awyrgylch unigryw, bywiog, bydd y Banana Tree yn cynnig profiad bwyta ffres, gan wahodd gwesteion i fynd ar antur goginio ar draws de-ddwyrain Asia.

Gyda phrydau bwyd eiconig fel Pad Thai – rysáit deuluol wedi’i chrefftio dros dri degawd yn ôl – yn ogystal â’r cyri Katsu poblogaidd, y Rendang Cig Eidion unigryw, a Phowlen Cyw Iâr Gochujang Tanllyd, mae’r fwydlen yn cynnig rhywbeth i bawb o’r rheini sy’n mwynhau eu cyflwyniad cyntaf i’r bwyd i’r rheini sydd wedi teithio’n helaeth ac sy’n chwilio am hoff bryd bwyd newydd.

Yn agor ar Mill Lane yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd ar 2 Mehefin, bydd y bwyty a’r bar yn brofiad y gall gwesteion ymgolli’n llwyr ynddo, gyda chynigion amser cinio, powlenni diwaelod, a dathliadau lansio unigryw, gan gynnwys Katsu am ddim ar gyfer y 2,000 o archebion cyntaf*. Bydd Tuk Tuk y Banana Tree hefyd yn teithio o gwmpas Caerdydd rhwng 5 a 7 Mehefin, gan roi pethau am ddim a syrpreisys i bobl leol sy’n dwlu ar flasau.

Dywed Tom Patrick, Cyfarwyddwr Marchnata’r Banana Tree: “Rydym wedi ein cyffroi’n fawr ynglŷn ag agor yng Nghaerdydd. Dyma ein safle cyntaf yng Nghymru a’n bwyty mwyaf hyd yma yng nghanol un o gyrchfannau bwyd mwyaf cyffrous y DU. I ddathlu, rydyn ni’n mynd i’r eithaf.  Mae hynny’n golygu 2,000 o gyrïau Katsu am ddim, digonedd o goctels, a’n Tuk Tuk unigryw yn crwydro’r strydoedd. P’un a ydych chi’n ymuno â ni am ginio cyn noson allan, cinio hamddenol neu am brofi rhywbeth newydd, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i deulu’r Banana Tree.”

Ychwanegodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant, Caerdydd: “Mae’r Banana Tree ar fin cynnig profiad bwyta unigryw i’w westeion, yn llawn blasau diddorol a chyffrous. Mae’r bwyty newydd yn ychwanegiad ardderchog i’n brandiau yma yng Nghanolfan Dewi Sant, ac un rydyn ni’n gwybod y bydd y rheini sy’n dwlu ar fwyd yng Nghaerdydd yn ei fwynhau.”

Bydd y Banana Tree yn agor yng Nghanolfan Dewi Sant, Caerdydd yr haf hwn.