Beth wyt ti'n edrych am?
Cyngor teithio ar gyfer Northampton yn erbyn Bordeaux ddydd Sadwrn 24 Mai yng Nghaerdydd
Dydd Gwener, 16 Mai 2025
Bydd Northampton yn wynebu Union Bordeaux Bégles yn Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Investec ddydd Sadwrn 24 Mai yn Stadiwm Principality.
Gyda’r gic gyntaf am 2.45pm – bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11am tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu cyrraedd a gadael y stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi, felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon – CF11 0JS.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar X a Facebook.
Bydd y gatiau’n agor am 12.45pm, cynghorir y rhai sy’n mynychu’r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 11am tan 7pm
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
- Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau – Trafnidiaeth Cymru (TrC)
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau ychwanegol lle bo modd i gyrraedd/adael Caerdydd ddydd Gwener 23 a dydd Sadwrn 24 Mawrth ond y disgwyl yw y bydd y trenau’n brysur iawn, felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif linell yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf.
Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yng ngorsaf Caerdydd Canolog felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi prynu eich tocyn trên cyn mynd i mewn i’r system giwio.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Stadiwm Principality, Caerdydd | Trafnidiaeth Cymru
Trenau – Great Western Railway (GWR)
Hoffem atgoffa cefnogwyr sy’n teithio ar wasanaethau GWR ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop rhwng Northampton a Bordeaux y bydd angen archebu lle ar bob trên o Lundain Paddington a Bristol Parkway.
Bydd GWR yn gweithredu gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref o Gaerdydd Canol tuag at Bristol Parkway a Llundain; gyda digon o barcio ar gael ym meysydd parcio’r gorsafoedd.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm a bydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau’n ddiogel.
Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt yn www.gwr.com/check
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau parcio a theithio’r digwyddiad yn defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd – CF11 0JS.
Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas ar Ffordd Tresilian.
Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 7pm gyda’r safle yn cau am 7.30pm.
Y gost yw £15. Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia (Ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bysus Lleol
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Ar gyfer gwasanaethau Adventure Travel, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; St David’s Dewi Sant; John Lewis & Partners; The Capitol, NCP Stryd Adam, NCP Plas Dumfries a NCP Heol y Brodyr Llwydion.
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser gynt) yn cau am 11am ac yn ailagor am 7pm.