Beth wyt ti'n edrych am?
Gwyliau Bwyd Gwych
Dydd Gwener, 2 Mai 2025
Gŵyl Gwin Laithwaites – 9 Mai – Tramshed, Grangetown
Mwynhewch brofiad blasu gwin anhygoel yng nghanol Caerdydd. P’un a ydych yn frwd o ran gwin, yn awyddus i ddysgu, neu’n chwilio am noson allan llawn hwyl, mae’r digwyddiad hwn yn siŵr o swyno’ch synhwyrau.
Beth i edrych ymlaen ato:
- Blasu dwsinau o winoedd!
- Cwrdd â’r Gwneuthurwyr Gwin: Mwynhewch ddetholiad rhyfeddol o winoedd wrth glywed y straeon hudolus y tu ôl iddynt, yn syth o’r gwneuthurwyr gwin eu hunain.
- Dysgwch gan yr arbenigwyr: Cymerwch ran mewn dosbarthiadau meistr rhyngweithiol, gan gynnwys sesiwn baru caws a gwin blasus.
- Antur Blasu Amlsynhwyraidd: ‘Merlot on the Dance Floor’ – ymgollwch eich hun mewn profiad unigryw sy’n paru gwin gyda cherddoriaeth, gan drawsnewid y ffordd rydych chi’n blasu.
Rhagor o wybodaeth.
Gŵyl Foodies – 9 i 11 Mai – Parc Bute
Bydd Gŵyl Foodies yn dychwelyd i Barc Bute, Caerdydd, gyda nodweddion newydd sbon a rhestr o gogyddion enwog a sêr cerddoriaeth sydd ar frig y siartiau!
Bydd y digwyddiad tri diwrnod, a elwir yn ‘Gastro-Glastonbury’, yn cynnwys arddangosiadau coginio byw gan enwogion teledu a chogyddion o gyfresi MasterChef, Great British Bake Off a Great British Menu.
Mae’r prif berfformwyr cerddoriaeth yn cynnwys: Ffefrynnau gŵyl aml-blatinwm, Scouting For Girls, yn perfformio set egni uchel llawn dop o’u caneuon 40-uchaf. The Wanted 2.0, gyda’r aelodau gwreiddiol Max George a Siva Kaneswaren, yn cyflwyno’r bennod nesaf yn hanes The Wanted, un o fandiau pop mwyaf Prydain erioed, a werthodd dros 20 miliwn o recordiau ledled y byd ac oedd ar frig y siartiau sawl gwaith. A bydd y chwedlonol Symphonic Ibiza yn cyflwyno cyfuniad bythgofiadwy o anthemau dawns, lleisiau byw, DJ gwych a cherddorfa fyw gyffrous.
Rhagor o wybodaeth.
Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd – 27 i 29 Mehefin – Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd
Dathliad gwreiddiol y ddinas o gynnyrch cartref a bwyd stryd blasus. Dewch i gael blas ar ddewis helaeth o fwydydd gan gynhyrchwyr lleol a chenedlaethol wrth i chi gerdded o gwmpas y sgwâr bwyd stryd a mwynhau’r gerddoriaeth – gyda golygfeydd hyfryd y glannau yn gefnlen i’r cyfan.
Rhagor o wybodaeth.
Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru – 13 i 14 Medi – Sain Ffagan Amgueddfa Genedlaethol
Ffefryn cadarn yng nghalendr bwytawyr mawr Cymru, daw Sain Ffagan yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefftau yn swatio ymhlith yr adeiladau hanesyddol. Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd i’r teulu, arddangosfeydd coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.
Rhagor o wybodaeth.