Neidio i'r prif gynnwys

Pentref Rygbi’r Pencampwyr yn dod i Barc yr Arfau Caerdydd ar gyfer Penwythnos Rowndiau Terfynol EPCR

Bydd Parc yr Arfau Caerdydd, cartref hanesyddol Rygbi Caerdydd yng nghanol prifddinas Cymru, yn trawsnewid yn Bentref Rygbi’r Pencampwyr ar Mai 23–24, gan gynnig awyrgylch gwefreiddiol i gefnogwyr fel rhan o ddathliadau Penwythnos Rowndiau Terfynol EPCR.

Wedi’i leoli ychydig gamau o Stadiwm Principality, parth y cefnogwyr fydd curiad calon y penwythnos, gan gynnig cerddoriaeth fyw, adloniant, stondinau bwyd a diod, profiadau i deuluoedd, mentrau allgymorth cymunedol, yn ogystal ag ymddangosiadau arbennig gan sêr o fyd rygbi. P’un a ydych chi’n mynd i’r gemau neu ddim ond am ymdrochi yn y cynnwrf, mae Pentref Rygbi’r Pencampwyr, sy’n cynnig mynediad am ddim, yn addo cyffro mawr yn ystod y penwythnos mwyaf yng nghalendr rygbi clybiau rhyngwladol.

Dwy rownd derfynol na ellir eu colli yn Stadiwm Principality

  • Dydd Gwener 23 Mai, cic gyntaf am 8:00pmRownd Derfynol Cwpan Her EPCR:
    Mae Rygbi Caerfaddon yn dychwelyd i rownd derfynol Ewrop am y tro cyntaf ers dros ddegawd, gyda’u llygaid ar gamp driphlyg hanesyddol, wrth iddyn nhw wynebu Lyon Olympique Universitaire, sy’n anelu at eu hail deitl Cwpan Her EPCR ar ôl eu buddugoliaeth yn 2022.
  • Dydd Sadwrn 24 Mai, cic gyntaf am 2:45pm – Rownd Derfynol Cwpan y Pencampwyr Investec:
    Mae Seintiau Northampton yn anelu at adennill gogoniant Ewropeaidd 25 mlynedd ers eu teitl cyntaf, tra bod Union Bordeaux- Bègles ar fin ymddangos yn y rownd derfynol mewn cystadleuaeth haen uchaf am y tro cyntaf erioed.

Uchafbwyntiau Pentref Rygbi’r Pencampwyr

Un o’r atyniadau mwyaf cyffrous fydd Her Gicio JAECOO 7, lle caiff cefnogwyr roi eu sgiliau ar brawf am gyfle i ennill SUV JAECOO 7 newydd sbon.

Bydd amrywiaeth o fentrau allgymorth cymunedol yn cael eu lansio fel rhan o’r digwyddiad. Mewn cydweithrediad â Chwaraeon Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, bydd Undeb Rygbi Cymru yn croesawu 100 o blant dan 13 oed i gymryd rhan mewn diwrnod o gemau hyfforddi a gweithgareddau rygbi hwyliog. I blant 13 oed a hŷn, bydd her rygbi e-chwaraeon cyffrous ar gael, gan gynnwys cystadlaethau yn erbyn dylanwadwyr gemau fideo poblogaidd mewn partneriaeth ag E-Chwaraeon Cymru. Bydd pawb sy’n cymryd rhan, a’u teuluoedd, hefyd yn cael tocynnau i Rownd Derfynol Cwpan y Pencampwyr Investec ddydd Sadwrn.

Beth i’w Ddisgwyl:

  • Bariau Heineken
  • Stondinau bwyd a diod
  • Siop nwyddau Rowndiau Terfynol EPCR
  • Her Gicio JAECOO 7
  • Setiau DJ byw
  • Ymddangosiadau arbennig gan sêr byd rygbi
  • Cyfle i dynnu llun gyda thlysau’r cystadlaethau
  • Blas o Gymru gyda chacennau Cymreig ffres wedi’u pobi am ddim

Oriau Agor:

  • Dydd Gwener, 23 Mai: 15:00 – 20:00
  • Dydd Sadwrn, 24 Mai: 10:00 – 14:45 a 17:00 – 19:00

I gefnogwyr sy’n teithio o Gaerfaddon ar gyfer gêm Cwpan Her EPCR nos Wener, bydd trenau ychwanegol yn rhedeg rhwng Caerdydd Canolog a Bath Spa ar ôl y gêm. Yn yr un modd, i’r rheiny sy’n teithio o Lundain ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan y Pencampwyr Investec ddydd Sadwrn, bydd trenau ychwanegol yn rhedeg cyn ac ar ôl y gêm.

Bydd rhagor o weithgareddau Pentref Rygbi’r Pencampwyr yn cael eu cyhoeddi’n fuan—cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf wrth i Gaerdydd baratoi i groesawu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop am benwythnos bythgofiadwy o rygbi.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.