Neidio i'r prif gynnwys

Rhowch gynnig ar Gaerdydd - Y 5 Lle Gorau i Ymweld â Nhw Ger y Stadiwm

Dydd Gwener, 9 Mai 2025


 

Beth arall gallaf i ei wneud yn y ddinas?

Gydag amrywiaeth o atyniadau o fewn pellter cerdded, neu ddim ond taith fer i ffwrdd, bydd gan ymwelwyr ormod o ddewis! Edrychwch ar y rhestr isod…

 

EICONAU:

1. Castell Caerdydd

Mewn lleoliad unigryw ar draws y ffordd o Stadiwm Principality, mae’r Castell 2000 oed yn atyniad y mae’n rhaid ei weld. Dewch i grwydro o amgylch rhai o adeiladau Fictoraidd gorau’r DU yn y Tŷ, dringo’r Gorthwr Normanaidd i gael golygfa wych o’r ddinas, a cherdded drwy’r llochesau rhyfel arswydus. Gallwch fynd i mewn i’r Ganolfan Ymwelwyr (Bar Caffi a Siop Roddion) am ddim, ond mae angen i ymwelwyr brynu tocyn Mynediad Cyffredinol i grwydro’r Castell a’r tiroedd.

Gallwch brynu tocynnau mynediad cyffredinol ymlaen llaw ar-lein, neu yn y swyddfa docynnau ar y diwrnod. Beth am lawrlwytho’r ap swyddogol a dysgu mwy am y Castell wrth grwydro? (Mae ar gael mewn gwahanol ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg.) Eisiau dysgu mwy gyda thywysydd arbenigol? Uwchraddiwch eich tocyn mynediad cyffredinol a phrynwch daith dywys yn y swyddfa docynnau.

Awgrym Arbennig!  Mae gan y teras caffi y tu allan un o’r golygfeydd gorau yn y ddinas. Beth am stopio yno i gael diod neu rywbeth i’w fwyta?

 

2. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Nid nepell o’r Castell, mae adeilad yr amgueddfa yn rhan o’r Ganolfan Ddinesig, ac mae’n boblogaidd gydag ymwelwyr o bob oed.

Mae’r orielau’n gartref i gasgliad arbennig o baentiadau gan artistiaid fel Monet, Renoir a Van Gogh. Ochr yn ochr ag amrywiaeth o arddangosfeydd daeareg a hanes naturiol gan gynnwys y deinosor Cymreig, Dracoraptor hanigani! Hefyd, gall ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwylliant Cymru yn ei rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau.

Awgrym Arbennig!  Gallwch fynd i mewn i’r Amgueddfa am ddim, ond mae’n werth edrych ar ei gwefan i weld pa arddangosfeydd sydd ymlaen oherwydd efallai y bydd angen tocyn ar gyfer y rheiny.

 

3. Marchnad Caerdydd a’r Arcedau hanesyddol

Oeddech chi’n gwybod bod Caerdydd yn cael ei hadnabod fel ‘Dinas yr Arcedau’? Fe welwch yr arcedau hanesyddol o amgylch canol y ddinas – yn dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif. Maent wedi’u cadw’n hyfryd gyda’u gwaith haearn addurnedig a thoeau gwydr.  Gan gyfuno hanes a diwylliant lleol maent yn cynnig profiad siopa unigryw. Darganfyddwch siopau annibynnol, a chaffis crefft i gael naws fwy traddodiadol o Gaerdydd.

Awgrym Arbennig!  Mae Marchnad Caerdydd wedi bod yn masnachu ers y 1700au. Mae’n ganolbwynt i bobl leol, ac mae llawer o’r stondinau yn cyflenwi bwyd i fwytai cyfagos. Galwch heibio am fwyd stryd neu siopa am bopeth o recordiau finyl i ddillad vintage.

 

4. Ymweld â Bae Caerdydd

Dim ond milltir o ganol y ddinas mae Bae Caerdydd ac mae’n hawdd ei gyrraedd ar y gwasanaeth bws rhif 6 neu ar drên.  Yn boblogaidd am ei olygfeydd ar lan y dŵr, dyma’r lle perffaith i roi cynnig ar un o’r teithiau cwch sydd ar gael yn yr harbwr mewnol – neu gellir aros ar dir sych a mynd am dro o amgylch ymyl y dŵr i’r Morglawdd.

Hefyd, dylech edrych ar y digwyddiadau yng nghanolfan mileniwm eiconig Cymru, yr arddangosfeydd yn adeilad hanesyddol y Pierhead, y gweithgareddau yng nghanolfan wyddoniaeth Techniquest, neu roi cynnig ar fowlio deg a’r casino yng Nghanolfan y Red Dragon.

Awgrym Arbennig! Teithiwch yn ôl i ganol y ddinas ar y tacsi dŵr. Daliwch y tacsi dŵr wrth yr harbwr mewnol a gorffen y daith ym Mharc Bute wrth ymyl Castell Caerdydd. Mae modd prynu tocynnau ar y cwch.

 

5. Cei’r Fôr-Forwyn, Bae Caerdydd

Ydych chi’n chwilio am le i ymlacio gyda chwrw neu i fwynhau pryd o fwyd braf gyda golygfa o’r dŵr? Cei’r Fôr-Forwyn yw’r ardal ar lan y dŵr sy’n cynnwys amrywiaeth o fariau a bwytai.

Ewch i’r bar annibynnol The Dock, sy’n boblogaidd am ei gynigion bwyd a diod, cerddoriaeth fyw a theras allanol.  Oes awydd bwyd arnoch? Mae’r bwyty â thema fotanegol, The Botanist, wedi gwneud enw iddo’i hun gyda’i gebabau sy’n hongian. Mae’n cynnal sesiynau cerddoriaeth fyw ac mae ganddo falconi hefyd. Mae ffefrynnau eraill yn cynnwys Las Iguanas, Cote, Pizza Express a Cosy Club.

Awgrym Arbennig!  Ewch i’r siop Fabulous Welshcakes i brynu bag o bice ar y maen cynnes yn syth oddi ar y gridyll. Gallwch ddewis o amrywiaeth o flasau gan gynnwys rhesins a darnau siocled.

 

Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol? Darllenwch ein herthyglau eraill…

Ewch ar daith dywys. Ydych chi’n rhan o grŵp? Beth am drefnu taith swyddogol dim ond i chi? Cymerwch olwg ar ein rhestr o dywyswyr swyddogol sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.

Mwy na thafarn. Beth am gêm o ddartiau, golff neu daflu bwyell?  Mwynhewch amrywiaeth o fariau gweithgaredd gan gynnwys Flight Club a Golf Fang (cadwch le ymlaen llaw i osgoi siom)

Byddwch yn grefftus yng Nghaerdydd. Chwilio am fragdy lleol? Gyda Pipes, Crafty Devils a Tiny Rebel i gyd yn yr ardal, cymerwch olwg ar ein rhestr o dafarndai sy’n arbenigo mewn cwrw crefft.

 

Mwy o amser? Gadewch ganol y ddinas…

  • Distyllfa jin yn y Fro
  • Sain Ffagan
  • y Bathdy Brenhinol
  • Dyffryn Gardens