Beth wyt ti'n edrych am?
Cyngor Teithio ar gyfer Cyngherddau Blackweir Live
Dydd Iau, 19 Mehefin 2025
Bydd cyfres o gyngherddau’n cael eu cynnal yng Nghaeau’r Gored Ddu ar lannau Afon Taf yng Nghaerdydd yr haf hwn, o 27 Mehefin i 9 Gorffennaf.
Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o’r lleoliad yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd o 4pm tan hanner nos ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Mae’r digwyddiadau fel a ganlyn:
Noah Kahan – Dydd Gwener 27 Mehefin
Alanis Morrisette – Dydd Mercher 2 Gorffennaf
Slayer – Dydd Iau 3 Gorffennaf
Stevie Wonder – Dydd Mercher 9 Gorffennaf
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn – felly cynlluniwch ymlaen llaw.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy’n mynd i’r cyngherddau hyn gynllunio eu taith o flaen llaw a chyrraedd Caerdydd yn gynnar.
Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am y cyngherddau Blackweir Live sydd ar ddod ar gael yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35607.html
Cau ffyrdd
Ar gyfer yr holl gyngherddau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4pm a hanner nos i hwyluso’r digwyddiadau hyn.
- Stryd y Castell gyfan o’i chyffordd â Heol y Porth
- Heol y Dug a Ffordd y Brenin
- Heol y Gogledd o’r gyffordd â Heol Colum ar ei hyd i Boulevard De Nantes; Boulevard de Nantes wrth y gyffordd â Phlas y Parc (Bydd mynediad i fysiau a thacsis/preswylwyr yn cael ei reoli i Heol y Brodyr Llwydion)
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o Heol y Gadeirlan drwodd i’r gyffordd â Heol y Porth gyda mynediad i Heol y Porth yn cael ei ganiatáu.
Canolfan Ddinesig
Bydd mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli drwy gydol y dydd o 7am.
Dyma’r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Bydd y troad i’r dde o Heol Colum i mewn i Heol Corbett yn cael ei atal hefyd dros yr amseroedd cau ffyrdd i ganiatáu a rheoli mynediad i drigolion / busnesau oddi ar Heol Corbett.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru a Great Western Railway wedi cyhoeddi cyngor teithio i bawb sy’n mynychu cyngherddau yng Nghaerdydd ar y trên yr haf hwn – https://news.gwr.com/news/get-ready-to-rock-cardiff-essential-travel-tips-for-this-summers-hottest-concerts
Mae cwsmeriaid yn cael eu hatgoffa i gynllunio eu taith ymlaen llaw, caniatáu amser ychwanegol i ddal trên adref yn ddiogel, a gwirio amser eu trên olaf adref – https://www.journeycheck.com/tfwrail/
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle bo modd ar gyfer cyrraedd/gadael Caerdydd ar gyfer digwyddiadau Blackweir Live ond y disgwyl yw y bydd y trenau’n brysur, felly caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif linell yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yng ngorsaf Caerdydd Canolog felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi prynu eich tocyn trên cyn mynd i mewn i’r system giwio.
Bydd gorsaf Cathays yn cau ar ôl y digwyddiad am 22:00 ar bob un o’r dyddiadau uchod. Mae hyn er diogelwch yr holl gwsmeriaid. Bydd mynediad yn parhau ar gyfer gofynion hygyrchedd yn unig ac i gwsmeriaid sy’n dod allan.
Bydd maes parcio Heol Penarth yng Nghanol Caerdydd ar gau rhwng 06:00 a 00:00 ar ddiwrnod pob digwyddiad.
Bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn parhau i fod ar agor ar gyfer pob cyngerdd yn Blackweir. Bydd y safle tacsis ar Heol Saunders yn parhau i fod ar agor ar gyfer y digwyddiadau uchod.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Does dim cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am 12 hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond bydd Beicffordd Heol y Gogledd yn cael ei dargyfeirio i hwyluso’r gwaith o osod a datgymalu ar gyfer y digwyddiad. Ar ddiwrnodau cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr amgen tebyg i’r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i barcio yn y Ganolfan Ddinesig yn yr ardal parcio digwyddiad bwrpasol â thâl, fodd bynnag, mae parcio Bathodyn Glas ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ar hyd Plas y Parc / Maes yr Amgueddfa.