Beth wyt ti'n edrych am?
Seren Cymru Jack Wilson yn barod i ysbrydoli yn Nhwrnamaint Para Badminton Rhyngwladol Prydain ac Iwerddon yng Nghaerdydd yr haf hwn
Dydd Gwener 27 Mehefin 2025
Gyda llai na mis i fynd tan Dwrnamaint Para Badminton Rhyngwladol Prydain ac Iwerddon yng Nghaerdydd, mae’r athletwr Jack Wilson o Gymru yn paratoi i gystadlu – nid yn unig i ennill, ond i ysbrydoli.
Mae Jack Wilson (30 oed) o Wrecsam, sy’n cystadlu yn y categori SU5 ar gyfer athletwyr sydd ag amhariad ar y breichiau, wedi dod yn llais pwerus ym myd para-chwaraeon. Ar hyn o bryd fe yw’r unig athletwr o Gymru ar raglen para badminton Prydain Fawr, a bydd yn un o saith athletwr o Brydain Fawr a fydd yn cymryd rhan yn Nhwrnamaint Para Badminton Rhyngwladol Prydain ac Iwerddon yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf.
Mae Wilson, a fu hefyd yn astudio ac yn byw yng Nghaerdydd, yn anelu at gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles 2028. Mae hefyd yn gobeithio y bydd ei daith i fod yn chwaraewr para badminton o’r radd flaenaf yn dangos i eraill beth sy’n bosibl. Roedd yn un o’r para-athletwyr cyntaf o Gymru i gystadlu mewn twrnameintiau cenedlaethol i bobl abl, gan herio canfyddiadau a phrofi nad yw anabledd yn cyfyngu ar uchelgais.
“Cefais fy magu mewn pentref bach y tu allan i Wrecsam a doeddwn i ddim yn gweld unrhyw un oedd yn edrych fel fi yn gwneud chwaraeon,” meddai Wilson. “Ond doeddwn i byth yn ystyried fy hun yn wahanol – dim ond rhywun oedd wrth ei fodd yn chwarae. Rhoddodd chwaraeon hyder i mi, a rhoddodd badminton bwrpas i mi. Mae pobl yn aml yn meddwl mai fersiwn o rywbeth arall yn unig yw para-chwaraeon, ond rydyn ni’n hyfforddi yr un mor galed, yn cystadlu yr un mor ffyrnig, ac yn breuddwydio yr un mor fawr. Gwneud hynny o flaen torf gartref yng Nghaerdydd? Bydd hynny’n arbennig.”
Twrnamaint Para Badminton Rhyngwladol Prydain ac Iwerddon, a gynhelir rhwng 22 a 26 Gorffennaf yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, fydd y digwyddiad para badminton mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed. Bydd yn dod â chwaraewyr elît o bob cwr o’r byd at ei gilydd fel rhan o Gylchdaith Byd Para Badminton swyddogol y BWF.
Mae’r digwyddiad yn bosibl diolch i gefnogaeth gan UK Sport a Llywodraeth Cymru, gan atgyfnerthu enw da cynyddol Cymru fel canolfan ar gyfer chwaraeon perfformiad-uchel. Bydd eu cefnogaeth nhw yn ogystal â chefnogaeth Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru ac Yonex yn sicrhau y bydd y twrnamaint yn darparu cyfleusterau a chyfleoedd o’r radd flaenaf i bara-athletwyr wrth ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o gefnogi Twrnamaint Para Badminton Rhyngwladol Prydain ac Iwerddon, ac o groesawu athletwyr o’r radd flaenaf i Gymru. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod Cymru’n cynnig cyfleoedd chwaraeon i bawb, ac rydym yn gwybod y bydd y digwyddiad yn ysbrydoli pobl o bob cwr o Gymru a’r byd.”
Mae Wilson yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn rhoi mwy o welededd i’r gamp ac yn cynyddu cyfranogiad mewn para badminton ledled y DU: “Os oes un person yn gwylio yn y dorf neu ar-lein sy’n meddwl, ‘efallai y galla i roi cynnig ar hyn,’ yna mae’r cyfan yn werth chweil. Fe wnaeth para badminton newid fy mywyd. Rwy am i fwy o bobl wybod ei fod yn bodoli. Dim ond cymryd y cam cyntaf hwnnw sydd ei angen. Ac os galla i helpu rhywun i’w gymryd e – yna rwy’n gwneud fy swydd.”
Mae Wilson yn galw ar y cyhoedd i ddod, cefnogi a chymryd rhan. Boed yn gwylio gemau o’r safon uchaf, yn gwirfoddoli yn y digwyddiad, neu’n codi raced am y tro cyntaf.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn costio rhwng £1.00 a £5.00. Mae croeso i wirfoddolwyr hefyd. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Badminton Cymru: https://badmintonwales.sumupstore.com/product/british-and-irish-para-badminton-international-2025
I ddod o hyd i’ch clwb badminton lleol, ac am fwy o wybodaeth ewch i’r dudalen Cymryd Rhan ar wefan Badminton Cymru: https://badminton.wales/get-involved/