Mae Arddangosfa 'Y Tu Ôl i'r Bae' Awdurdod Harbwr Caerdydd bellach yn fyw!

Dydd Mawrth, 12 Awst 2025


 

Ydych chi erioed wedi meddwl pwy sy’n cadw’r Morglawdd a rhannau o’r Bae yn weithredol o ddydd i ddydd neu pwy yw’r bobl sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni yma yn y Bae?

I ddathlu 25ain pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd mae’r tîm wedi creu arddangosfa ffotograffau awyr agored sy’n canolbwyntio ar y bobl ‘Y Tu Ôl i’r Bae’.

Mae’r arddangosfa yn amlygu ymdrechion anhygoel y tîm ymroddedig hwn – o reoli gweithrediad y morglawdd a’i lociau, monitro ansawdd dŵr yn y llyn dŵr croyw a chefnogi diogelwch a mordwyo cychod i hyrwyddo ystod gyffrous o ddigwyddiadau ac atyniadau, meithrin ein mannau gwyrdd a gofalu am Ynys Echni a llawer mwy!

Mae’r tîm yn gweithio’n galed iawn 365 diwrnod y flwyddyn ac rydym yn llaw cyffro i weld yr arddangosfa hon yn ymfalchïo yn y lle yma yn y Bae.

Bydd yr arddangosfa ryngweithiol hon yn cael ei chynnal yn y Bae tan ddiwedd mis Medi, cyn symud i Gastell Caerdydd a gorffen yn yr Eglwys Norwyaidd.

Os ewch chi i’r Bae’r haf hwn, dewch i archwilio’r arddangosfa sydd wedi’i lleoli wrth ymyl y tŵr dŵr ychydig y tu ôl i Roald Dahl Plass a dysgu mwy am y tîm gwych hwn!


 

Ychydig ymhellach i ffwrdd ar y Morglawdd mae’r dathliadau’n parhau, gyda chasgliad o 25 o ddyluniadau baneri lliwgar buddugol.

Cafodd y creadigaethau hardd a thrawiadol hyn eu dylunio a’u creu gan ddisgyblion o ysgolion ledled Caerdydd. Dyluniodd y disgyblion y baneri i ddangos beth mae Bae Caerdydd yn ei olygu iddyn nhw.

Mae’r baneri’n llawn creadigrwydd a hwyl ac yn arddangos yr amrywiaeth o atyniadau, natur a bywyd gwyllt yma yn y Bae.

I ddarganfod mwy am ben-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd yn 25 a’r holl weithgareddau pen-blwydd cyffrous ahttps://www.cardiffharbour.com/cy/penblwydd/ fydd yn cael eu cynnal eleni, ewch i: cardiffharbour.com

Byddwch hefyd yn gallu gweld y rhestr lawn o faneri ysgol sy’n cymryd rhan yma.