Beth wyt ti'n edrych am?
Y 5 peth actif gorau i'w gwneud yng Nghaerdydd os ydych chi'n LHDTC+
Gyda Ewro 2028 yn cael eu cynnal yn y DU am y tro cyntaf, nid yw’n syndod bod Caerdydd yn llawn gweithgarwch. Bobl LHDTC+, edrychwch ddim pellach; rydyn ni wedi creu rhestr o’r pum gweithgaredd chwaraeon gorau i chi eu mwynhau yn y ddinas.
Cardiff Foxes

Pwy sy’ ddim yn hoffi rhedeg? Mae’n hawdd, yn gyflym, a does dim angen unrhyw sgil! Os nad ydych chi am redeg ar eich pen eich hun, beth am ymuno â Cardiff Foxes? Maen nhw’n grŵp rhedeg sy’n cwrdd bob dydd Sul am 10.20am wrth ymyl Brodie’s ym Mharc Bute. Mae sôn bod te a theisen yn cael eu bwyta ar ôl rhedeg 5km. Mae rhai pobl hoyw rwy’n eu nabod yn hepgor y rhedeg yn gyfan gwbl ac yn mynd yn syth i’r rhan bwyta teisenni.
Cardiff Baseliners

Mae Caerdydd hefyd yn gartref i Cardiff Baseliners, clwb tennis cynhwysol LHDTC+ cyntaf Cymru. Er, os nad chwarae yw eich cryfder, mae gwylio hefyd yn opsiwn. Awydd swingio raced neu wylio o’r ochr? Mae croeso i chi alw draw bob dydd Sadwrn yng Nghlwb Tennis yr Eglwys Newydd rhwng 11am ac 1pm.
Clwb Rygbi Llewod Caerdydd

Clwb Rygbi Llewod Caerdydd yw tîm rygbi cynhwysol LHDTC+ cyntaf Cymru ac maen nhw wedi bod yn chwarae rygbi ers 2004. Cadwch lygad ar eu gwefan a’u cyfryngau cymdeithasol i weld pryd mae eu gemau cartref er mwyn dangos eich cefnogaeth ac ymuno â nhw am ddiod i ddathlu neu gydymdeimlo, yn dibynnu ar y sgôr!
Be Gay Do Climbs

Mae gan Be Gay Do Climbs enw gwych. Rwy’n cymryd eich bod chi eisoes wedi dyfalu beth maen nhw’n ei wneud. Mae’r dringwyr LHDTC+ yn cwrdd bob dydd Llun yn Boulders ar Heol Casnewydd a phob dydd Iau yn Flashpoint Cardiff, gan fynd i’r afael â waliau dringo gwahanol. E-bostiwch bgdccardiff@outlook.com i gael rhagor o wybodaeth.
Queer Emporium

Er y gall cadw’n actif fod yn llawer o hwyl, os ydych chi’n chwilio am rywbeth llai egnïol i’w wneud, beth am ymweld â’r Queer Emporium? Maen nhw’n cynnal llawer o ddigwyddiadau; bydd rhywbeth i’w wneud bob tro i chi fynd. Mae ein ffefrynnau yn cynnwys Pride & Pen, gweithdy barddoniaeth misol sy’n eich galluogi i hogi eich sgiliau dan arweiniad aelod o’u tîm. Maen nhw hefyd yn cynnig Cyfarfod Rhieni Cwiar – lle i rieni a theuluoedd cwiar ddod at ei gilydd a chwrdd dros goffi. Manylion yma: https://queeremporium.co.uk/