Popeth Sydd Angen i chi ei Wybod am Feicio yng Nghaerdydd

Dydd Mawrth, 2 Medi 2025


 

Wyddech chi fod Taith Prydain yn digwydd yng Nghaerdydd ddydd Sul? Felly, os ydych chi wedi‘ch ysbrydoli i chwilio am eich hen feic, neu efallai am roi cynnig ar feicio fel hobi newydd, yna dyma 7 rheswm pam y dylech chi ymweld â Chaerdydd…

1. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd gyda Pedal Power

Mae Pedal Power, sydd yn y parc carafanau ym Mhontcanna, ac ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, yn elusen sy’n annog pobl o bob oed a gallu i brofi manteision beicio. Mae gan y tîm ystod eang o feiciau a threiciau safonol ac addasol i archwilio’r ddinas gyda nhw; gan gyflenwi e-feiciau hyd yn oed os ydych chi am wneud pethau ychydig yn haws.

Os ydych chi’n teimlo ychydig yn nerfus am feicio ac am edrych ar ffyrdd o fagu hyder ar feic, cadwch le ar un o sesiynau hyfforddi sgiliau beicio Pedal Power.

Yr isafswm cyfnod llogi ar gyfer y beiciau yw 1 awr, ac mae dull adnabod â llun yn hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch bookings@cardiffpedalpower.org.uk neu ewch i’w gwefan Pedal Power.

2. Archwiliwch ragor gyda Theithiau Ding

Beiciwch o amgylch Prifddinas Cymru gyda Theithiau Ding, cwmni teithiau sy’n mynd â chi ar daith unigryw o amgylch y ddinas, a chyda’u beiciau glas arbennig â chlychau traddodiadol, ni fydd modd i chi eu colli.

Archwiliwch y golygfeydd gyda grŵp beicio a dysgu mwy am yr hanes y tu ôl i dirnodau diddorol Caerdydd. Os ydych chi’n poeni am y cyflymder neu ffitrwydd, mae seibiannau rheolaidd yn cael eu cymryd drwy gydol y teithiau, neu os oes awydd arnoch i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol, gallwch archebu taith bwrpasol i gael diwrnod allan gyda’r teulu neu ffrindiau.

Mae’r daith yn para tua 3 awr ac yn costio o £25 i oedolion a £15 i blant. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Teithiau Beicio Ding

3. O’r môr i’r awyr ar Daith Taf

Mae Taith Taf yn llwybr beicio 55 milltir rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, gan ddechrau yng nglannau hardd Bae Caerdydd. Yna mae’r llwybr yn dilyn yr afon trwy ganol bywiog y ddinas, cyn i chi fynd tuag at y Castell Coch hanesyddol a’r mynyddoedd y tu hwnt.

Trwy gydol y llwybr byddwch yn profi rheilffyrdd segur, cefnlenni mynyddig, bywyd gwyllt rhyfeddol, a digon o safleoedd picnic ar ei draws. Mae’r llwybrau wedi’u cynnal yn dda, gyda lleoedd i stopio ar y ffordd os oes angen.

4. Darganfyddwch ragor ar Lwybr Bae Caerdydd

Mae’r llwybr cylchol hwn o amgylch y Bae yn ymestyn dros 10km gyda golygfeydd dros aber afon Hafren… yn sicr, ni ddylid ei golli!

Darganfyddwch ragor am hanes cyfoethog a thirnodau Caerdydd ar y llwybr gyda map llwybr y Bae, a pheidiwch ag anghofio stopio ger un o’r atyniadau niferus ar y llwybr, gan gynnwys yr ardal chwarae i blant, campfa awyr agored adiZone a’r morglawdd, neu bachwch sedd a chael tamaid i’w fwyta yn un o’r caffis, bariau a bwytai amrywiol, sy’n barod ar eich cyfer. Lawrlwythwch y map a’r canllaw yn croesocaerdydd.com

5. Archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru

Yn cwmpasu dros 15.60km rhwng Caerdydd a Chasnewydd, mae gan Lwybr Arfordir Cymru olygfeydd hardd ar draws aber afon Hafren, a digon o gyfleoedd i wylio adar oherwydd y fflatiau llaid a’r morfa heli sy’n denu’r adar hirgoes.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i brofi pensaernïaeth eiconig, gan gynnwys Morglawdd Bae Caerdydd, Pont Gludo Casnewydd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu gweld Ynys Echni a Weston-Super-Mare yn y pellter wrth feicio dros y morglawdd.

*Byddwch yn ymwybodol bod gwaith yn mynd rhagddo ar Ffordd Rover – felly efallai y bydd angen gwneud gwyriadau.

6. Ble i storio’ch beic

Mae’r Bike Lock yn gyfleuster storio beiciau yng nghanol dinas Caerdydd sydd hefyd â chaffi gyda choffi arbenigol, a gofod cyfarfod a digwyddiadau.

Mae gan y lleoliad storfa ddiogel ar gyfer hyd at 50 o feiciau, pwyntiau gwefru ar gyfer e-feiciau, ac os oes angen cawod arnoch cyn mynd allan i’ch cyrchfan, peidiwch â phoeni, mae cawod a chyfleusterau newid ar gael. Mae storio dydd yn dechrau o £3.

Fel arall, lawrlwythwch Ap SpokeSafe, ewch ati i greu cyfrif a dewiswch Caerdydd fel eich lleoliad, a dod o hyd i le o amgylch y ddinas. Mae prisiau dyddiol yn dechrau o £1.50, gyda phrisiau wythnosol yn costio £7.50, a phrisiau loceri misol yn £20. Rhagor o wybodaeth am SpokeSafe yma.

Am ragor o wybodaeth, llwybrau a chyngor, lawrlwythwch Map cerdded a beicio Caerdydd.

7. 7) Magu hyder gyda Chyrsiau Hyfforddi Beicio

Ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd? Gyda llwybrau beicio cynyddol y ddinas, a mwy o gyflogwyr sy’n cynnig cynlluniau beicio i’r gwaith, gallai fod yn bryd i chi fynd ar gefn eich beic i deithio o amgylch y ddinas.

Fodd bynnag, i’r rheini nad ydynt yn teimlo’n hyderus wrth feicio o amgylch dinas brysur, peidiwch â phoeni, mae Hyfforddiant Beicio i Oedolion ar gael am ddim trwy wefan y Cyngor gyda gwersi yn amrywio o ddechreuwyr i feicwyr profiadol.

Neu os ydych chi’n chwilio am gyrsiau cynnal a chadw i’ch helpu i ddysgu sut i ofalu am eich beic, mae Gweithdy Beicio Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer dechreuwyr i bobl broffesiynol.

Mwynhewch y Beicio!