Beth wyt ti'n edrych am?
Mae Caerdydd yn ddinas gyfeillgar i'r gymuned LHDTC+
Dydd Llun, 22 Medi 2025
Ysgrifennwyd gan Berwyn Rowlands ar gyfer Croeso Caerdydd
Gan ei bod yn gartref i Pride Cymru, yr ŵyl Pride fwyaf yng Nghymru, mae Caerdydd yn fan poblogaidd ar gyfer popeth sy’n ymwneud â LHDTC+. Bob mis Mehefin mae’r digwyddiad hwn, sy’n un o wyliau Pride mwyaf y DU, yn denu dros 50,000 o ymwelwyr sy’n gorymdeithio yn y parêd cyn dathlu popeth cwiar yn yr ŵyl. Yn 2025, mae’r penwythnos hwn yn dathlu ei 40fed flwyddyn.

Y tu hwnt i’r ŵyl hon, mae Caerdydd yn parhau i fod yn gyfeillgar i’r gymuned LHDTC+ drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ddinas yn gartref i Ŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris, un o wyliau ffilm LHDTC+ mwyaf y byd. Mae’n strafagansa ffilmiau wythnos o hyd. Gydag amrywiaeth eang o wobrau ar gael, mae’r Ffilm Fer Ryngwladol orau yn ennill £40,000. Mae’r ŵyl yn dwyn ynghyd straeon o bob cwr o’r byd y mae’r cyfryngau prif ffrwd yn aml yn eu hanwybyddu. Mae Gwobr Iris yn rhoi llwyfan i’r ffilmiau hyn, gan daflu goleuni ar y straeon er mwyn i selogion ffilm a gwneuthurwyr ffilm eraill eu gwylio.

Yng nghanol y dydd ac rydych chi am gael coffi rhywle sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+? Y Queer Emporium yw’r lle i chi. Yn boblogaidd gyda’r gymuned LHDTC+, mae’n ffefryn go iawn i bobl ifanc, gydag un o bob deg o’u cwsmeriaid o dan 18 oed. Mae’r lleoliad hwn hefyd yn gweithredu fel lle diogel i bob aelod o’r gymuned, yn enwedig i’r rhai sydd â hunaniaeth drawsryweddol, anneuaidd, a phobl nad ydynt yn cydymffurfio o ran eu rhywedd. Maen nhw’n cynnal ystod eang o ddigwyddiadau gan gynnwys nosweithiau comedi a gwib garu. Mae’n ganolfan gymunedol ar gyfer digwyddiadau, cymdeithasu, a chefnogi busnesau sy’n cael eu rhedeg gan bobl cwiar.

Pwy sy’ ddim yn caru perfformiwr drag? Mae gan Gaerdydd y cyfan, Breninesau Drag, Brenhinoedd Drag, a phopeth rhwng y ddau. Mae lleoliadau poblogaidd fel Pulse a’r Kings yn cynnig bingo Brenhines Drag a karaoke. Bob blwyddyn, mae’r Kings yn cynnal cystadleuaeth ‘Jolene’s Drag Race’ lle mae’r seren drag lleol Jolene Dover yn dod â rhai o berfformwyr gorau’r ddinas at ei gilydd i actio, cydwefuso a pherfformio, a bydd un ohonynt yn cipio’r goron. Mae bariau eraill fel y Golden Cross a Mary’s, yn ogystal â sefydliadau newydd fel y Dock Feeder, yn croesawu pobl LHDTC+ ac yn darparu mannau ar gyfer yfed, dawnsio, a hwyl a sbri gyda’ch ffrindiau cwiar. Lleoliad poblogaidd arall yw Eclipse, sy’n cynnig amrywiaeth o nosweithiau gwahanol fel ‘Hush Hush’, parti ‘techno’ cwiar. Gydag artistiaid hollbresennol fel Chae gyda C a Diva Divine, cewch eich croesawu ar unwaith gan frenhines ddisglair.

Mae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth enfawr o ddathliadau a lleoliadau LHDTC+, ac yn sicr yn hyrwyddo ac yn rhoi llwyfan i’w phobl LHDTC+. O Ŵyl Ffilm Gwobr Iris i’r Queer Emporium a’r Kings, mae amrywiaeth anferth o fannau wedi’u neilltuo i’r gymuned cwiar.