Hanes Hoyw Caerdydd!

Dydd Iau, 25 Medi 2025

Ysgrifennwyd gan Berwyn Rowlands ar gyfer Croeso Caerdydd


 

Wrth siarad am swyn Caerdydd, ni allwch anwybyddu ymdrechion y gymuned LHDTC+ wrth ffurfio’r ddinas amrywiol a disglair hon. Wrth edrych ar bobl LHDTC+ o’r gorffennol, rydyn ni wedi creu rhestr o rai o’n hoff rannau o hanes hir a hoyw’r ddinas hon.

 

Ivor Novello

Ganed y cyfansoddwr, cantor ac actor Ivor Novello yng Nghaerdydd ym 1893. Un o’r diddanwyr mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ar ddechrau’r 20fed ganrif, ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y gân “Keep the Fires Burning” (1914). Gwyddys bod gan Novello lawer o gariadon, ac roedd mewn perthynas hirdymor ag actor arall, Bobbie Andrews. Ewch i Fae Caerdydd i weld ei gerflun.

 

Cysegrfa Ianto

Image: Suntooooth

Nid nepell o gerflun Novello fe welwch gysegrfa sydd wedi’i chysegru i un o’r cymeriadau LHDTC+ mwyaf poblogaidd, Ianto Jones. Roedd Ianto Jones yn un o’r ‘Torchwood Five’ yn y gyfres Torchwood, rhaglen deledu ffuglen wyddonol Brydeinig a grëwyd gan Russell T Davies, a ddeilliodd o adfywiad y gyfres Doctor Who yn 2005. Gan ymddangos yn Doctor Who hefyd, chwaraewyd rhan Ianto Jones gan Gareth David-Lloyd. Roedd y cymeriad mewn perthynas gariadus â Chapten Jack (John Barrowman), a daeth y ddau i fod yn eiconau hoyw poblogaidd. Gan ddilyn llwybr llawer o gymeriadau cwiar trasig o’r gorffennol, bu farw Ianto Jones yng Nghyfres 3 Pennod 4, a chodwyd y gysegrfa yn fuan wedi hynny.

 

Sarah Jones

Archesgob lesbiaidd cyntaf Cymru yw’r Gwir Barchedig Cherry Vann, ac mae ei phenodiad wedi cael sylw mawr yn y cyfryngau rhyngwladol. Fodd bynnag, mae Caerdydd yn falch iawn o’r Parchedig Sarah Jones, offeiriad Anglicanaidd trawsryweddol sydd wedi’i lleoli yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd. Hi yw’r person cyntaf i newid rhywedd ac yna cael ei hordeinio gan Eglwys Loegr. Mae’r Parchedig Sarah Jones, sy’n siaradwr cyhoeddus blaenllaw, yn gweithio i bontio’r bwlch rhwng y gymuned LHDTC+ a chrefydd.

Victoria Scone

Image: DVSROSS Photography

Fe wnaeth y frenhines drag a’r comedïwr o Gaerdydd greu hanes yn 2021 wrth iddynt fod y frenhines drag gyntaf yr aseiniwyd rhywedd benywaidd iddynt pan gawsant eu geni i gystadlu ar RuPaul’s Drag Race UK. Sbardunodd eu hymddangosiad sgyrsiau ynghylch rhywedd a drag, gan ddangos bod drag yn gelfyddyd i bawb. Ar ôl cael eu gorfodi i adael y gystadleuaeth yn dilyn anaf, dychwelodd Victoria Scone i gystadlu yn ‘Canada’s Drag Race: Canada vs The World’ (Cyfres 1), lle gwnaethon nhw gyrraedd y pedwar uchaf, gan ddyrchafu talent LHDTC+ Cymru.

 

Iris

Ym mytholeg Groeg, Iris yw duwies yr enfys. Mae hi’n cael ei phortreadu fel un cyflym, sy’n gweithredu fel pont rhwng y nefoedd a’r ddaear. Hi hefyd a fenthycodd ei henw i Wobr Iris – gŵyl ffilmiau byrion LHDTC+ Caerdydd sy’n cyflwyno’r wobr fwyaf yn y byd ar gyfer ffilmiau byrion. Gyda ffilmiau o bob cwr o’r byd yn cystadlu, mae’r enillydd yn derbyn £40,000 i greu ffilm fer newydd. Yr unig dro i Iris gael ei gweld yng Nghaerdydd yw yn y llun hwn a dynnwyd gan Jon Poutney.