Beth wyt ti'n edrych am?
Depot yn y Castell: Bydd The Wombats Yn Perfformio Yng Nghastell Caerdydd Ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2026
Dydd Gwener, 26 Medi 2025
FEL RHAN O GYFRES ‘TK MAXX YN CYFLWYNO DEPO YN FYW’ YR HAF
Bydd hoff ŵyl Caerdydd sy’n addas i deuluoedd, Depo yn y Castell, yn dychwelyd i dir eiconig Castell Caerdydd ar ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2026, gyda’r cewri indie The Wombats yn brif berfformwyr yn yr hyn sy’n addo bod yn ddathliad haf bythgofiadwy arall. Mae’r dyddiad yn rhan o gyfres ‘TK Maxx yn cyflwyno Depo yn Fyw’ yr haf.
Ar ôl rhyddhau eu chweched albwm stiwdio clodfawr Oh! The Ocean a chyfres enfawr o sioeau fel prif perfformwyr mewn arenâu ledled y byd, mae The Wombats yn parhau i fod yn un o fandiau indie mwyaf poblogaidd a pharhaol y DU.
Yn enwog am anthemau a ddiffiniodd cenhedlaeth gan gynnwys Let’s Dance to Joy Division, Moving to New York, Greek Tragedy a Kill the Director, mae eu pop-gitâr heintus yn parhau i swyno cynulleidfaoedd hen a newydd. Profodd eu perfformiad yn Reading yn 2024 eu bod yn dal i fod ar eu hanterth, gyda thorf o bobl ifanc 18-24 oed yn ymestyn ymhell y tu hwnt i babell Radio 1.
Wedi’i osod yn erbyn cefndir trawiadol Castell Caerdydd, mae Depo yn y Castell yn fwy na gŵyl gerddoriaeth. Bydd bwyd stryd, gweithgareddau addas i deuluoedd, ac awyrgylch gŵyl llawn bwrlwm i bobl o bob oedran fwynhau. Bydd artistiaid cefnogi ar gyfer DYYC 2026 yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Bellach wedi’i hen sefydlu fel un o ddigwyddiadau haf mwyaf nodedig Cymru, mae Depo yn y Castell wedi croesawu rhai enwau anhygoel i’w lwyfan. Jess Glynne oedd y prif berfformiwr yn 2025, ochr yn ochr â rhestr lawn o berfformwyr mawr gan gynnwys Maxïmo Park, Sigma, Kate Nash, Professor Green, a Goldie Lookin’ Chain. Mae prif berfformwyr blaenorol hefyd wedi cynnwys Mel C, Kaiser Chiefs, Tom Grennan, Ella Eyre, Clean Bandit, Toploader a The Fratellis.
Dywedodd sylfaenydd yr ŵyl, Nick Saunders: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r Wombats i Gastell Caerdydd ar gyfer Depo yn y Castell 2026. Maen nhw’n un o’r actiau byw mwyaf cyffrous yn y DU, gyda chatalog o ganeuon sy’n rhychwantu bron i ddau ddegawd ac albwm newydd sy’n dangos eu bod nhw’n dal i fwrw ymlaen.
Ar ôl egni ac awyrgylch y llynedd gyda Jess Glynne a lein-yp bendigedig, allwn ni ddim aros i weld Castell Caerdydd yn bownsio eto yn 2026.”
Mae’r digwyddiad diwrnod cyfan hwn yn dueddol o werthu allan yn gyflym, felly rydym yn annog ffans i brynu eu tocynnau’n gynnar – bydd rhai tocynnau ar gael ymlaen llaw am 10am ddydd Iau 2 Hydref; a bydd y gweddill ar werth am 10am ddydd Gwener 3 Hydref.
Cofrestrwch nawr yn depotinthecastle.com.