Beth wyt ti'n edrych am?
Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Oysho Caerdydd ar 5 Hydref
Wednesday, 24 September 2025

Gyda Hanner Marathon Oysho Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 5 Hydref, mae disgwyl i’r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio rhag blaen a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.
O 5am ddydd Mercher 1 Hydref, byddwn yn dechrau cau ffyrdd yn y Ganolfan Ddinesig i baratoi pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.
O 5am ymlaen Dydd Iau, 2 Hydref tan ychydig cyn hanner nos ddydd Llun 6 Hydref
Rhodfa’r Brenin Edward VII i Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas
O 5am ymlaen ar ddydd Sadwrn 4 tan ychydig cyn hanner nos ar ddydd Sul 5 Hydref bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Rhodfa’r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o’r gyffordd â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
- Rhodfa’r Amgueddfa o’r pen caeedig â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd
- Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas y Parc i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa
- Heol Neuadd y Ddinas o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Heol y Gogledd.
Caniateir mynediad ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9.00am Dydd Sadwrn 4 Hydref – Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu o Heol y Gogledd pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.
Bydd cyfres o ffyrdd ar gau ar gyfer y digwyddiad ddydd Sul, 5 Hydref, yn ystod yr amseroedd canlynol:
Rhwng 6am a 10.45am bydd y ffordd ganlynol ar gau: Ffordd y Gogledd o’r gyffordd â Colum Road i’r gyffordd â Boulevard de Nantes (ceir mynediad i Blackweir drwy Blas-y-Parc/Heol Corbett, tua’r gogledd ar Heol y Gogledd).
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a 12 hanner dydd:
- Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
- Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin,
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
- Heol y Dug a Stryd y Castell
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:
- Heol Colum
- Plas y Parc o’r gyffordd â Maes St Andrew i’r gyffordd â Heol Colum.
Trefniadau mynediad tra bo’r mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad.
Ceir mynediad i Beatty Avenue o’r gyffordd â Heol Ogleddol y Llyn yn unig (gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)
Rheolir mynediad i Sgwâr y Frenhines Ann trwy Heol Colum/Heol Corbett a gellir ymadael trwy Heol Corbett/Heol y Gogledd tua’r gogledd.
Lady Mary Road o’r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn.
Rhwng 8.30am a 3.10pm, bydd ffordd dreigl ar gau i hwyluso’r digwyddiad.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
- Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
- Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas
- Cei Britannia, Stryd Pen y Lanfa, Plas Bute, Rhodfa Lloyd George
- Stryd Herbert, Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor
- Stryd Adam, Plas Fitzalan yn mynd ar draws Heol Casnewydd
- Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
- Heol Marlborough, Heol Blenheim, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
- Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn – bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy’r brif fynedfa.
- Heol y Dderwen Deg, Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa
Sylwer – bydd trigolion a busnesau ym Mae Caerdydd yn derbyn llythyr ychwanegol yn dangos y llwybr dargyfeirio y bydd y Cyngor yn llwyddo i ganiatáu mynediad ac allan. Bydd hyn trwy Rodfa Celerity, Rhodfe Craiglee, Letton Way, Rhodfa Lloyd George a Phlas Bute. Cyn gynted ag y bydd y ffyrdd yn cael eu hail-agor o fewn yr ardal honno, bydd mynediad ac allanfa yn ailddechrau fel arfer.
Os caiff y llwybr ei gwblhau’n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.
Bydd y giât bysiau ar Heol y Porth yn cael ei atal dros dro drwy gydol y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar Ddydd Sul 5 Hydref.